Partneriaeth Gofalwyr

Mae dros 50,000 o ofalwyr di-dâl ar draws rhanbarth Gorllewin Morgannwg, y mae llawer ohonynt yn darparu gofal sy’n atal yr angen am ymyriadau iechyd a gofal cymdeithasol.

Fel Partneriaeth, rydym wedi nodi ‘cefnogi anghenion gofalwyr’ fel un o’n blaenoriaethau allweddol. Cyflwynir y maes gwaith hwn drwy Fwrdd Partneriaeth Gofalwyr Gorllewin Morgannwg, sy’n cynnwys cynrychiolaeth gan ofalwyr, Cyngor Abertawe, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Canolfan Gofalwyr Abertawe, Gwasanaeth Gofalwyr Castell-nedd Port Talbot, a Chynghorau Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe.

Un o’r pethau allweddol y mae’r Bwrdd wedi’i gyflawni yw datblygu Strategaeth Gofalwyr bum mlynedd. Mae’n cydnabod gofalwyr fel trydedd golofn hanfodol y system iechyd a gofal cymdeithasol. Mae copi y gellir ei lawrlwytho o’r Strategaeth ar gael isod, ynghyd â fersiwn ‘Hawdd ei Darllen’:

Fforwm Cyswllt Gofalwyr

Gweledigaeth y Fforwm yw ‘creu fforwm lle gall gofalwyr greu llais ar y cyd, cael eu clywed a helpu i wneud newid cadarnhaol i wasanaethau iechyd a gofal ym Mhartneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg’.

Yn benodol, bwriad y Fforwm yw:

  • cydnabod gofalwyr fel trydedd golofn hanfodol y system iechyd a gofal cymdeithasol.
  • cydnabod gofalwyr fel arbenigwyr drwy brofiad.
  • sicrhau ei fod yn cynrychioli pob math o ofalwr.
  • cysylltu pobl a rhwydweithiau â’i gilydd.
  • bod yn llais dylanwadol a gwerthfawr ym Mhartneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg, a bod yn gyfaill beirniadol.
  • bod yn fan diogel lle gellir trafod materion a dod o hyd i atebion.
  • ysbrydoli newid er budd yr holl ofalwyr.
  • gallu gofyn cwestiynau mawr a helpu i ddod o hyd i’r atebion.
  • cefnogi mwy o ofalwyr i gymryd rhan ac ymgymryd â Rolau Cynrychioliadol.

Dogfennau Strategaeth

Sut i gymryd ran

Mae gennym rolau Gofalwr Cynrychiadol a chyfleoedd i bobl gyd-gynhyrchu a chyd-ddylunio gwasanaethau sy’n cyflawni yn erbyn yr uchelgeisiau a amlinellir yn ein Strategaeth, cysylltwch â ni: