CYP cover image

Plant a Phobl Ifanc

Mae amrywiaeth o faterion cymhleth yn effeithio ar Blant a Phobl Ifanc (PPI) yng Ngorllewin Morgannwg yn ôl yr asesiad hwn. Er ei bod yn ymddangos bod llai o bobl ifanc sy’n ddigartref a nifer is nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant (NEET), mae materion eraill fel unigrwydd, seiberfwlio, ac argyfyngau iechyd meddwl ar gynnydd.

Mae nifer o heriau y mae’r asesiad hwn yn eu hamlygu mewn perthynas â’r maes hwn, gan gynnwys mynediad at adnoddau arbenigol ar draws y gweithlu, gwella’r data sy’n llywio ein taith drawsnewid, a chydweithio â phartneriaid fel yr heddlu, awdurdodau lleol, ysgolion ac iechyd (rhywbeth a amlygwyd gan yr adroddiad Dim Drws Anghywir). Rydym wedi dysgu o lwyddiannau a chamau gweithredu diweddar yn ystod pandemig COVID-19 ond mae’n amlwg bod angen gwneud mwy i gefnogi hawliau ac anghenion PPI. Mae’n werth nodi bod llawer o’n hagenda trawsnewid ehangach, mewn egwyddor, yn seiliedig ar ofyniad “pob oedran” ond nid yw anghenion PPI yn y meysydd hyn bob amser yn glir nac yn cael eu cynrychioli yn y gwasanaethau/rhaglenni trawsnewidiol hynny.

Rydym yn cydnabod mai’r hyn sy’n ofynnol yw cyfnod sylweddol o newid o ran trawsnewid ar draws y bartneriaeth, sy’n cynnwys newidiadau diwylliannol, integreiddio darpariaeth gwasanaeth yn well a threialu modelau gofal newydd a all ein helpu i gefnogi ein poblogaeth yn well. Mae hyn yn cynnwys pwyslais cryf ar atal fel blaenoriaeth (er enghraifft, blaenoriaethu cadw teuluoedd gyda’i gilydd yn ddiogel er mwyn atal yr angen am ymyriad statudol a fydd yn y pen draw yn arwain at ganlyniadau gwell a llai o blant yn gorfod derbyn gofal gan yr awdurdod lleol). Mae’r rhain yn flaenoriaethau i Lywodraeth Cymru, Comisiynydd Plant Cymru, y BPRh a’n sefydliadau partner, ond yr hyn sydd ar goll yw gwell cynrychiolaeth o ‘lais y plentyn’ a barn PPI, rhieni, gofalwyr, teuluoedd ac aelodau eraill o’n poblogaeth.

Maes allweddol yw mynd i’r afael â’r materion a amlygir gan y bennod hon mewn perthynas â lles emosiynol ac iechyd meddwl. Rydym yn glir bod yn rhaid i’n hymrwymiad i drawsnewid gynnwys:

  1. Ymagwedd strategol at gefnogi PPI sy’n cael ei hysgogi gan anghenion iechyd a gofal ein poblogaeth, gan gynnwys ymagwedd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, sy’n seiliedig ar gryfderau ac a hysbysir gan drawma o weithio gyda PPI, rhieni, teuluoedd a gofalwyr;
  2. Ymagwedd cynllunio strategol sy’n ymgorffori’r blaenoriaethau a’r gweithgareddau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol ar draws gwasanaethau PPI yn ogystal â’r dibyniaethau allweddol â meysydd trawsnewid eraill (e.e. buddsoddiad cyfalaf mewn atebion llety);
  3. Ymgorffori egwyddorion cyd-gynhyrchu a chymryd amrywiaeth o ymagweddau at gymryd rhan ac ymgysylltu â PPI (i nodi a chlywed ‘llais y plentyn’, a deall eu profiadau personol, gan flaenoriaethu ein rhaglen waith yn seiliedig ar anghenion ein poblogaeth);
  4. Cymryd ymagwedd ranbarthol, gydweithredol at yr heriau trawsnewid pwysig, fel rhoi’r Fframwaith NYTH ar waith ar draws sawl sector, gwasanaeth a sefydliad;
  5. Cydnabod y ffactorau sy’n effeithio ar PPI (fel tlodi, camddefnyddio sylweddau, eithrio digidol, etc.) y mae angen mynd i’r afael â nhw gyda’n partneriaid a’n rhanddeiliaid.

O’r wybodaeth ansoddol a meintiol, rydym wedi nodi rhai elfennau cenedlaethol i’w cynnwys wrth ddiwallu anghenion y boblogaeth, yn ogystal ag elfennau lleol lle mae rhai bylchau neu lle mae angen gwelliannau.

Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi bod yn weithgar iawn wrth ddatblygu ystod o gamau gweithredu ac argymhellion i Lywodraeth Cymru yn ei hadroddiad blynyddol diweddaraf. Mae’r rhain yn faromedrau defnyddiol iawn o ran beth yw anghenion y garfan a’r meysydd y mae angen i bartneriaid Gorllewin Morgannwg ganolbwyntio arnynt.

Amlinellir y meysydd allweddol y mae angen eu hystyried isod:

  • Cydgynhyrchu

Mae angen rhagor o waith i sicrhau cydgynhyrchu effeithiol ac ystyrlon, a’r angen i ddatblygu’r gallu i PPI lunio’r gwasanaethau y maent yn eu derbyn.

Mae angen cryfhau cyd-gynhyrchu gyda chymunedau Sipsiwn Teithwyr er mwyn grymuso pobl i gyfrannu at ddylunio a gweithredu gwasanaethau.

  • Data

Mae bylchau yn y data a gesglir lle mae angen gwybodaeth i ddeall y niferoedd presennol nid yn unig yn y gwasanaethau a ddarperir ond hefyd wrth asesu’r boblogaeth ehangach. Mae angen i ni ddatblygu a defnyddio diwylliant o rannu data yn haws sy’n hygyrch ac sy’n un ffynhonnell o’r gwir.Rydym yn cydnabod ei bod yn hanfodol edrych y tu hwnt i’r niferoedd a defnyddio gwybodaeth ansoddol i ddeall anghenion plant a phobl ifanc a’r rheini sy’n gofalu amdanynt yn llawn.

  • Addysg

PPIAddysg Ddewisol yn y Cartref– mae angen canllawiau statudol gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn yr ALlau yn weladwy ac yn derbyn y gwasanaethau cywir a’u bod yn cael eu cefnogi.

  • Darpariaeth leol

Mae gwasanaethau maethu yn y rhanbarth yn ymrwymedig i gwblhau strategaethau recriwtio a chadw parhaus i’w galluogi i ganolbwyntio ar nodi anghenion y gwasanaeth a chynllunio targedau recriwtio effeithiol. Mae’r rhanbarth wedi gweithio gyda’i gilydd i roi strategaethau a chynllun ar waith gydag ymgyrchoedd recriwtio wedi’u targedu a mentrau rhanbarthol.

Mae cynyddu digonolrwydd lleoliadau mewn awdurdodau lleol yn darged y mae’r ddau awdurdod lleol wedi ymrwymo i’w gyflawni. Bydd hyn yn cefnogi plant a phobl ifanc sy’n cael cyefnogaeth i fyw yn eu hardal leol ochr yn ochr ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau lefel yr elw wrth ddarparu gofal plant.

  • Lles emosiynol

Cydlynu a llunio lles, iechyd meddwl, cwnsela i bobl ifanc dan 18 oed, a gwasanaethau ôl-18, gan gynnwys pontio.

  • Tai

Datblygu darpariaeth ar gyfer lleoliadau cynaliadwy i PPI y mae angen cefnogaeth arnynt, gan gysylltu ag anableddau dysgu a chefnogaeth iechyd meddwl.

  • Cefnogi plant a phobl ifanc i aros gyda’u teulu.
    • Adnabod ac asesu mor gynnar â phosib y plant hynny y mae angen gofal a chefnogaeth arnynt (gan gynnwys help i sicrhau lles a gwydnwch emosiynol).Atal yr angen i ddod yn blant/bobl ifanc sy’n derbyn gofal drwy helpu PPI a theuluoedd i ddefnyddio’u cryfderau a’u hadnoddau unigol ac ar y cyd yn eu cymunedau; a darparu gwasanaethau ymyrryd yn gynnar ac atal amserol i atal anghenion rhag gwaethygu a dod yn ddifrifol.
    • Lle nad yw plant yn gallu parhau i fyw gyda’u rhieni, hyrwyddo cadw teuluoedd ynghyd trwy ddefnyddio Gorchymyn Gwarcheidwaeth Arbennig.
  • Gweithio ar y cyd yn rhanbarthol a chadw ymagwedd sy’n canolbwyntio ar y plentyn at yr achosion mwyaf cymhleth – gan gynnwys cytuno ar sut caiff pecynnau cymorth iechyd, addysgol a gofal cymdeithasol eu hariannu ar y cyd.

Lawrlwytho