Welcome toThe West Glamorgan Regional Partnership

We bring organisations and volunteers together to improve the health and well-being of the people of Neath Port Talbot and Swansea.

About us

Programmes

Dyddiadur #5

Dyddiadur Gweithio ar y Cyd #5

Croeso i ‘Dyddiadur Gweithio ar y Cyd’ Gorllewin Morgannwg!

Mae hon yn fenter newydd i ni ar gyfer 2024, lle byddwn yn trafod ein rhaglenni gwaith rhanbarthol.

Croeso i bumed cofnod Dyddiadur Gweithio ar y Cyd Gorllewin Morgannwg! Er gwaethaf y glaw mân cyson a’r gwyntoedd oer, rydym yn gobeithio y cafodd pawb y cyfle i orffwys ac ailfywiogi dros benwythnos gŵyl y banc a’ch bod yn barod i ddychwelyd i weithio rhanbarthol 😊

Mae’r rhifyn hwn yn rhoi crynodeb o gyfarfod diweddaraf Bwrdd Llywio a Chynghori 1, yn ogystal â’r wybodaeth ddiweddaraf am ymweliad gan Lywodraeth Cymru â phrosiect yn Abertawe sydd wedi derbyn fuddsoddiad drwy Gronfa Integreiddio Ranbarthol (RIF).


Bwrdd Llywio a Chynghori 1 (BLlaCH1)

Cyfarfu BLlaCH1 ddydd Mawrth 2 Ebrill a chafodd yr aelodau ddiweddariad ar y Rhaglen Gofalwyr. Canlyniad allweddol sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn yw’r cynllun seibiannau byr a gyflwynwyd y llynedd yn dilyn adborth gan ofalwyr a oedd yn teimlo y byddai cael y gallu i wneud cais am gyllid ar gyfer seibiant byr o’u rôl ofalu yn werthfawr tu hwnt. Trefnwyd bod arian grant ar gael i oedolion a gofalwyr ifanc a gafodd y cyfle i wneud cais am seibiant byr wedi’i deilwra’n benodol iddyn nhw a’u hanghenion a diddordebau personol.

Disgwylir i’r cyllid hwn gael ei adnewyddu am flwyddyn arall, ac mae opsiynau ynghylch sut y gellid ei ddyrannu’n cael eu harchwilio. 

Codwyd pwnc cyfathrebu ac ymgysylltu â gofalwyr hefyd yn BLlaCH1 ac mae cynlluniau ar y gweill i drefnu digwyddiad blynyddol i ofalwyr, ynghyd â digwyddiad ar wahân yn benodol i ofalwyr ifanc. Mae ymgyrch radio i dynnu sylw at waith hanfodol gofalwyr di-dâl hefyd yn yr arfaeth, felly cadwch lygad (neu clustfeiniwch!) amdani.

Cafodd aelodau BLlaCH1 ddiweddariad hefyd ar y rhaglen Cymunedau a Phobl Hŷn newydd. Mae cynlluniau i gyd-gynhyrchu strategaeth ranbarthol newydd yn datblygu, a disgwylir i gyfres o weithgareddau ymgysylltu ddigwydd yn y misoedd sy’n dod.

Bydd y rhaglen yn cynnwys ffrydiau gwaith eraill hefyd, gan gynnwys ‘ymyrryd yn gynnar ac atal’, ‘atal cwympiadau’ a rhoi’r Strategaeth Gwirfoddoli ranbarthol ar waith (cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth). 


Ymweliad â’r Prosiect Datblygu Congolaidd

Image of staff at the Congolese Development Project

Ddydd Mercher 3 Ebrill, ymunodd swyddogion o Lywodraeth Cymru ag aelodau o dîm Gorllewin Morgannwg i ymweld â’r Prosiect Datblygu Congolaidd sydd a’i chanolfan yn Oriel Elusium yng nghanol dinas Abertawe. Mae’r prosiect gwych hwn yn derbyn cyllid drwy’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol (CIRh) i ddarparu cefnogaeth emosiynol a chyfleoedd rhwydweithio i bobl sy’n cyrraedd y Deyrnas Unedig o dramor, y mae llawer ohonynt yn ceisio lloches.

Mae’r prosiect hefyd yn helpu cyfranogwyr â thasgau gweinyddol a TG personol. Mae’r gweithgareddau eraill sydd ar gael yn cynnwys dosbarthiadau cerddoriaeth, sesiynau cefnogi cymheiriaid a thripiau undydd difyr.
Cawsom amser gwych yn cwrdd ag aelodau staff, gwirfoddolwyr a chyfranogwyr y prosiect a chlywed ganddynt. Cadwch lygad am gofnod yn y dyddiadur yn y dyfodol ar gyfer ein stori ddigidol i ddathlu’r prosiect a’i effaith, mae ein cydweithwyr cyfathrebiadau’n brysur yn ei olygu’n awr!

Dyna’r cyfan am y rhifyn hwn – welwn ni chi ar ôl y BLlaCH nesaf!