Dyddiadur Gweithio ar y Cyd #6

Croeso i ‘Dyddiadur Gweithio ar y Cyd’ Gorllewin Morgannwg!

Mae hon yn fenter newydd i ni ar gyfer 2024, lle byddwn yn trafod ein rhaglenni gwaith rhanbarthol.

Croeso i gofnod diweddaraf ein Dyddiadur Gweithio ar y Cyd! Mae’n amser prysur i ni i gyd yng Ngorllewin Morgannwg a thu hwnt wrth i ni symud i’r flwyddyn ariannol newydd. Mae’r trawsnewid hwn hefyd yn arwydd o ddechrau’r gwanwyn, felly dyma obeithio am dywydd gwell 🌞

Mae’r rhifyn hwn o’n Cylchgrawn yn canolbwyntio ar gynnydd Bwrdd Llywio a Chynghori 2 (BLlC2), a gyfarfu ar 23 Ebrill. Mae BLlC2 yn cwmpasu dwy raglen waith ranbarthol – ‘Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl’ a ‘Lles ac Anabledd Dysgu’.


Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl

Cafodd aelodau’r Bwrdd gyflwyniad gan yr arweinydd rhaglen Karen Stapleton ar y dull graddol arfaethedig o weithredu’r Strategaeth Lles Emosiynol a Meddyliol ranbarthol.
Datblygwyd y Strategaeth y llynedd gyda’r nod o archwilio dull mwy ataliol o ddarparu gwasanaethau, gan bwysleisio ymyrraeth gynharach, llesiant emosiynol ac atal neu leihau dirywiad yn iechyd meddwl pobl. Mae cynllun gweithredu wedi’i ddyfeisio ac mae wedi’i rannu i’r meysydd gwaith ganlynol:

  1. Datblygu model comisiynu ar y cyd newydd ar gyfer sefydliadau trydydd sector a sefydliadau dielw. Nod y model newydd fydd comisiynu a darparu gwasanaethau ar y cyd i gefnogi dylunio gwasanaethau o amgylch yr unigolyn ac nid y sefydliad, tra ar yr un pryd yn darparu cynaliadwyedd i’r sefydliadau cymunedol hynny.
  2. Creu ffrwd waith o amgylch gwell mynediad at wasanaethau. Nododd yr ymgysylltu a wnaed yn ystod datblygiad y Strategaeth fod angen symleiddio’r system drwy ddull partneriaeth integredig, traws-sector.

Lles ac Anabledd Dysgu

Thema ‘trafnidiaeth’ yw’r flaenoriaeth gyntaf ar gyfer y Strategaeth Anabledd Dysgu ranbarthol a bydd yn destun gweithdy sydd ar y gweill wedi’i gyd-gynllunio gyda phobl ag Anabledd Dysgu. Bydd darparwyr trafnidiaeth sy’n gweithredu yn ein rhanbarth yn cyfarfod â’r rhai sydd â phrofiad o ddefnyddio trafnidiaeth i drafod heriau a manteision y ddarpariaeth bresennol. Byddwn yn eich diweddaru ar sut aeth hyn mewn cofnod arall o’r Dyddiadur.


Rhaglen Waith Newydd!

Cytunwyd yn ystod cyfarfod BLlC2 y bydd Dementia nawr yn dod yn rhaglen ar ei phen ei hun o fewn llywodraethiant Gorllewin Morgannwg. Roedd Dementia yn flaenorol yn rhan o ffrwd waith o dan y rhaglen Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl, ond o mae’r penderfyniad bellach wedi’i wneud i greu rhaglen waith ar ei ben ei hun.

Mynychodd cynrychiolwyr o amrywiaeth o sefydliadau partner weithdy ar 12 Ebrill i lywio’r maes gwaith hwn, a fydd yn cynnwys datblygu Strategaeth Dementia Ranbarthol newydd.

Cafodd aelodau’r Bwrdd gyfle hefyd i weld stori ddigidol newydd sbon sy’n amlygu’r gwaith gwych sydd ar y gweill yn ‘Hwb Dementia’ Abertawe, sydd bellach wedi ymestyn ar draws y rhanbarth ac yn fynd o nerth i nerth – cymerwch olwg! 👀👇

Bydd mwy ar waith yr Hwbs Dementia yn rhifyn nesaf ein cylchlythyr – cadwch lygad mas am hynny ym mis Mai!

Diolch am ddarllen – byddwn yn ôl ar ôl y BLlC nesaf 😊