Journal 3

Dyddiadur Gweithio ar y Cyd #3

Croeso i ‘Dyddiadur Gweithio ar y Cyd’ Gorllewin Morgannwg!

Mae hon yn fenter newydd i ni ar gyfer 2024, lle byddwn yn trafod ein rhaglenni gwaith rhanbarthol.

Croeso i gofnod diweddaraf ein Dyddiadur Gweithio ar y Cyd! Heddiw rydym yn canolbwyntio ar beth ddigwyddodd yn y Bwrdd Llywio a Chynghori diweddaraf, stori ddigidol newydd sbon ac ymweliad y gweinidog.

Bwrdd Llywio a Chynghori 2 (BLlCh2)

Croeso i gofnod diweddaraf ein Dyddiadur Gweithio ar y Cyd! Heddiw rydym yn canolbwyntio ar beth ddigwyddodd yn y Bwrdd Llywio a Chynghori diweddaraf, stori ddigidol newydd sbon ac ymweliad y gweinidog.

  • Mae gwaith bellach yn mynd rhagddo i gynllunio ar gyfer rhoi Strategaeth Lles Emosiynol a Meddyliol Gorllewin Morgannwg ar waith. Os hoffech chi ddweud eich dweud ar y blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, rydym yn cynnal sesiwn galw heibio o’r enw ‘Rhoi Gweledigaeth ar Waith’ ddydd Gwener 8 Mawrth (10am – 12.30pm) yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.
  • Cymeradwywyd y Strategaeth Anabledd Dysgu Ranbarthol (2024-2029) gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn gynharach eleni. Rydym bellach yn y cam cyflwyno ac mae cynllun wedi’i ddatblygu. Bydd cynnydd a chanlyniadau’n cael eu monitro a’u hadrodd yn ôl drwy BLlC2. Bydd strategaeth ar wahân ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ag Anabledd Dysgu – rydym yn y broses o lunio cynllun ymgysylltu i lywio’r strategaeth newydd. 
  • Rydym yn y broses o drefnu gweithdy i archwilio’r heriau y mae pobl ag anabledd dysgu yn eu hwynebu o ran trafnidiaeth. Bydd y sesiwn yn cael ei chynllunio ar y cyd ag aelodau o’r fforwm ‘Dweud Eich Dweud’. 

Stori ‘Active 18’

Cafodd aelodau’r Bwrdd y pleser o weld fideo ysbrydoledig sy’n dangos gwaith un o brosiectau a ariannwyd gan y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol (RIF).

Mae ‘Discovery’ yn wasanaeth gwirfoddoli i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe. Mae eu prosiect ‘Active 18’ yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gysylltu ag oedolion lleol ag anableddau dysgu a threfnu gweithgareddau hwyliog ar eu cyfer.

Aeth ein tîm draw i barti Calan Gaeaf blynyddol y prosiect i gael cipolwg ar ‘Active 18’ ar waith a’r effaith ar fywydau’r cyfranogwyr:

Dirprwy Weinidog yn ymweld â’r Ganolfan Cymorth Cynnar

Tynnwyd sylw at waith gwych Canolfan Cymorth Cynnar y Cwm yn Llansamlet yn gynharach y mis hwn yn ystod ymweliad gan y Dirprwy Weinidog dros Les ac Iechyd Meddwl, Lynne Neagle.

Deputy Minister Lynne Neagle

Mae Canolfan Cymorth Cynnar y Cwm yn un o bum canolfan yn Abertawe sydd â’r nod o sicrhau bod plant a theuluoedd y mae angen cefnogaeth arnynt yn cael mynediad at yr help iawn ar yr adeg iawn, yn seiliedig ar yr hyn sydd bwysicaf iddyn nhw. Dyfarnwyd arian grant drwy Gronfa Integreiddio Rhanbarthol Llywodraeth Cymru, a weinyddir gan Bartneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg.

Cymerodd y Dirprwy Weinidog yr amser i gwrdd â’r rheini sy’n darparu’r gwasanaeth gwerthfawr hwn ac i ddarganfod rhagor am roi’r Fframwaith NYTH cenedlaethol ar waith, sy’n rhoi ystyriaethau iechyd meddwl a lles plant wrth wraidd cynllunio gwasanaethau ar gyfer babanod, plant, pobl ifanc a theuluoedd.

Mae rhagor o wybodaeth am yr ymweliad a Gorllewin Morgannwg yn ein cylchlythyr, sydd ar gael nawr!