Cryfhau Llif a Rhyddhau

Mae hwn yn faes allweddol o’r Rhaglen Pobl Hŷn, i ddysgu mwy am y rhaglen cliciwch yma.

Helpu Pobl i Wella’n Ddiogel Gartref

Mae’r rhan fwyaf o bobl am wella a derbyn cymorth yn eu cartref eu hunain pryd bynnag y bo modd. Mae Rhaglen Pobl Hŷn Gorllewin Morgannwg yn gweithio gyda phartneriaid ar draws iechyd a gofal cymdeithasol i gryfhau gwasanaethau sy’n helpu pobl i ddychwelyd adref yn ddiogel, gwella’n dda a chynnal eu hannibyniaeth ar ôl salwch neu arhosiad yn yr ysbyty.

Mae ein gwaith wedi’i adeiladu o amgylch yr ymagwedd Gartref yn Gyntaf a’r llwybrau  Rhyddhau i Adfer yna Asesu, gan sicrhau bod pobl yn derbyn y cymorth cywir, yn y lle cywir, ar yr adeg gywir. Mae hyn yn cynnwys gwella gwasanaethau adferiad, asesu ac adsefydlu yn y gymuned ar ôl rhyddhau o’r ysbyty.

Mae’r meysydd gwaith allweddol yn cynnwys:

  • Cryfhau llwybrau Gartref yn Gyntaf a Rhyddhau i Adfer yna Asesu ar draws y rhanbarth.
  • Gwella gwasanaethau gofal canolraddol, ail-alluogi a chymorth cymunedol.

Drwy weithio gyda’n gilydd ar draws sefydliadau, rydym yn creu system fwy cydlynus sy’n cefnogi pobl i wella’n agosach at gartref ac aros yn annibynnol am gyfnod hwy.

Rhaglen Pobl Hŷn