Image of an open book

Geirfa Termau

Cyfeiriadur yw hwn o acronymau a thermau cyffredin a ddefnyddiwn yng ngwaith Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg.

Acronymau

AaGICIechyd, Addysg a Gwella Cymru
AAPAsesiad o Anghenion y Boblogaeth
ADAdnoddau Dynol neu Anabledd Dysgu
AGCArolygiaeth Gofal Cymru
AGC (neu CCN)Anghenion Gofal Cymhleth (neu ‘Comisiynu ar gyfer Anghenion Cymhleth’) 
ARhH neu’r IPCAtal a Rheoli Heintiau neu’r Sefydliad Gofal Cyhoeddus
BAMEPobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig
BIPBABwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
BPRhBwrdd Partneriaeth Rhanbarthol
CACyngor Abertawe 
CALl neu PDGCydlynu Ardaloedd Lleol neu Blant sy’n Derbyn Gofal
CAMPUSCyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol a Synhwyrol
CBSCNPTCyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot 
CCUHPConfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn
CGCylch Gorchwyl
CGGCyngor Gwasanaethau Gwirfoddol
CNPTCastell-nedd Port Talbot
DCPDogfen Cychwyn Prosiect
DCSCDyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
DSGCDull System Gyfan y Clwstwr 
DTOCOedi wrth Drosglwyddo Gofal
EHCEin Hymagwedd Cymdogaeth
FfGCFforwm Gwerth Cymdeithasol
GCaChGwybodaeth, Cyngor a Chymorth
GCIaThGofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai 
GGAGofal a Gomisiynir yn Allanol
GIPGofal Iechyd Parhaus 
GPGofal Parhaus
GWSGweithdrefn Weithredu Safonol
Hwb CARhHwb Cydlynu Arloesedd Rhanbarthol 
ICCIechyd Cyhoeddus Cymru
LHDT+Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol+ (mae’r + yn dynodi cynnwys tuedddfrydau rhywiol a hunaniaethau rhywedd eraill). 
LlEIMLles Emosiynol ac Iechyd Meddwl
MAPSSGwasanaeth Cefnogi Lleoliadau Amlasiantaeth 
MoDdMynegiant o Ddiddordeb 
MSRAdroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad
OCPOfferyn Cefnogi Penderfyniadau
PPIPlant a Phobl Ifanc
PRGPrif Raglen Gyfalaf 
RBAAtebolrwydd ar Sail Canlyniadau
RhGDdRhaglen Gyfalaf Ddewisol 
RhTGCRhaglen Trawsnewid Gofal Cymhleth
TATîm Amlddisgyblaethol
ThNTheori Newid 
TUCCyngres yr Undebau Llafur
VAWDASVTrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
WCCISSystem Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru
YAG neu YAaGYmchwilio, Arloesi a Gwella

Termau

A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I J L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y

A

Amcanion

Nodau datganedig menter i’w chyflawni. Gallai hyn gynnwys cyflawni nifer o Gynhyrchion neu roi nifer o dasgau o ar waith fewn cynllun. Rydym yn aml yn defnyddio’r dechneg CAMPUS i sicrhau bod ein Hamcanion yn cael eu disgrifio mewn ffordd glir ac effeithiol.

Amserlen

Yr offeryn a ddefnyddiwn i fanylu ar y camau penodol o fewn y Cynllun gan gynnwys pa dasgau sydd eu hangen, pwy fydd yn eu gwneud, a phryd y byddant yn cael eu dechrau/gorffen. Mae Amserlen yn cael ei chreu ar gyfer rhaglenni a phrosiectau gan ddefnyddio’n system Gweinydd Prosiectau.

Arbenigwr trwy Brofiad

Unigolyn sy’n gallu cynrychioli angen penodol yn seiliedig ar ei brofiad personol o’r angen hwnnw. O dan egwyddorion cydgynhyrchu, mae’r termau hyn yn ymwneud â phobl sy’n cael eu cydnabod am eu harbenigedd a’u gallu i gyflwyno gwir adlewyrchiad o’r profiad hwn i eraill.

B

Buddion

Effaith fesuradwy ar sefydliad neu fusnes, yn ein hachos ni, yn bennaf ar ein sefydliadau partner. Yn wahanol i Ganlyniadau (sy’n effeithio ar bobl yn gyffredinol), bydd budd yn effeithio ar y sefydliad naill ai mewn ffordd gadarnhaol (e.e. gostyngiad mewn costau cynnal gweithredol) neu mewn ffordd negyddol a elwir yn Anfantais (e.e. gall newid gwasanaeth arwain at gynnydd mewn galwadau i linell gymorth neu ganolfan gyswllt, sy’n dod gyda chost gysylltiedig).

Busnes fel arfer

Gwasanaeth a ddarperir gan y Bartneriaeth Ranbarthol, naill ai’n uniongyrchol i’n pobl neu i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a’i sefydliadau partner. 

C

Canlyniadau

Effaith fesuradwy ar gyflwr allweddol i rai neu bob un o’n pobl (e.e. gwell lles i ofalwyr). Efallai bydd gennym lawer o fentrau gwahanol yn cyfrannu at un canlyniad dros gyfnod hir.

Carfan

Grŵp bach o bobl neu is-set o gymuned fwy. Mewn rhai amgylchiadau, gall fod yn ddefnyddiol nodi pobl fel hyn i ganolbwyntio ar is-set benodol o bobl (er enghraifft, carfan o bobl sy’n ymwneud â menter beilot neu sydd ag angen penodol sy’n wahanol i’w cymuned ehangach).

Ceisiwr Lloches

Mae hyn yn cynrychioli’n benodol unrhyw berson sy’n ceisio cael ei gydnabod fel Ffoadur ond nid yw ei statws ffoadur wedi’i benderfynu’n gyfreithiol. Ni fydd pob Ceisiwr Lloches yn cael ei gydnabod fel Ffoadur yn y pen draw ond roedd pob Ffoadur yn Geisiwr Lloches i ddechrau.

Cenhadaeth

Sut rydym yn bwriadu symud ymlaen a chyflawni ein Gweledigaeth, naill ai o ran tasg glir neu ymrwymiad i weithio mewn ffordd benodol i sicrhau y gallwn gyflawni’r tasgau sydd eu hangen yn llwyddiannus.

Comisiynu Lleol

Pan fydd sefydliad yn comisiynu gwasanaeth naill ai o fewn ei ardal neu gymuned leol ei hun, neu dim ond i’w Defnyddwyr Gwasanaeth ei hun yn uniongyrchol.

Comisiynu Rhanbarthol

Lle bydd y Bartneriaeth Ranbarthol (neu endid arall sy’n canolbwyntio ar y rhanbarth) yn comisiynu gwasanaeth naill ai ar draws sawl ardal neu gymuned, neu gyda chyfranogiad amryfal sefydliadau i gyrraedd nifer mwy o ddefnyddwyr gwasanaeth yn uniongyrchol.

Comisiynydd

Unigolyn sy’n cynllunio’r gwasanaethau y mae ar ein pobl eu hangen ac sy’n sicrhau eu bod ar gael, gan gynnwys talu o bosib i’r gwasanaeth gael ei ddarparu gan unigolyn neu sefydliad arall.

Cymunedau

Grŵp mawr o bobl, a all fod yn seiliedig ar eu lleoliad daearyddol (fel cymuned Port Talbot neu Flaen-y-maes) neu eu nodweddion neu ddiddordebau a rennir (fel y gymuned gofalwyr di-dâl neu’r gymuned LHDT+). Bydd gan wahanol gymunedau wahanol anghenion, cryfderau a chyfleoedd.

Cynllun

Mae’n disgrifio “sut byddwn yn gwneud hyn” er mwyn rhoi ein strategaeth ar waith a chyflawni ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol. Mae’r Cynllun yn bwysig i esbonio pa gamau rydym yn bwriadu eu cymryd mewn ffordd y gall pawb ddeall yr hyn sy’n mynd i ddigwydd ac effaith hyn. Mae dogfen gynllun yn cyfuno gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerir yn ystod oes y rhaglen neu’r prosiect sy’n gyfrifol am ei chyflawni.

Cynnyrch

Rhywbeth sy’n cael ei greu gan fenter er mwyn ein helpu i gyflawni ein Hamcanion. Gallai fod yn ddogfen, yn broses, yn neges bwysig i’w rhannu… unrhyw beth sy’n cael ei greu gan raglen neu brosiect Mae rhai o’n cynhyrchion yn cael eu cydgynhyrchu’n unol â’n Fframwaith Cydgynhyrchu Rhanbarthol. Mae termau eraill ar gyfer ‘Cynnyrch’ yn cynnwys ‘Cynhyrchion’ neu ‘y pethau y mae modd eu cyflwyno’.

Cynrychiolydd

Unigolyn sydd wedi’i enwebu neu sy’n gwirfoddoli i gynrychioli barn grŵp o bobl (fel gofalwyr di-dâl) o fewn ein system lywodraethu. Disgrifir rôl y Cynrychiolydd ymhellach yn y Fframwaith Cydgynhyrchu Rhanbarthol.

Cytundeb Adran 33

Trefniant ariannu ar y cyd rhwng sefydliadau – y cyfeirir ato’n aml fel “cyllidebau cyfun” – sy’n caniatáu i bob sefydliad gyfrannu at gyflawni canlyniad a rennir.

D

Dangosyddion

Sut rydym yn mesur cyflawniad ein Canlyniadau (e.e. os gwnaethom gyflawni newid, faint o bobl neu pa ganran o bobl a helpwyd ganddo).

Darparwr Gwasanaeth

Yr unigolion, y sefydliadau neu’r grwpiau sy’n darparu gwasanaeth (yn yr achos hwn, gwasanaeth iechyd neu ofal cymdeithasol yn gyffredinol).

Defnyddiwr Gwasanaeth

Y person sy’n defnyddio’r gwasanaethau a ddarperir gan Ddarparwr Gwasanaeth.

Dibyniaethau

Y cysylltiad rhwng gwahanol dasgau neu gyfrifoldebau. Er enghraifft, ni allwn ddarparu digwyddiad nes ein bod wedi creu cynllun felly mae’r ddwy dasg yn ddibynnol (mae’n rhaid cwblhau un cyn y gellir dechrau’r llall). Mae hyn yn arbennig o bwysig os yw unigolion neu sefydliadau gwahanol yn gyfrifol am bob tasg, gan fod angen iddynt wybod beth sy’n ddibynnol ar eu gwaith ac ar beth y mae eu gwaith yn dibynnu. Gall deall a mapio dibyniaethau ein helpu i reoli’r gwaith i sicrhau y gallwn gyflawni ein cynlluniau’n llwyddiannus a chyflawni ein strategaethau.

Dinesydd

Mae’n cynrychioli’n benodol y bobl sy’n byw yn ein rhanbarth (h.y. pobl sydd â chyfeiriad sefydlog yn Abertawe neu Gastell-nedd Port Talbot). 

Ff

Ffoadur

Mae’n cynrychioli’n benodol y bobl y cydnabyddir bod ganddynt statws ffoadur ac sy’n byw yn ein rhanbarth yn amodol ar y statws hwn.

Fframwaith

Mae’n disgrifio “sut byddwn yn rheoli ein gwaith” sy’n ein galluogi i gyflawni ein strategaethau. Mae fframweithiau’n darparu’r strwythurau, y prosesau a’r mecanweithiau y gallwn eu defnyddio drosodd a throsodd ar draws ein holl feysydd gwaith. Er enghraifft, mae Fframwaith Cyfathrebu yn ein helpu i gyfathrebu’n gyson ac yn unol â’r un egwyddorion, ni waeth pa wasanaeth, rhaglen, prosiect neu swyddogaeth yr ydym yn eu cyflawni.

Ffrwd waith

Y strwythur i ni reoli nifer o raglenni, prosiectau, pecynnau gwaith a gweithgareddau eraill sy’n gysylltiedig â thema neu flaenoriaeth allweddol (fel Tai)

G

Goddefiannau

Amrywiant penodol ar feini prawf allweddol y cyflawnir newid yn eu herbyn (e.e. Amser, Cost, Ansawdd, Cwmpas).

Grŵp Gorchwyl a Gorffen

Menter sy’n cael ei sefydlu i gyflawni nod, tasg neu gynnyrch penodol. Mae’r mentrau hyn yn rhai dros dro ac fel arfer maent yn cymryd wythnosau neu fisoedd i’w cwblhau.

Gwariant Cyfalaf

Prynu neu greu asedau y bwriedir eu defnyddio am o leiaf flwyddyn neu fwy, gan gynnwys eitemau fel tir, adeiladau ac offer.

Gwariant Refeniw

Gwariant yr eir iddo ar gostau cynnal o ddydd i ddydd a fyddai’n cynnwys rhent, cyfleustodau a chyflogau.

Gweledigaeth

Sut rydym yn gweld y dyfodol naill ai o ran ein partneriaeth ranbarthol, ein blaenoriaethau allweddol ar gyfer trawsnewid neu mewn rhaglenni gwaith penodol. Mae Datganiad Gweledigaeth yn ddatganiad syml, clir a chryno o sut olwg fydd ar y dyfodol sy’n ein hysbrydoli ni i gyd i gyflawni ein gweledigaeth.

Gwelliant Parhaus

Proses a ddefnyddir gennym i wirio’n gyson a yw ein gwasanaeth yn cyflawni’r canlyniadau cywir (e.e. yn cyflawni’r canlyniadau cywir i’n pobl) a gwneud newidiadau lle credwn fod eu hangen. Y gwahaniaeth rhwng trawsnewidiad a gwelliant parhaus yw ein bod yn sicrhau bod gwelliant parhaus yn cael ei gynnwys yn y gwasanaeth fel ei fod yn digwydd bob amser (ac nid oes yn rhaid i ni aros tan amser penodol neu pan fydd cyllid ar gael i wneud newid).

Gwerth Cymdeithasol

Meintoliad y pwysigrwydd cymharol a roddir gan bobl ar y newidiadau y maent yn eu profi yn eu bywydau.

Gwirfoddolwr

Pobl nad ydynt yn weithwyr cyflogedig sefydliad ond sy’n rhoi o’u hamser a’u hymdrech yn wirfoddol i gefnogi gwaith y Bartneriaeth Ranbarthol. O fewn y diffiniad hwn ceir nifer o rolau penodol: Cynrychiolydd ac Arbenigwr trwy Brofiad.

M

Materion

Digwyddiad ansicr yn flaenorol sydd bellach yn sicr o gael effaith ar ryw agwedd ar ein gwaith.

Mesurau

Sut bydd y newidiadau rydym yn eu cyflawni’n effeithio ar ein Canlyniadau (e.e. os gwnaethom gyflawni newid, pa mor dda y gwnaeth weithio).

Mewnfudwr

Mae’n cynrychioli’n benodol y bobl sy’n byw yn ein rhanbarth ar ôl symud o wlad dramor ac ymgartrefu yma drwy ddod yn breswylwyr parhaol cyfreithlon. Gellir eu diffinio fel Dinasyddion er y gallant ddewis dychwelyd adref pryd bynnag y byddant yn penderfynu gwneud hynny.

Mudwr

Mae’n cynrychioli’n benodol bobl nad ydynt yn byw mewn un lle drwy’r amser, ond sydd yn lle hynny’n symud o le i le am amrywiaeth o resymau fel gwaith tymhorol. Efallai byddant yn dewis aros mewn un lle (fel ein rhanbarth ni) am gyfnod o amser, pan fyddant efallai’n gallu defnyddio ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol).

N

Nodau

Pwrpas ein mentrau trawsnewid, o ran yr hyn y mae angen ei gyflawni ac erbyn pryd. Rydym yn aml yn defnyddio’r dechneg CAMPUS i sicrhau bod ein nodau’n cael eu disgrifio mewn ffordd glir ac effeithiol.

O

Offer

Y pethau sydd arnom eu hangen i’n helpu i gyflawni ein Proses, pethau fel offer, cyfarpar neu feddalwedd. Mae offer yn ein galluogi i wneud y gwaith gorau posib.

P

Pecyn Gwaith

Set o dasgau a chamau gweithredu sy’n ofynnol i gyflawni cynnyrch. Tra bydd gan Raglen neu Brosiect o bosib gyllid ac adnoddau penodol wedi’u neilltuo iddo, efallai na fydd hyn yn wir am Becyn Gwaith ac felly byddai angen ei ddarparu o fewn ein cyfyngiadau ariannu ac adnoddau. 

Pobl

Yn cynrychioli aelodau unigol ein cymdeithas; Dyma’r diffiniad ehangaf sy’n cynnwys y canlynol: Dinesydd, Ffoadur, Ceiswyr Lloches, Mewnfudwr a Mudwr.

Portffolio

Cyfanswm ein buddsoddiad mewn trawsnewid. Mae hyn yn golygu’r holl fentrau rydym yn eu hariannu (ni waeth beth yw eu ffynonellau cyllido, eu hamserlenni neu eu hadnoddau) wedi’u cyfuno fel casgliad unigol o’r mathau canlynol o fentrau: Rhaglen, Prosiect, Pecyn Gwaith, a Grŵp Gorchwyl a Gorffen.

Proffesiynol

Pobl sy’n weithwyr cyflogedig sefydliad, nid dim ond y rheini sy’n cefnogi gwaith y Bartneriaeth Ranbarthol yn uniongyrchol.

Proses

Y dull rydym yn ei dilyn i gyflawni nod a ddymunir. Mae cael proses sy’n gyson, sydd wedi’i diffinio dda ac sy’n cael ei deall gan bawb yn ein galluogi i gyflawni’r un canlyniadau a sicrhau’r canlyniadau gorau posib. 

Prosiect

Menter sy’n darparu un neu fwy o Gynhyrchion sy’n cyfrannu at un neu fwy o Ganlyniadau. Mae’r mentrau hyn yn gaeth i amser ac maent fel arfer yn cymryd rhwng sawl mis a dwy flynedd i’w cwblhau.

R

Risg

Digwyddiad ansicr a all, os yw’n digwydd, gael effaith ar ryw agwedd ar ein gwaith.

Rh

Rhaglen

Strwythur dros dro sy’n gyfrifol am roi cyfres o brosiectau ar waith a fydd ar y cyd yn sicrhau canlyniadau a manteision strategol.

Rheolwr Gwasanaeth

Yr unigolyn sy’n atebol am wasanaeth, yn aml yr uwch-arweinydd ar dîm o fewn sefydliad y Darparwr Gwasanaeth.

S

Strategaeth

Mae’n disgrifio “beth rydym yn bwriadu ei wneud” er mwyn cyflawni ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol. Mae dogfen Strategaeth yn cyfuno gwahanol elfennau fel y genhadaeth, nodau ac ysgogwyr i ddisgrifio’r sefyllfa rydym am ei chyflawni yn y dyfodol a pham ei bod yn bwysig. Mae strategaeth yn ymwneud â diffinio cwmpas a phwrpas trawsnewid a hefyd ennyn diddordeb ac ysbrydoli’r bobl a fydd yn ein helpu i wneud i’r newid hwnnw ddigwydd.

Swyddogaeth

Gwasanaeth a ddarperir gan y Tîm Trawsnewid Partneriaeth Rhanbarthol sy’n galluogi’r bartneriaeth i weithredu. Prosesau mewnol yw’r rhain fel rheoli cyllidebau a chydlynu adroddiadau rhanbarthol sy’n angenrheidiol i’n galluogi i weithio gyda’n gilydd a chyflawni ein portffolio o fentrau trawsnewid. 

T

Tendr

Gwahoddiad ysgrifenedig i ddarpar Ddarparwyr Gwasanaeth y gall fod ganddynt ddiddordeb mewn darparu’r gwasanaethau a gomisiynwn. Mae’r Broses Dendro yn golygu cyfres o dasgau sy’n caniatáu i Gomisiynwyr nodi’r Darparwr Gwasanaeth mwyaf addas a’i benodi mewn cystadleuaeth deg, agored (gan arwain fel arfer at gontract yn cael ei roi i’r Darparwr Gwasanaeth llwyddiannus gan y sawl sy’n comisiynu’r gwasanaeth).

Y

Y Ddeddf

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Ysgogwyr

Y dylanwadau amrywiol ar ein mentrau trawsnewid, sy’n darparu cyfeiriad clir o ran “pam rydyn ni’n gwneud hyn”. Gall Ysgogwyr Strategol gynnwys polisïau cenedlaethol, argymhellion o adolygiadau mawr, strategaethau a gyd-gynhyrchir yn rhanbarthol, deddfwriaeth a ffactorau pwysig eraill. Roedd yr ysgogwyr hyn nid yn unig yn ein cymell i drawsnewid ond hefyd yn darparu rhesymeg a ffiniau clir y gallwn gyflawni newid oddi mewn iddynt.