Rhaglen Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl

Mae cadw iechyd meddwl da yn ffactor hollbwysig ar gyfer gallu byw bywyd hapus a bodlon.

O ystyried yr effaith ddigynsail ar ein hiechyd meddwl fel cenedl, yn enwedig yng ngoleuni pandemig COVID-19, ni allwn barhau i wneud pethau yn yr un ffordd os ydym am ateb heriau’r dyfodol a bodloni galw cynyddo.

Mae cwmpas y Rhaglen Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl yn cynnwys ein dull strategol rhanbarthol o wella iechyd meddwl a lles ein poblogaeth. Mae hyn yn cwmpasu ystod eang o wasanaethau, sefydliadau a gweithgareddau, gan gynnwys atal iechyd meddwl gwael.

Ein gweledigaeth ar gyfer y rhaglen hon yw y gall pobl â chyflyrau a phroblemau iechyd meddwl gael mynediad at gymorth lle a phryd y mae ei angen ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol.