Sensory Impairment cover image

Amhariad Synhwyraidd

Mae’r rheini yr effeithir arnynt gan amhariad synhwyraidd wedi wynebu rhwystrau a heriau niferus dros y blynyddoedd diweddar. Mae’r diffyg ymwybyddiaeth a’r anawsterau hygyrchedd a brofwyd yn ystod pandemig COVID-19 wedi cynyddu’r problemau a wynebir gan y garfan hon. Mae’r dystiolaeth o’r bennod hon hefyd yn amlygu cynnydd yn y galw am wasanaethau.

Mae rhwystrau parhaus fel anghydraddoldebau iechyd meddwl yn parhau’n broblem, ac mae angen mynd i’r afael â’r diffyg ymwybyddiaeth o amhariad synhwyraidd (gan gynnwys amhariad ar y clyw a’r golwg) yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol yn fwy eang. I wynebu’r heriau hyn, mae angen ymagwedd gydweithredol, gydgynhyrchiol, ranbarthol at drawsnewid gwasanaethau a newid agweddau at amhariad synhwyraidd (sy’n cwmpasu atal, asesu, triniaeth a chefnogaeth barhaus i holl bobl Gorllewin Morgannwg)

I grynhoi, mae rhai bylchau penodol sy’n amlwg o’r asesiad y mae angen eu hymgorffori mewn gwaith rhanbarthol a chynlluniau gwasanaeth lleol. Mae angen ymagwedd fwy cydlynol at hwyluso ffyrdd newydd o weithio.

Mae’r bylchau a amlygir yn yr asesiad yn cynnwys:

  • Gwasanaethau fel gwell ymwybyddiaeth o dechnoleg.
  • Mynediad at gludiant.
  • Mynediad at wasanaethau iechyd ac apwyntiadau.
  • Cynnydd yn nifer y Swyddogion Adsefydlu Nam ar y Golwg.
  • Yr angen i’r holl bartneriaid ymwneud yn agosach â materion sy’n gysylltiedig ag amhariad synhwyraidd.
  • Gwaith archwilio pellach mewn perthynas â phlant yr effeithir arnynt gan amhariad synhwyraidd, gan gynnwys gwasanaethau cymhwyso.
  • Yr angen am ddata a dadansoddiad pellach ar y rheini ag amhariad ar y clyw a’r golwg. 

Lawrlwytho