VAWDA cover image

Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

Mae cydnabyddiaeth ar draws y rhanbarth, er mwyn mynd i’r afael yn llwyr â materion VAWDASV, fod angen rhoi mwy o ffocws ar ymyrryd yn gynnar ac atal cychwynnol o fewn y gymuned. Rydym ar gamau cynnar datblygiad yn y maes hwn gyda’r fenter ‘Ask Me’ i lysgenhadol cymunedol yn cael ei chyflwyno ar draws Gorllewin Morgannwg, yn ogystal ag ymgyrchoedd eraill sy’n targedu grwpiau allweddol fel trinwyr gwallt, barbwyr a thimau chwaraeon. Mae e’n bwysig newid safbwynt er mwyn ‘condemnio’ cyflawnwyr VAWDASV, ac rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a’n partneriaid cyfathrebu rhanbarthol i ddatblygu hyn.

Y rheini sy’n cyflawni VAWDASV sy’n gyfrifol amdano, a rhaid gwneud gwaith i annog pob asiantaeth i gydnabod hyn. Nod y rhanbarth yw cymryd Ymagwedd System Gyfan at waith mewn perthynas â chyflawnwyr, ac rydym yn gweithio’n agos gyda’r heddlu, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a phartneriaid eraill i geisio cyflawni hyn.

Mae trais a cham-drin rhywiol yn treiddio i lawer o rannau o gymdeithas, gan gynnwys ysgolion a cholegau, gweithleoedd, economi’r nos ac agweddau ar fywyd dyddiol, felly bwriadwn weithio gyda phartneriaid ar draws yr holl sectorau i dynnu sylw at y mater a sicrhau bod pawb yn gyfrifol amdano, yn unol â Deddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru), 2015.

I ddioddefwyr/oroeswyr ag amryfal anfanteision, fel alcohol a/neu gamddefnyddio sylweddau, gall fod rhwystrau ychwanegol o ran cael lloches neu lety diogel mewn argyfwng. Cydnabyddwn fod hwn yn faes gwaith sy’n flaenoriaeth.

Er bod cynnydd da wedi’i wneud ar gyfer gwasanaethau arbenigol i’r rheini â nodweddion gwarchodedig, fel dioddefwyr hŷn a dioddefwyr LHDTC+, mae’n bwysig parhau i fonitro a datblygu’r gwasanaethau hyn gan sicrhau bod llais y dioddefwr wedi’i wreiddio mewn arfer.

Mae cyfranogiad goroeswyr a chyd-gynhyrchu yn rhan annatod o’r maes gwaith hwn, ac er y bu cynnydd yn y maes hwn, cydnabyddwn fod mwy o waith i’w wneud i ddatblygu a gwreiddio’r fframwaith goroeswyr ynghyd  phartneriaid.

Byddwn yn parhau i flaenoriaethu’r mwyaf agored i niwed a’r rheini sy’n wynebu’r risg uchaf drwy gefnogi a datblygu gwasanaethau presennol, a gweithio o fewn fframweithiau amlasiantaeth fel MARAC i sicrhau mai diogelu dioddefwyr a phlant yw’r ffocws craidd o hyd mewn arfer pob dydd.

Byddwn yn parhau i weithio gyda chydweithwyr ar draws y sector Addysg i gadw proffil VAWDASV yn uchel a gwreiddio’r Ymagwedd Ysgol Gyfan ymhellach.

Mae gweithio mewn partneriaeth rhwng gwasanaethau statudol a’r sector gwirfoddol yn yr ardal yn gryf, gyda phresenoldeb ac ymgysylltiad rhagorol yng nghyfarfodydd Grwpiau Arweinyddiaeth VAWDASV yn Abertawe a CNPT a llawer o is-grwpiau partneriaeth sy’n canolbwyntio ar ffrydiau gwaith penodol. Mae cydweithio gyda’r sector gwirfoddol yn rhan allweddol o gynllunio a darparu.

Dyma’r meysydd allweddol i’w datblygu ymhellach:

  • Ymyrryd yn gynnar ac atal cychwynnol/yn y gymuned
  • Ymgysylltu â goroeswyr
  • Ffocws ar ddwyn cyflawnwyr VAWDASV i gyfrif
  • Ymgysylltu pellach ar lefel uwch-arweinyddiaeth
  • Darpariaeth anghenion cymhleth

Lawrlwytho