Rhaglenni

Mae cylch gwaith ein Partneriaeth yn cynnwys cyfres o raglenni gwaith sy’n canolbwyntio ar feysydd penodol. Mae’r rhaglenni yn dod â sefydliadau a chynrychiolwyr gwirfoddolwyr at ei gilydd gyda’r nod o drawsnewid a gwella gwasanaethau ar sail ranbarthol.

Cliciwch ar y penawdau isod am ragor o wybodaeth am ein rhaglenni…

Rhaglen Cymunedau a Phobl Hŷn

Rhaglen waith newydd ar gyfer Gorllewin Morgannwg yw hon sy’n canolbwyntio ar ddatblygu modelau newydd o iechyd a gofal cymunedol sy’n integredig ac yn gynaliadwy yn ariannol.

Partneriaeth Gofalwyr

Mae dros 50,000 o ofalwyr di-dâl ar draws rhanbarth Gorllewin Morgannwg, y mae llawer ohonynt yn darparu gofal sy’n atal yr angen am ymyriadau iechyd a gofal cymdeithasol.

Rhaglen Lles ac Anableddau Dysgu

Nod y rhaglen waith hon yw rhoi ymdeimlad o berthyn i blant, pobl ifanc ac oedolion ag anabledd dysgu a’r gallu i gymryd rhan mewn cymuned gynhwysol.

Rhaglen Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl

Mae cadw iechyd meddwl da yn ffactor hollbwysig ar gyfer gallu byw bywyd hapus a bodlon.

O ystyried yr effaith ddigynsail ar ein hiechyd meddwl fel cenedl, yn enwedig yng ngoleuni pandemig COVID-19, ni allwn barhau i wneud pethau yn yr un ffordd os ydym am ateb heriau’r dyfodol a bodloni galw cynyddo.

Rhaglen Plant a Phobl Ifanc

Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio ar Blant a Phobl Ifanc (PPI) y mae angen cymorth arnynt gan wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, fel Plant sy’n Derbyn Gofal (y rheini sydd dan ofal yr awdurdod lleol) a PPI ag anghenion cymhleth.

Rhaglen Niwrowahaniaeth

Mae’r Rhaglen hon wedi’i sefydlu i sicrhau bod gan bobl sydd â chyflyrau Awtistiaeth a Niwroddatblygiadol fynediad at wasanaethau a fydd yn eu galluogi i fyw bywydau cyflawn, ac i gymryd rhan lawn yn eu cymunedau.