
Dyddiadur Gweithio ar y Cyd #19
Croeso i ‘Dyddiadur Gweithio ar y Cyd’ Gorllewin Morgannwg!
Daliwch ati i ddarllen am ddiweddariadau ar ein rhaglenni gwaith rhanbarthol a straeon eraill yn ymwneud â gofod y bartneriaeth.
Croeso i rifyn diweddaraf ein Dyddiadur Gweithio ar y Cyd. Mae’r diweddariad hwn yn canolbwyntio ar y rhaglenni gwaith rhanbarthol o dan Fwrdd Llywio a Chynghori 3 (BLlC3), a gyfarfu ar 1 Ebrill. Mae’r Bwrdd yma yn canolbwyntio ar y Rhaglen Niwroamrywiol a’r Rhaglen Plant a Phobl Ifanc.
Rhaglen Niwroamrywiol
Mae’r Rhaglen Niwroamrywiol wedi gwneud cynnydd sylweddol i sicrhau bod unigolion â chyflyrau niwroddatblygiadol yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau a’r cymorth angenrheidiol i gyfranogi’n llawn yn eu cymunedau a byw bywydau boddhaus, hyd yn oed heb asesiad neu ddiagnosis.
Mae grŵp cydgynhyrchu strategaeth wedi’i sefydlu ac mae’r aelodau’n cynllunio sut y byddwn yn mynd ati i ymgysylltu yn y misoedd nesaf. Mae’n hanfodol bod pobl sydd â phrofiad fyw yn cael eu cynnwys yn y gwaith o gyd-ddylunio pob elfen o’r strategaeth, gan gynnwys y cynlluniau ymgysylltu.
Mae menter Chwalu Chwedlau Gorllewin Morgannwg wedi bod yn cymryd camau sylweddol, gan gynnwys gweithredu strategaeth gyfathrebu lwyddiannus. Mae canlyniadau allweddol wedi cynnwys rhannu a chyfeirio at adnoddau a chymorth sydd ar gael ar hyn o bryd o fewn gwasanaethau, yn ogystal â’r cymorth a gynigir yn ysgolion, yn y cartref ac yn y gymuned y gellir cael heb asesiad.
Cydnabuwyd yr effaith hon yn y Datganiad Gweinidogol a ganlyn a chyfeiriwyd ati fel enghraifft o arfer da: www.llyw.cymru/137-miliwn-i-drawsnewid-gwasanaethau-lleihau-amseroedd-aros-adhd-ac-awtistiaeth
Derbyniodd aelodau’r Bwrdd ddiweddariad ar y prosiect Cymorth Ychwanegol ar gyfer Ymddygiad Heriol. Wedi’i ariannu drwy Gyllid Niwro-amrywiol Cenedlaethol, mae’r prosiect hwn wedi galluogi darparu cyngor ac arweiniad ymddygiadol cymwys cyn gynted â phosibl i ddemograffeg eang o deuluoedd a phobl ifanc ar draws ein rhanbarth.
Byddwn yn dod â mwy i chi ar waith y rhaglen yma yn rhifyn nesaf ein Cylchlythyr chwarterol (i’w gyhoeddi yn yr wythnosau nesaf), felly cadwch lygad mas am hynny!
Rhaglen Plant a Phobl Ifanc
Prif ffocws y darn yma o’r cyfarfod oedd cynnydd y Gwasanaeth Cymorth Therapiwtig Amlasiantaethol (MATSS), sy’n cael effaith sylweddol ar fywydau teuluoedd agored i niwed ar draws y rhanbarth (a ariennir gan y Gronfa Integreiddio Ranbarthol).
Mae MATSS yn ddull rhanbarthol a ddarperir yn lleol gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Abertawe. Mae’r prosiect yn darparu cymorth uniongyrchol i deuluoedd â phroblemau cymhleth, ac yn enwedig lle gallai fod posibilrwydd y gallai plentyn neu blant gael eu rhoi mewn gofal. Trwy ddarparu dull ataliol, mae’r model yn dod â’r holl ddarpariaeth gwasanaeth therapiwtig ynghyd i greu gwasanaeth sy’n cynnwys ystod eang o arbenigedd. Mae’n rhoi pwyslais ar uwchsgilio staff mewn meddwl therapiwtig, sy’n gwella gwybodaeth, sgiliau a hyder y gweithlu ac yn sicrhau bod plant, pobl ifanc a theuluoedd yn cael cymorth sydd wedi’i deilwra i’w hanghenion ac a ddarperir ar yr adeg gywir.
Mae ein Tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu wedi creu’r stori ddigidol ganlynol, sy’n arlunio effaith MATSS o safbwyntiau staff a’r rhai sy’n derbyn gwasanaethau:
Dyna’r cyfan oddi wrthym ni heddiw. Byddwn yn ôl gyda diweddariad arall yn fuan! 😊