Health and Physical Disability cover image

Iechyd ac Anabledd Corfforol

Mae pobl anabl yn arbennig o agored i ddiffygion mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Gan ddibynnu ar grŵp a lleoliad, gall pobl anabl fod yn fwy tebygol o brofi cyflyrau eilaidd, cyflyrau cyd-afiachus, cyflyrau sy’n gysylltiedig ag oed a marwolaeth cyn pryd.

Mae bwlch clir yn yr wybodaeth a ddelir am anabledd corfforol. I sicrhau bod pobl yn cael mynediad at y gwasanaethau a’r gefnogaeth y mae eu hangen arnynt, mae angen rhagor o waith i beri gwelliannau.

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod angen canolbwyntio ar gyfleoedd cyflogaeth i bobl anabl drwy gefnogaeth bersonoledig, arbenigol a hyblyg.

I gefnogi byw’n annibynnol, dylai tai a llety a gynllunnir ar gyfer y dyfodol gael eu hadeiladu i gydymffurfio â rheoliadau adeiladu safonau Cartrefi Gydol Oes. Dylai tai gynnal heneiddio da a hybu annibyniaeth drwy gartrefi sydd wedi’u dylunio’n dda, sy’n werth da am arian, sydd mewn lleoliadau priodol ac sy’n ynni effeithlon. Mae cefnogaeth gynnar drwy gymhorthion ac addasiadau, cynlluniau tasgmon a thele-ofal yn hanfodol.

Mae gwasanaethau iechyd wedi’u trefnu’n bennaf o gwmpas ysbytai, ac eto gellir a dylid darparu gofal iechyd yn y gymuned drwy wasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol.

Mae pandemig COVID-19 wedi bod yn gyfnod hynod ofidus i’r rheini yr effeithir arnynt gan anabledd corfforol a chyflyrau iechyd cronig.  Mae amhariad ar wasanaethau a mynediad cyfyngedig i rwydweithiau cefnogi wedi gwaethygu iechyd meddwl a chorfforol a lles i radd digynsail. O ganlyniad, mae ein rhanbarth yn wynebu heriau sylweddol, gan gynnwys amserau aros cynyddol, oedi gydag addasiadau ac argaeledd cyfyngedig gwasanaethau cefnogi allweddol a gynigiwyd o’r blaen yn y gymuned.

Fel y gallwn ateb galwadau posib poblogaeth hŷn sy’n cynyddu, mae angen i’r gwasanaethau statudol a’r sector gwirfoddol weithio’n agosach ac ar y cyd, gan fabwysiadu ffyrdd o weithio mwy call ac arloesol.

Bydd angen archwilio’r posibilrwydd o ehangu a defnyddio gwasanaethau digidol fel technoleg gynorthwyol ymhellach mewn AAPau pan gânt eu hailadrodd yn y dyfodol.

Mae’r bylchau allweddol a nodwyd yn cynnwys:

  • Data – Mae angen cofnodi data’n gyson a’i safoni ar draws yr holl bartneriaid fel bod gwybodaeth yn cael ei rhannu’n rheolaidd i gyfeirio cynllunio, gwneud penderfyniadau a chyfeiriad teithio.
  • Ymgysylltu – mae angen cael cipolygon rheolaidd ar wybodaeth a grwpiau ranbarthol i helpu i gyd-gynhyrchu gwasanaethau sy’n ateb galw’r boblogaeth ac yn diwallu ei hanghenion.
  • Cyfathrebu – mae angen cryfhau’r cyfathrebu rhwng sefydliadau partner a phobl Mae angen rhannu gwybodaeth yn y fformatau cywir ar gyfer y cynulleidfaoedd a fwriedir mewn modd amserol. Bydd hyn yn helpu o ran cynorthwyo pobl i dderbyn y gwasanaethau y mae eu hangen arnynt ar yr adeg y mae eu hangen arnynt.

Mae’n bwysig cydnabod y rhyngddibyniaethau amryfal rhwng carfanau poblogaeth gwahanol ac elfennau amrywiol iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd angen i’r hyn a ddysgir o’r asesiad hwn gael ei gymhwyso i gynllunio a darparu gwasanaethau ar draws y rhanbarth.

Lawrlwytho