Woman smiling with a child on her back

Amdanom Ni

Sefydlwyd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg fel rhan o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 gyda’r nod o wella iechyd a lles poblogaeth ein rhanbarth.

Sefydlwyd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, a elwid gynt yn ‘Bae’r Gorllewin’, yn 2012 gyda’r diben o integreiddio gwasanaethau’n fwy effeithiol.

Mae Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg yn un o saith yng Nghymru. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am gefndir a chyd-destun creu’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol.

Rydym yn canolbwyntio ar chwe rhaglen drawsnewidiol sydd yn cael eu darparu yng nghyd-destun Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Ein rhaglenni trawsnewidiol:

  • Partneriaeth Gofalwyr
  • Cymunedau a Phobl Hyn
  • Lles ac Anableddau Dysgu
  • Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl
  • Niwrowahaniaeth
  • Plant a Phobl Ifanc.