Dyddiadur 7

Dyddiadur Gweithio ar y Cyd #7

Croeso i ‘Dyddiadur Gweithio ar y Cyd’ Gorllewin Morgannwg!

Mae hon yn fenter newydd i ni ar gyfer 2024, lle byddwn yn trafod ein rhaglenni gwaith rhanbarthol.

Croeso i gofnod diweddaraf ein Dyddiadur Gweithio ar y Cyd, sy’n cyd-daro ag Wythnos Gofalwyr 2024! Mae hyn yn amserol i ni oherwydd heddiw byddwn yn sôn am waith Bwrdd Llywio a Chynghori 1 (BLlC1) sy’n cwmpasu ein Rhaglen Gofalwyr, yn ogystal â’r Rhaglen newydd Cymunedau a Phobl Hŷn.

Cyfarfu BLlC1 ar 4 Mehefin a chafodd yr aelodau eu hatgoffa o’r weledigaeth, y themâu allweddol a’r canlyniadau a oedd wedi’u cynnwys yn y strategaeth ranbarthol ar gyfer Gofalwyr a luniwyd ar y cyd.

Un maes sylweddol fu creu ffrwd waith sy’n hwyluso cydweithio agos gyda gwasanaethau Gofal Sylfaenol gyda’r nod o gyd-gynhyrchu cynllun i wella cymorth i Ofalwyr di-dâl sy’n defnyddio gwasanaethau fel optometreg, deintyddion, fferyllfeydd a meddygon teulu.


Gofalwyr Ifanc yn Cymryd y Llwyfan

Roedd BLlC1 hefyd yn cynnwys trafodaeth fywiog am Ofalwyr Ifanc, gan gynnwys ôl-drafodaeth ar ddigwyddiad Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc y bu i ni sôn amdano mewn cofnod blaenorol o’r Dyddiadur. Rhoddodd y sesiwn, a gynhaliwyd ar 13eg Mawrth yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe, lwyfan i Ofalwyr Ifanc ein rhanbarth i dynnu sylw at yr heriau y maent yn eu hwynebu a gwneud argymhellion ar sut y gall adranau addysg a gwasanaethau eraill ddarparu cymorth ymarferol. Yna, aeth rhai o’r Gofalwyr Ifanc a fynychodd ar y diwrnod ymlaen i recordio pennod podlediad ‘Gofalwyr Ifanc Bob Dydd’ lle buont yn trafod eu profiadau a sut y gall gwasanaethau wneud mwy i helpu Gofalwyr Ifanc i gyflawni eu rôl ofalu.

Cafodd aelodau BLlC1 flas ar ddarn o’r podlediad, sydd ar gael i’w weld yn llawn ar YouTube:

Y cam nesaf i Ofalwyr Ifanc yw dechrau cyd-gynhyrchu eu ‘Digwyddiad Dathlu Gofalwyr Ifanc’ blynyddol yn yr hydref. Byddwn yn eich diweddaru ar sut mae hyn yn mynd yn nes at yr amser!


Cymunedau a Phobl Hŷn

Roedd BLlC1 hefyd yn cynnwys diweddariad ar gynnydd Cymunedau a Phobl Hŷn sy’n dal yn gymharol newydd ac yn gwneud cynnydd gwych ar draws meysydd gwaith allweddol.

Mae cynnydd sylweddol yn cynnwys:

  • Recriwtio Rheolwr Strategaeth Gwirfoddoli Rhanbarthol newydd (croeso i’r tîm, Dominic!), sydd eisoes wedi sefydlu Fforwm Rheolwyr Gwirfoddoli rhanbarthol newydd a fydd yn cyfarfod am y tro cyntaf mewn ychydig wythnosau. Bydd y Fforwm yn rhoi lle i Reolwyr Gwirfoddolwyr rannu syniadau, arfer da a chefnogaeth.
  • Creu ffrwd waith Atal Cwympiadau a fydd yn gweithredu fel pwynt canolog ar gyfer goruchwylio ac adrodd ar gyfer yr holl grwpiau a gwasanaethau sy’n ymwneud ag atal cwympiadau yn ein rhanbarth. Y dasg gyntaf yw casglu data ar bob math o ddarpariaeth atal cwympiadau. Bydd y wybodaeth a gesglir yn cael ei dadansoddi a bydd unrhyw fylchau a nodir yn llywio cyfeiriad y ffrwd waith hon yn y dyfodol.

Dyna’r cyfan am y tro – cadwch lygad mas am rifyn nesaf ein Cylchlythyr sy’n cynnwys diweddariad ar gynnydd ein Rhaglen Llesiant ac Anabledd Dysgu, yn ogystal ag eitem liwgar ar ein diwrnod yn Pride Abertawe 🌈

Diolch am ddarllen!