Older person being offered a hot drink

Rhaglen Cymunedau a Phobl Hŷn

Rhaglen waith newydd ar gyfer Gorllewin Morgannwg yw hon sy’n canolbwyntio ar ddatblygu modelau newydd o iechyd a gofal cymunedol sy’n integredig ac yn gynaliadwy yn ariannol

Nod y Rhaglen hon yw cyflawni’r canlynol:

  • Galluogi unigolion i aros yn annibynnol ac yn eu cartref eu hunain cyhyd ag y bo modd
  • Cynyddu gwasanaethau seibiant yn unol â galw cynyddol
  • Cryfhau’r model Rhyddhau i Adfer ac Asesu Llwybrau a sicrhau bod y cynnig ar gyfer y rheini sy’n gadael yr ysbyty yn seiliedig ar yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw 
  • Sicrhau rhyddhad diogel ac amserol o’r ysbyty
  • Datblygu a gwella gofal atal cwympiadau
  • Lleihau arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd
  • Parhau i wneud Gorllewin Morgannwg yn Rhanbarth sy’n Ystyriol o Ddementia
  • Datblygu a gwella dulliau atal i leihau’r angen am ofal acíwt a thymor hir
  • Darparu darpariaeth gofal gynaliadwy
  • Sicrhau ansawdd uchel o ofal mewn cartrefi gofal.