Datganiad Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau bod y rheini sy’n defnyddio ein gwefan yn cael profiad cadarnhaol o’r cychwyn. Rydym wedi cymryd camau i sicrhau bod y cynnwys a gynhwysir ar y wefan mor glir a chryno â phosib, a byddwn yn ymdrechu i wella hygyrchedd yn unol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.1.

Rydym yn ymrwymedig i greu gwefan sy’n osgoi defnyddio jargon ac sy’n defnyddio Cymraeg a Saesneg clir. Ein nod yw cyflwyno’r holl wybodaeth mewn trefn resymegol, gan gadw’r dyluniad mor syml a chyson â phosib drwyddo draw.

Efallai na fydd rhai dogfennau neu ddolenni a gynhwysir ar y wefan yn gwbl hygyrch. Yn yr achosion hyn, cynhwysir cyfarwyddiadau ar sut i ofyn am yr wybodaeth hon mewn fformat arall.

Mae gan AbilityNet wybodaeth am sut i wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych ofyniad mynediad penodol.

Hygyrchedd y wefan

Gwyddwn nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • mae rhai tudalennau ac atodiadau dogfennau yn cynnwys terminoleg dechnegol na fyddai’n cael ei hystyried yn Gymraeg na Saesneg clir
  • gall rhai penawdau fod yn anghyson
  • mae rhai dogfennau ar gael mewn fformatau nad ydynt yn hygyrch i’r rheini sy’n defnyddio meddalwedd darllen sgrîn.

O ystyried cwmpas cylch gwaith y bartneriaeth a’r adnoddau cyfyngedig sydd ar gael o fewn ein tîm rhanbarthol bach, rydym wedi dod i’r casgliad y byddai’r costau meddalwedd a’r pwysau gweinyddol cynyddol sy’n gysylltiedig â’r gwaith parhaus o gynhyrchu dogfennau PDF cwbl hygyrch y gellir eu darllen ar sgrin yn faich anghymesur.

Amlygir y dull ar gyfer gofyn am fformatau amgen ar y gwedudalennau perthnasol. Ers sefydlu’r bartneriaeth yn 2012, rydym wedi cysylltu â defnyddwyr i sicrhau bod gofynion hygyrchedd penodol yn cael eu bodloni mewn modd amserol.

Sut i ofyn am wybodaeth mewn fformat arall

Os oes angen arnoch unrhyw wybodaeth sy’n ymddangos ar y wefan hon mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni drwy un o’r dulliau a restrir ar ein tudalen Cysylltu â ni. Bydd angen i chi ddarparu’r canlynol i ni:

  • enw’r ddogfen neu’r wedudalen sydd ei hangen arnoch
  • y math o fformat sydd ei angen arnoch
  • eich enw a’ch manylion cyswllt.

Ein nod yw ymateb i geisiadau o fewn 3 niwrnod gwaith.

Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i gynnwys a gyhoeddir ar barth www.westglamorgan.org.uk/cy/cymraeg/ Nid yw’n berthnasol i wefannau ein sefydliadau partner neu wefannau sy’n perthyn i ffrydiau gwaith eraill sy’n gysylltiedig â Phartneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg (e.e. Bwrdd Diogelu Gorllewin Morgannwg, neu Wasanaeth Mabwysiadu Bae’r Gorllewin).

Adrodd am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon.

Os byddwch yn ymwybodol o unrhyw faterion hygyrchedd nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau am ein gwefan, cysylltwch â ni drwy un o’r dulliau a restrir ar ein tudalen Cysylltu â ni