
Dyddiadur Gweithio ar y Cyd #20
Croeso i ‘Dyddiadur Gweithio ar y Cyd’ Gorllewin Morgannwg!
Daliwch ati i ddarllen am ddiweddariadau ar ein rhaglenni gwaith rhanbarthol a straeon eraill yn ymwneud â gofod y bartneriaeth.
Croeso i’r 20fed rhifyn o’n Dyddiadur Gweithio ar y Cyd! Mae’r rhifyn hwn yn rhywbeth gwahanol i’r arfer gan fod cyfarfod y Bwrdd Llywio a Chynghori 1 (BLlCh1) a gynhaliwyd ar 22ain Ebrill wedi canolbwyntio’n llwyr ar waith y Rhaglen Cymunedau a Phobl Hŷn, sydd ar fin cael newidiadau sylweddol.
Roedd prif bwyslais y cyfarfod ar lwybrau rhyddhau o’r ysbyty a sut y gellid eu gwella i gefnogi cleifion i adael yr ysbyty heb unrhyw oedi diangen. Cytunodd aelodau’r bwrdd fod angen i newidiadau’r dyfodol ymgorffori egwyddorion Rhaglen Genedlaethol Chwe Nod y GIG Cymru ar gyfer Gofal Brys ac Argyfwng, sy’n anelu at ddarparu gofal iechyd effeithiol, o ansawdd uchel a chynaliadwy mor agos at adref â phosibl.
I gefnogi’r cam trosiannol hwn, cyflwynwyd cynnig ar gyfer trefniadau llywodraethu dros dro i’r Bwrdd, gan gynnwys creu Bwrdd Rhaglen Cymunedau a Phobl Hŷn newydd a fyddai’n adrodd i BLlCh1. Byddai aelodaeth y Bwrdd yn cynnwys cynrychiolwyr uwch o bob sefydliad partner, ac edrychwn ymlaen at ddod â mwy o wybodaeth i chi am gynnydd y darn o waith hwn mewn yn y dyfodol.
Prosiect Lles West Cross
Treuliodd ein Tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu ychydig o amser yn ddiweddar yn y Ganolfan Lles West Cross, a dderbyniodd fuddsoddiad gan y Gronfa Integreiddio Ranbarthol (RIF) i helpu i gryfhau cymunedau trwy ddarparu lle i bobl ddod at ei gilydd i gymdeithasu, adeiladu cysylltiadau a chael cyngor a chefnogaeth ar amrywiaeth o faterion.
Gallwch weld y fideo trwy glicio ar y ddelwedd isod:
Gallwch weld ein holl straeon digidol, yn ogystal â chyfres o animeiddiadau esboniadol ar raglenni gwaith rhanbarthol trwy ymweld â’n sianel Vimeo – www.vimeo.com/westglamorgan
Mae’r cyfarfod nesaf (Bwrdd Llywio a Chynghori 2) i fod i’w gynnal ar 13eg Mai, felly tan hynny gobeithiwn y byddwch chi i gyd yn mwynhau’r heulwen a byddwn yn ôl yn fuan gyda diweddariad arall ☀️