Carers cover image

Gofalwyr y mae angen cefnogaeth arnynt

Mae’r dystiolaeth o’r bennod hon yn amlygu’r heriau sylweddol a brofir gan ofalwyr y mae angen cefnogaeth arnynt yn ein rhanbarth.

Mae’r Strategaeth Gofalwyr Ranbarthol wedi darparu’r fframwaith ar gyfer coladu anghenion gofalwyr yng Ngorllewin Morgannwg. Rydym wedi defnyddio’r llinynnau trawsbynciol i gyflwyno rhai anghenion cyffredin:

  • Lles gofalwyr – mae’n rhaid i’r camau gweithredu sy’n deillio o’r asesiad o anghenion poblogaeth ganolbwyntio ar les a sut mae’r camau gweithredu yn cyfrannu at y weledigaeth ranbarthol ar gyfer gofalwyr.
  • Cyfathrebu – mae angen cyfathrebu cyson a hygyrch ar draws y rhanbarth Dylai timau cyfathrebu statudol gydweithio ar ymagwedd ranbarthol at gyfathrebu â gofalwyr. Datblygu terminoleg ac iaith gyffredin sy’n gynhwysol ac yn hygyrch i bawb.
  • Cydgynhyrchu – mae’n rhaid i ofalwyr fod yn rhan o’r gwaith i gyd-ddylunio gwasanaethau sy’n diwallu eu hanghenion. Rhaid i gyd-gynhyrchu gael ei wreiddio yn unol â’r Fframwaith Cydgynhyrchu Rhanbarthol.
  • Hyfforddiant – rhaid bod hyfforddiant helaeth ar ymwybyddiaeth o ofalwyr ar gyfer yr holl bartneriaid statudol, a’r tu hwnt i staff iechyd a gofal cymdeithasol. Mae angen hyfforddiant cyd-gynhyrchu hefyd i sicrhau bod gofalwyr yn gallu cyd-gynhyrchu cynlluniau cefnogaeth unigol a hefyd wasanaethau i ddiwallu eu hanghenion.

Mae themâu’r Strategaeth Gofalwyr yn darparu’r fframwaith ar gyfer anghenion gofalwyr yn fanylach. Mae’r golofn ‘Anghenion i’w diwallu’ yn amlygu’r gofynion pwysicaf wrth symud ymlaen.

Anghenion i’w diwallu
ThemaCanlyniadau’r stratigaethCanlyniadau Anghenion y Boblogaeth
Cydbwyso blaenoriaethauMae gan ofalwyr gyfleoedd seibiant hyblyg ac ymatebol. Mae gofalwyr yn cael cymorth i ddatblygu cynlluniau wrth gefn. Mae gweithdai lles ar gael i ofalwyr. Mae gofalwyr yn cael cefnogaeth addysgol ac yn y gweithle.Dewis o wasanaethau ar gyfer seibiannau a seibiannau byr. Gwasanaethau sy’n cefnogi’r rôl ofalu ac yn ysgafnhau’r baich (nid gofal amgen o reidrwydd) Taliadau uniongyrchol y gellir eu defnyddio i gael mynediad at y gwasanaethau uchod. Cefnogaeth i alluogi gofalwyr i aros yn y gwaith neu mewn addysg. Gwasanaethau er mwyn i ofalwyr gynnal iechyd a lles. Gwasanaethau i gefnogi cynllunio wrth gefn gan ofalwyr.
Cefnogi ei gilyddMae gofalwyr yn cael cyfleoedd i gwrdd â’i gilydd. Mae grwpiau a arweinir gan ofalwyr yn gyffredin.Mae gofalwyr yn cael cyfleoedd i gwrdd â’i gilydd, rhannu eu profiadau a deall eu hawliau. Mae gofalwyr yn cael cyfleoedd i ymwneud â’r ffrwd waith ranbarthol ar ofalwyr a dylanwadu arno e.e. Y Fforwm Cyswllt Gofalwyr.  Mae gofalwyr yn cael cefnogaeth i ymgymryd â rolau Cynrychiolwyr Gofalwyr.
Gwybodaeth a chyngorHysbysir gofalwyr o’u hawliau. Mae gan ofalwyr byrth/leoedd gwybodaeth a chyngor pwrpasol wedi’u teilwra ar draws yr holl ddarparwyr statudol. Mae gofalwyr yn cael gwybodaeth am gynllunio wrth gefn a chyngor arno. Hysbysir gofalwyr am Asesiadau a sut gallant fod yn fuddiol. Darperir ar gyfer opsiynau hawdd eu darllen ac ieithoedd lleiafrifol yn briodol.Gwybodaeth sy’n cael ei thargedu i feysydd allweddol lle gall gofalwyr nodi’u hunain e.e. wedi’u mapio ar draws y daith ofalu a’r gwasanaethau cyhoeddus. Mae gwybodaeth i ofalwyr ar gael ar bwyntiau mynediad allweddol i iechyd a gofal cymdeithasol e.e. meddygon teulu, diagnosis, rhyddhau o’r ysbyty a phwyntiau mynediad y gwasanaethau cymdeithasol. Gwybodaeth am hawliau dynol i ofalwyr a’r bobl maent yn gofalu amdanynt. Mae llwybrau i asesiadau gofalwyr yn glir ac yn hawdd eu dilyn. Mae gwybodaeth yn gyson, yn hygyrch ac ar gael mewn amrywiaeth o fformatau gan ddibynnu ar angen e.e. hawdd ei darllen, print mawr, opsiynau iaith Targedir gwybodaeth am gefnogi anghenion gofalwyr i ysgolion a chyflogwyr.
Wedi’u hadnabod a’u cydnabodCydnabyddir gofalwyr hyd yn oed os nad ydynt yn nodi eu hunain. Mae sefydliadau a staff sy’n eu cefnogi’n mynd ati i adnabod gofalwyr. Mae cyfrifoldeb ar y cyd ar draws ac o fewn sefydliadau am adnabod gofalwyr.Mae angen i ofalwyr gael eu cydnabod fel arbenigwyr oherwydd eu profiad a chael eu cynnwys mewn trafodaethau ystyrlon am eu hanghenion a’r bobl maent yn gofalu amdanynt (gan gynnwys gofalwyr ifanc)._ Mae angen adnabod gofalwyr ifanc mewn ysgolion er mwyn eu cyfeirio at gefnogaeth gynnar. Nid oes yn rhaid i ofalwyr ddweud eu bod yn ofalwr cyn cael eu cyfeirio at wybodaeth, cyngor a chefnogaeth. Mae angen i bartneriaid ar draws y rhanbarth gydnabod cerdyn adnabod y gofalwyr. Mae angen i’r cerdyn adnabod gydnabod eu cyfraniad a chynnig buddion i’w cefnogi nhw a’u rôl.
Urddas a pharchMae gofalwyr yn cael eu cydnabod fel arbenigwyr trwy brofiad.
Mae ymwybyddiaeth o Ofalwyr yn gyffredin.
Dulliau safonol ar draws adrannau e.e. ysgolion, gwasanaethau CChI, rhyddhau o’r ysbyty.
Mae dulliau cyson ar draws ac o fewn sefydliadau.
Mae angen ar ofalwyr ymagwedd sy’n seiliedig ar hawliau dynol at ddiwallu eu hanghenion. Anghenion hyfforddiant ymwybyddiaeth o ofalwyr i’w cyflwyno i bartneriaid ar draws y rhanbarth. Mae angen cydnabod gofalwyr ifanc mewn lleoliadau addysg e.e. arweinwyr ar gyfer gofalwyr
Gwasanaethau CefnogiMae datblygiadau a newidiadau newydd yn cael eu cyd-gynhyrchu gyda gofalwyr. Mae gwasanaethau gofalwyr yn cael eu hariannu’n gynaliadwy gan ofalwyr. Cynigir taliadau uniongyrchol i ofalwyr. Defnyddir profiadau cadarnhaol a negyddol gofalwyr i lywio gwelliannau i wasanaethau. Mae gan ofalwyr fynediad ymatebol a hyblyg at wasanaethau iechyd meddwl a lles.Mae angen i ofalwyr ymwneud â chyd-gynhyrchu a chyd-lunio’r gwasanaethau maent yn eu defnyddio i gefnogi eu rôl ofalu a’r person maent yn gofalu amdano. Mae angen ystod o wasanaethau cefnogi gwahanol ar ofalwyr o amrywiaeth o sectorau. Mae angen bod gwasanaethau taliadau uniongyrchol yn gweithio’n dda i ofalwyr a dylent ddiwallu eu hanghenion. Mae angen ffurfiau seibiant a seibiannau byr newydd ac arloesol ar ofalwyr. Mae angen dysgu o brofiadau gofalwyr a’u defnyddio i lywio sut mae gwasanaethau’n datblygu. Mae angen cefnogaeth eiriolaeth annibynnol ar ofalwyr i ddeall systemau ac ymdopi â nhw (gall fod angen arbenigwyr ar gyfer gofalwyr sy’n rhieni a gofalwyr ifanc). Mae angen gwasanaethau ar ofalwyr ifanc sy’n cefnogi eu nodau/dyheadau addysgol a gyrfa. Mae gwasanaethau cefnogi ar waith ar gyfer mathau arbennig o ofalwyr e.e. dementia neu anghenion addysgol arbennig

Drwy ddefnyddio’r Strategaeth Gofalwyr fel fframwaith ac ymgysylltu’n uniongyrchol â gofalwyr drwy’r Fforwm Cyswllt Gofalwyr, byddwn yn nodi anghenion a bylchau pellach yn rheolaidd. Bydd Cynllun Gweithredu’r Strategaeth Gofalwyr yn amlinellu sut rydym yn bwriadu diwallu’r anghenion hynny’n fanylach. Mae’r gwaith wedi cychwyn ac mae’r cynllun gweithredu yn cael ei gydgynhyrchu ar hyn o bryd gyda gofalwyr.

Lawrlwytho

  • Lawrlwytho ffeil