Rhaglen Niwrowahaniaeth

Mae’r Rhaglen hon wedi’i sefydlu i sicrhau bod gan bobl sydd â chyflyrau Awtistiaeth a Niwroddatblygiadol fynediad at wasanaethau a fydd yn eu galluogi i fyw bywydau cyflawn, ac i gymryd rhan lawn yn eu cymunedau.

Amcanion allweddol y Rhaglen hon yw: 

  • Sicrhau bod grwpiau’n cael eu ffurfio ar lefel leol i gefnogi rhyngweithio cymdeithasol a chyfleoedd cyflogaeth
  • Lleihau nifer y bobl sy’n aros am asesiad diagnostig
  • Datblygu a gwella argaeledd gwasanaethau ataliol
  • Darparu mynediad priodol ac amserol at wasanaethau iechyd meddwl a lles
  • Gwella gwasanaethau pontio plentyn i oedolyn
  • Cynllunio pellach o ran gofynion y Ddeddf ADYTA ynghylch gwasanaeth addysg cwbl gynhwysol
  • Sicrhau dealltwriaeth gyffredin a chysondeb ar draws partneriaid yn y ffordd y caiff data ei gofnodi a’i ddadansoddi
  • Dadansoddiad pellach i gynllunio ar gyfer anghenion poblogaeth y rhanbarth
  • Ymgysylltu â phobl ag awtistiaeth a’u gofalwyr i lywio datblygiad gwasanaethau yn y dyfodol
  • Rhannu gwybodaeth yn well rhwng sefydliadau partner a phobl, yn enwedig o ran y gwasanaethau sydd ar gael ar draws y rhanbarth.