Mae’r dystiolaeth o’r bennod hon yn amlygu’r heriau sylweddol y mae pobl hŷn wedi’u hwynebu dros y blynyddoedd diwethaf. Mae angen clir am ymagwedd wahanol gan bartneriaid, lle mae pobl hŷn yn cael eu cefnogi i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain cyhyd ag y bo modd. Mae diffyg atebion llety addas (er enghraifft, i bobl sy’n dioddef o ddementia), rhwystrau o ran cael mynediad at wasanaethau a chefnogaeth annigonol i ofalwyr i gyd wedi cael eu nodi fel rhwystrau i fyw a heneiddio’n dda.

Wrth i nifer y bobl hŷn yn y rhanbarth gynyddu, rydym yn gweld cynnydd yn nifer yr achosion o ffactorau fel unigrwydd ac unigedd. Mae rhwystrau parhaus o ran trafnidiaeth yn parhau i fod yn broblem sylweddol, ynghyd ag allgáu digidol (yn enwedig yn ystod y pandemig). Mae’r heriau hyn yn gofyn am ymagwedd ranbarthol, gydweithredol, gydgynhyrchiol i wella atal, asesu a chefnogaeth barhaus i bobl hŷn yng Ngorllewin Morgannwg.

Er mwyn mynd i’r afael â’r bylchau a amlygwyd yn y bennod hon, bydd angen symud ymlaen â’r canlynol:

  • Rhaglen Gartref yn Gyntaf:
    • Datblygu model ‘Rhyddhau i Adfer yna Asesu’ rhanbarthol cyson fel y’i diffinnir a’i fandadu gan Lywodraeth Cymru.
    • Osgoi derbyn drwy hyrwyddo a darparu ystod o wasanaethau sy’n canolbwyntio ar les ac atal lle bo darpariaeth amgen briodol a pherthnasol yn bodoli.
    • Datblygu model ‘Rhyddhau i Adfer yna Asesu’ rhanbarthol cyson fel y’i diffinnir a’i fandadu gan Lywodraeth Cymru.
    • Osgoi derbyn drwy hyrwyddo a darparu ystod o wasanaethau sy’n canolbwyntio ar les ac atal lle bo darpariaeth amgen briodol a pherthnasol yn bodoli.
    • Hwyluso rhyddhau cleifion o’r ysbyty yn gynt mewn modd amserol unwaith y bydd unigolyn wedi’i optimeiddio’n glinigol, gan leihau hyd arhosiad ysbyty acíwt.
    • Gwell llif ar draws y systemau iechyd a gofal cymdeithasol.Canlyniadau a phrofiad gwell sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr gwasanaeth.
    • Gostyngiad yn y niwed a adroddwyd.
    • Gostyngiad yn y rheini sydd angen gofal tymor hir a/neu gefnogaeth neu leoliad.
    • Mae angen rhagor o waith i gynnwys lleisiau’r rheini sy’n defnyddio gwasanaethau. Bydd cydgynhyrchu a chreadigrwydd yn ysgogwyr allweddol ar gyfer newid, i sefydliadau a phobl hefyd.
  • Technoleg Gynorthwyol / Technoleg / Cynhwysiant Digidol: Gan adeiladu ar yr ymchwil, mae’n rhaid i ni sicrhau bod digon o adnoddau’n cael eu cynnwys yn barhaus mewn unrhyw ddarpariaeth o wasanaethau gan bartneriaid sy’n seiliedig ar dechnoleg yn y dyfodol. Mae ymchwil yn dweud wrthym i beidio â gadael unrhyw un ar ôl ac i gynnwys y rheini nad ydynt wedi’u cynnwys yn ddigidol eto.
  • Cludiant Cymunedol: Yn seiliedig ar ymchwil lle mae pobl mewn ardaloedd gwledig yn cael trafferth i gael mynediad at wasanaethau, mae i ddarparu cludiant hawdd i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol critigol os nad yw’r gallu yn caniatáu ar gyfer ateb digidol.
  • Mynediad at Wasanaethau: Bydd datblygu gwasanaethau digidol i’r mwyafrif o fudd ar gyfer triniaethau heb lawdriniaeth ond ni ddylid defnyddio’r ateb i ddisodli gwasanaethau, ond dylid ei gynnig fel dewis arall nes bod y boblogaeth yn ei ddefnyddio’n gyfforddus.
  • Galw am wasanaethau yn Gymraeg: Mae angen cynnwys rhagor o wybodaeth am y cynnig o wasanaethau yn y Gymraeg a gwir nifer y bobl sy’n eu defnyddio.
  • Cefnogaeth Gymunedol: Yn seiliedig ar y cynnydd yn y boblogaeth yn y categori dros 65 oed, rhaid annog gwasanaethau i gynnwys gwasanaethau ataliol yn gynharach yn nhaith bywyd oedolion. Mae angen adeiladu hyn ar y gwasanaethau y mae’r trydydd sector yn eu darparu ar hyn o bryd ac mae angen eu datblygu ymhellach.
  • Creodd COVID-19 fwy o angen gan bobl am gefnogaeth. Roedd hyn yn cynnwys pobl a oedd wedi bod yn hynod hunangynhaliol cyn y pandemig. Ond cyflwynodd y pandemig heriau ymarferol, gan gynnwys mynediad at fwyd a phresgripsiynau a heriau emosiynol, yn enwedig o ran iechyd meddwl, ynysigrwydd cymdeithasol ac unigrwydd. Mae gan y Trydydd Sector rôl hynod bwysig oherwydd y gellir dibynnu arnynt mewn cymunedau. Mae gwneud gwell defnydd o’r cysylltiadau hyn yn golygu y gall y sector cyhoeddus gyrraedd mwy o bobl, yn fwy effeithiol.
  • Gofal wedi’i hunanreoli/Gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn: Dylai’r ffocws fod ar ataliaeth ac mae angen rhagor o wasanaethau a ddatblygwyd yn y gymuned. Mae angen i ddata sy’n cefnogi’r mentrau hyn gynnwys proffilio a rhagweld gwell.
  • Rhagfarn ar sail oedran: Symud i ffwrdd o rhagfarn ar sail oedran a gosod pobl mewn categorïau oedran penodol. Dylai gwasanaethau gael eu datblygu a’u darparu yn ôl yr angen.
  • Cynllunio Gofal Ymlaen Llaw ac yn y Dyfodol: Mae angen i adnoddau fod ar waith yn gynharach er mwyn cefnogi unigolion a’u teuluoedd i gynllunio ar gyfer pob agwedd ar eu gofal, gan gynnwys gofal ‘diwedd oes’.
  • Addasiadau: Cartrefi Clyfar ond hefyd addasiadau i gartrefi presennol i’w gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol i bobl sy’n byw’n hwy ac sy’n mynd yn hŷn i annog annibyniaeth.
  • Cyfranogiad Cymdeithasol a Chymunedol: Dylai partneriaid statudol annog a chefnogi cyfranogiad cymunedol sydd wedi gweld gwelliant o COVID-19. Mae’n rhaid annog y Trydydd Sector i ddatblygu’r rhwydweithiau a’r adnoddau cymunedol i ychwanegu’r gwerth cymdeithasol hwnnw i gymunedau ac i annog defnydd o fesurau ataliol i alluogi cymunedau i helpu ei gilydd.

Lawrlwythwo