Y materion allweddol a amlygir yn y bennod ar Awtistiaeth yw:

  • Argaeledd gwasanaethau ataliol a fyddai’n galluogi pobl awtistig yn eu bywydau pob dydd.
  • Mynediad at wasanaethau iechyd meddwl a lles.
  • Cyfraddau isel o gyflogaeth a galwedigaethau
  • Effaith COVID-19 ar bobl ag awtistiaeth
  • Mae’r newid i oedolaeth yn broses gymhleth
  • Nifer mawr o oedolion ag awtistiaeth yn dal i dderbyn gofal gartref gan eu gofalwyr hŷn.

Y bwlch mwyaf arwyddocaol a nodwyd yn natblygiad y bennod ar awtistiaeth oedd y data annigonol ar gyfer awtistiaeth ar draws yr holl wasanaethau. Mae hyn yn golygu na allwn nodi’r bylchau a’r galw am wasanaethau gwahanol yn glir.

Serch hynny, mae’r ffynonellau data cyfyngedig a gynhwysir yn darparu tystiolaeth fod nifer cynyddol o blant ag awtistiaeth, ac mae data’n awgrymu y bydd hyn yn parhau i godi. O ran cynllunio, mae angen ystyried y canlynol:

  • Sicrhau dealltwriaeth gyffredin a chysondeb ar draws y partneriaid yn y modd y caiff data ei gofnodi a’i ddadansoddi
  • Cynnal mwy o ddadansoddiadau i gynllunio ar gyfer anghenion y boblogaeth sy’n byw yn y rhanbarth
  • Ymgysylltu â phobl ag awtistiaeth a’u gofalwyr i lywio datblygiadau’r dyfodol ar gyfer gwasanaethau awtistiaeth
  • Rhannu gwybodaeth yn well rhwng sefydliadau partner a phobl, yn enwedig o ran y gwasanaethau sydd ar gael ar draws y rhanbarth.
  • Grymuso fel y gellir cyd-gynhyrchu mewn modd effeithiol ac ystyrlon, a’r angen i ddatblygu’r gallu i bobl gyfrannu at newid cymdeithasol y gwasanaethau maent yn eu derbyn.
  • Mae angen parhau i gynllunio ymhellach o ran gofynion y Ddeddf ADYTA ynghylch gwasanaeth addysg cwbl gynhwysol.

Yn ogystal, mae angen gwneud gwaith cynllunio pellach mewn perthynas â Chôd Ymarfer Cymru ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth.

Lawrlwytho