Mae iechyd meddwl a lles emosiynol ein poblogaeth wedi wynebu heriau sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r dystiolaeth o’r bennod hon yn tynnu sylw at feysydd lle mae’r angen am wasanaethau iechyd meddwl yn cynyddu, gan gynnwys lle roedd y trywydd yn cynyddu cyn pandemig COVID-19 a lle mae’r pandemig wedi gwneud problemau’n waeth. Mae rhai heriau pwysig iawn yn wynebu ein rhanbarth fel hunanladdiad, iechyd meddwl pobl ifanc a diffyg datrysiadau llety addas.

Rydym yn cydnabod bod nifer yr achosion o gyflyrau iechyd meddwl fel dementia yn cynyddu, mae effaith ffactorau cysylltiedig fel unigrwydd yn dod yn fwy amlwg, mae rhwystrau parhaus fel anghydraddoldebau iechyd meddwl yn parhau i fod yn broblem ac mae’r gweithlu’n wynebu pwysau cynyddol (gan gynnwys eu lles emosiynol eu hunain ar ôl cyfnod o gryn bwysau o ganlyniad i’r pandemig byd-eang). I wynebu’r heriau hyn, mae angen ymagwedd gydweithredol, gydgynhyrchiol, ranbarthol at drawsnewid gwasanaethau a newid agweddau at iechyd meddwl (sy’n cwmpasu atal, asesu, triniaeth a chefnogaeth barhaus i holl bobl Gorllewin Morgannwg sy’n wynebu heriau iechyd meddwl).

Bydd angen rhaglen newid sylweddol ar draws y bartneriaeth yn ogystal â rheoli dibyniaethau ar draws rhaglenni eraill i wreiddio pwysigrwydd ein gweledigaeth ar gyfer iechyd meddwl yn ein holl weithgareddau trawsnewidiol. Er bod enghreifftiau da o gyflawniadau diweddar fel y Gwasanaeth Noddfa, rydym yn cydnabod bod bylchau yn ein dealltwriaeth o anghenion poblogaeth ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol felly mae’n rhaid i ni fuddsoddi ein hamser a’n hymdrech i wella ein dealltwriaeth fel y gallwn dargedu ein rhaglen drawsnewid yn gywir.

Mae datblygiad y bennod hon wedi nodi bod angen mynd i’r afael â’r canlynol:

  • Mae’r bennod hon yn cynnig llinell sylfaen ar gyfer y safleoedd dechrau. Byddwn yn parhau i adnewyddu a diweddaru fel rhan o broses ailadroddol.
  • Yr angen am well data i lywio datblygiad AAP yn y dyfodol
  • Mwy o bwyslais ar atal a lles drwy well data i fesur canlyniadau a darparu gwybodaeth ar gyfer ailadroddiadau’r AAP yn y dyfodol.
  • Mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl a chymryd ymagwedd ranbarthol at atal iechyd meddwl gwael.
  • Parhau i weithredu blaenoriaethau cenedlaethol a rhanbarthol drwy weithio mewn partneriaeth, gan gynnwys cydgynhyrchu cynlluniau gofal.
  • Pobl ifanc a hunanladdiad – mae angen rhagor o fesurau ataliol.
  • Datblygu ein hymagwedd strategol rhanbarthol o ymdrin ag iechyd meddwl drwy greu strategaethau, fframweithiau a chynlluniau gweithredu i fynd i’r afael ag anghenion ein poblogaeth.
  • Mapio’r holl wasanaethau a ddarperir ar draws y bartneriaeth i nodi bylchau, bygythiadau a chyfleoedd, gan gynnwys comisiynu rhanbarthol.
  • Darparu cydgynhyrchu ystyrlon ac effeithiol o wasanaethau iechyd meddwl mewn partneriaeth â’r rheini sy’n derbyn gwasanaethau, teuluoedd a gofalwyr. Cynhyrchwyd cyfres o adnoddau i gefnogi gwasanaethau a sefydliadau i gydgynhyrchu. Arweiniwyd y darn hwn o waith gan Grŵp Cydgynhyrchu Gorllewin Morgannwg ac mae’n cynnwys fframwaith, pecyn cymorth a siarter.

Felly, er mwyn mynd i’r afael â’r materion a amlygwyd gan y bennod hon, rhaid i’n hymrwymiad i drawsnewid lles emosiynol ac iechyd meddwl gynnwys:

  1. Ymagwedd strategol at les emosiynol ac iechyd meddwl wedi’i sbarduno gan anghenion ein poblogaeth, gan gynnwys ymagwedd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn o weithio gyda phobl;
  2. Gwreiddio’r egwyddorion cywir ar draws ein sefydliadau a’n gwasanaethau gan gynnwys sut rydym yn mynd i’r afael â phroblemau cyffredin fel iaith, stigma a gwahaniaethu;
  3. Mwy o ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill a’u cynrychioli, gan gynnwys gweithgareddau cydgynhyrchu;
  4. Data o ansawdd gwell gan gynnwys profiadau bywyd go iawn ac astudiaethau achos o bob rhan o’n grwpiau poblogaeth;
  5. Gwell defnydd o adnoddau, asedau a gweithwyr medrus i sicrhau gwell canlyniadau yn fwy effeithlon;
  6. Mwy o ffocws ar atal iechyd meddwl gwael o lawer o wahanol safbwyntiau (e.e. mentrau a arweinir gan y gymuned);
  7. Trawsnewid sut mae gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu darparu drwy dreialu modelau gofal newydd ac integreiddio darpariaeth gwasanaethau;
  8. Cydnabod y ffactorau sy’n effeithio ar iechyd meddwl (fel tlodi, camddefnyddio sylweddau, cyflogaeth, etc.) y mae angen mynd i’r afael â hwy gyda’n partneriaid a’n rhanddeiliaid.

Lawrlwytho