
Rhaglen Lles ac Anableddau Dysgu
Nod y rhaglen waith hon yw rhoi ymdeimlad o berthyn i blant, pobl ifanc ac oedolion ag anabledd dysgu a’r gallu i gymryd rhan mewn cymuned gynhwysol.
Y bwriad yw sicrhau bod gan bobl fynediad at gymorth ychwanegol i gyrraedd eu potensial llawn, a bod rhwystrau ac anghydraddoldebau a brofir gan bobl ag anabledd dysgu yn cael eu dileu.
Er mwyn mynd i’r afael yn llawn â thrawsnewid gwasanaethau ar gyfer y boblogaeth ag anableddau dysgu, sefydlwyd Rhaglen Anabledd Dysgu Gorllewin Morgannwg yn 2021.
Arweinir y rhaglen gan fwrdd lle mae’r aelodaeth yn cynnwys sefydliadau trydydd sector, pobl â phrofiad bywyd, rhieni sy’n ofalwyr, a chynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Gwasanaethau Cymdeithasol Abertawe ac adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg Castell-nedd Port Talbot.
Gweledigaeth
Mae gan blant, pobl ifanc ac oedolion ag anableddau dysgu yng Ngorllewin Morgannwg ymdeimlad o berthyn a gallant gymryd rhan lawn mewn cymunedau cynhwysol; mae ganddynt fynediad at gymorth ychwanegol i ddychmygu a chyrraedd eu potensial llawn ac mae rhwystrau ac anghydraddoldebau cyfredol a brofir gan bobl ag anabledd dysgu yng Ngorllewin Morgannwg yn cael eu disodli gan arddel eu hawliau dynol yn weithredol.
Mae Bwrdd y Rhaglen Anabledd Dysgu yn ceisio adeiladu ar lwyddiannau blaenorol a gwneud newidiadau lle bo angen i drawsnewid gwasanaethau, gan alluogi pobl ag anableddau dysgu i gael bywydau boddhaus sy’n seiliedig ar yr hyn sy’n bwysig iddynt.
Nod y Bwrdd yw dysgu’n barhaus gan blant a phobl ifanc ac oedolion ag anableddau dysgu.I wneud hyn, byddant yn defnyddio egwyddorion cydgynhyrchu i weithio mewn partneriaeth, gwrando, parchu a chefnogi’r boblogaeth ag anableddau dysgu yn briodol.
Gwaith presennol
Mae Bwrdd y Rhaglen Anabledd Dysgu yn y broses o gydgynhyrchu Strategaeth Anabledd Dysgu ranbarthol a chynllun gweithredu ategol 5 mlynedd i oedolion.
Bydd y cynllun gweithredu yn darparu blaenoriaethau a phrosiectau’r dyfodol i’r Bwrdd Rhaglen Anabledd Dysgu, sydd i’w datblygu dros oes y strategaeth.
Mae’r Fforwm Cyswllt Anabledd Dysgu yn y broses o gael ei sefydlu i ddarparu mwy o gyfleoedd cydgynhyrchu i oedolion, plant a phobl ifanc ag anableddau dysgu i’w galluogi i gael llais wrth wneud penderfyniadau ar faterion sy’n effeithio arnynt yn y rhanbarth.
Bydd y Strategaeth a’r Cynllun Gweithredu Anabledd Dysgu yn ddogfennau byw a gaiff eu monitro a’u hadolygu’n rheolaidd gan y Fforwm Cyswllt Anabledd Dysgu a Bwrdd y Rhaglen Anabledd Dysgu.
Mae’r Rhaglen Anabledd Dysgu yn darparu swyddogaeth gyflenwol at ddibenion y rhaglenni eraill yng Ngorllewin Morgannwg, gan gynnwys Trawsnewid Gofal Cymhleth a Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant, Pobl Ifanc a Gofalwyr.