Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gorllewin Morgannwg 2022-2027

Mae’r Asesiad o Anghenion y Boblogaeth (AAB) yn ymarfer ar y cyd sy’n cael ei gynnal gan bartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol i gasglu gwybodaeth am les pobl a’r rhwystrau sy’n eu hatal rhag cyflawni ymdeimlad o les. Mae hefyd yn ceisio penderfynu ar anghenion gofal a chefnogaeth pobl (gan gynnwys bylchau yn y fath ddarpariaeth) fel y gellir datblygu a thargedu gwasanaethau’n unol â hyn.

Mae Rhan 2 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn nodi bod yn rhaid llunio AABau yn rhanbarthol a threfnu eu bod ar gael ar ffurf adroddiad. Cyhoeddwyd yr Asesiad o Anghenion y Boblogaeth cyntaf yn 2017 cyn i Ben-y-bont ar Ogwr adael hen ranbarth ‘Bae’r Gorllewin’.

Rydym bellach wedi cael y cyfle i ddiweddaru’r cynnwys fel Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh) Gorllewin Morgannwg yn unol â’r cylch pum mlynedd rhagnodedig a amlinellir yn y Ddeddf.

Mae’r AAB yn mynnu bod yr holl BPRhau yn casglu ac yn dadansoddi gwybodaeth a fydd yn ceisio nodi:

  • faint o bobl yn y rhanbarth y mae angen gofal a chefnogaeth arnynt
  • faint o ofalwyr yn y rhanbarth y mae angen cefnogaeth arnynt 
  • faint o bobl yn y rhanbarth nad yw eu hanghenion gofal a chefnogaeth yn cael eu diwallu
  • amrediad a lefel y gwasanaethau sydd eu hangen i ddiwallu anghenion gofal a chefnogaeth y boblogaeth, ac anghenion gofalwyr
  • amrediad a lefel y gwasanaethau sydd eu hangen i atal pobl rhag bod ag angen gofal a chefnogaeth neu lefelau uwch o ofal a chefnogaeth
  • y camau gweithredu y mae eu hangen i ddarparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r bennod arweiniol yn darparu rhagor o wybodaeth am yr ymagwedd a gymerwyd yng Ngorllewin Morgannwg.

Cliciwch ar y delweddau isod i gyrchu’r penodau unigol yr Asesiad o Anghenion Poblogaeth.

Older People cover image
CYP cover image
VAWDA cover image
Mental Health cover image
Autism cover image
Health and Physical Disability cover image
Learning Disability Cover image
Carers cover image
Sensory Impairment cover image