JWJ

Dyddiadur Gweithio ar y Cyd #21

Croeso i ‘Dyddiadur Gweithio ar y Cyd’ Gorllewin Morgannwg!

Daliwch ati i ddarllen am ddiweddariadau ar ein rhaglenni gwaith rhanbarthol a straeon eraill yn ymwneud â gofod y bartneriaeth.

Croeso i rifyn diweddaraf ein Dyddiadur Gweithio ar y Cyd. Mae cofnod heddiw yn canolbwyntio ar gyfarfod Bwrdd Llywio a Chynghori 2 (SAB2) a gynhaliwyd ar 13 Mai. Mae’r Bwrdd yma yn ymdrin â gwaith y Rhaglen Llesiant Emosiynol ac Iechyd Meddwl a’r Rhaglen Llesiant ac Anabledd Dysgu.

Rhaglen Llesiant Emosiynol ac Iechyd Meddwl

Prif ffocws y diweddariad ar gyfer y maes gwaith hwn oedd cynnydd y llifwaith ‘Model Comisiynu Newydd’. Mae dull o ddewis y model comisiynu mwyaf addas wedi’i gymeradwyo ac mae fideo ar y gweill ar hyn o bryd a fydd yn cael ei rannu gyda darparwyr. Nod y fideo fydd amlinellu manteision ac anfanteision y modelau comisiynu mwyaf cyffredin, gan roi cyfle i ddarparwyr ei wylio a’i ddeall cyn cwrdd wyneb yn wyneb i drafod yr opsiynau posibl. Disgwylir cynnal gweithdy ym mis Gorffennaf i roi cyfle i gyfranogwyr leisio’u barn drwy gyfres o weithgareddau a fydd yn helpu i nodi’r model sydd fwyaf addas ar gyfer anghenion a dewisiadau poblogaeth ein rhanbarth.

Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd Llesiant Emosiynol ac Iechyd Meddwl wyneb yn wyneb ym mis Gorffennaf. Dyma fydd cyfarfod olaf y Bwrdd i’n Cynrychiolydd Gwirfoddol, Gerald Cole. Hoffem gymryd y cyfle hwn i ddiolch yn fawr i Gerald am yr ymrwymiad a’r brwdfrydedd rhyfeddol a ddangosodd yn ystod ei amser gyda ni. Mae Gerald wedi sicrhau’n gyson fod llais y person wrth galon pob agwedd ar ein gwaith, ac rydym yn hynod o ddiolchgar am ei gyfraniadau amhrisiadwy.

Gerald

Diolch, Gerald! Mi fyddwn ni’n dy golli!

Rhaglen Llesiant ac Anabledd Dysgu

Prif ffocws elfen y Rhaglen Llesiant ac Anabledd Dysgu o SAB3 oedd yr ail-ddatblygiad arfaethedig o gyfleuster ‘Dan Y Deri’ – prosiect trawsnewidiol sy’n anelu at wella gofal arbenigol i unigolion ag anableddau dysgu ac anghenion ymddygiadol cymhleth. Adolygodd y Bwrdd achos Busnes Wedi’i Ddiwygio (BJC) yn gofyn am fuddsoddiad cyfalaf o £9.3 miliwn i greu uned therapiwtig fodern i gefnogi hyd at wyth unigolyn mewn model sy’n seiliedig ar fflatiau, gan gynnig mannau byw personol, cadarn sy’n hyrwyddo annibyniaeth a pharch.

Nod y cynllun yw gwella canlyniadau drwy ddarparu gofal i unigolion yn nes at eu teuluoedd a’u cymunedau, gan leihau’r ddibyniaeth ar leoliadau drud y tu allan i’r ardal. Cymeradwyodd y Bwrdd hefyd ddyraniad adnoddau’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol (RIF) ar gyfer 2025 – 2027 i gefnogi cyfres o brosiectau arloesol. Mae’r rhain yn cynnwys menter byw â chymorth a fydd yn cynyddu’r cyfranogiad cymunedol a hyblygrwydd, datblygu cyfleoedd mentrau cymdeithasol, a lleihau’r ddibyniaeth ar gymorth taledig – gan wneud y model yn fwy cynaliadwy ac wedi’i ganolbwyntio ar yr unigolyn.

Gyda’i gilydd, mae’r mentrau hyn yn gam sylweddol ymlaen tuag at ddarparu gwasanaethau mwy cynhwysol, ataliol ac ymgysylltiol i bobl ag anabledd dysgu ar draws y rhanbarth.

Yn Hyrwyddo Balchder yng Ngŵyl Pride Abertawe 🌈

Os oeddech chi’n bresennol yng ngŵyl Pride Abertawe eleni ar 17 Mai, efallai eich bod wedi ein gweld yn y farchnad gymunedol y tu mewn i Neuadd y Brangwyn gyda’n stondin wybodaeth. Cawson ni ddiwrnod gwych, ac rydym eisoes yn paratoi i fynychu Pride Castell-nedd Port Talbot ym mis Awst.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i ddysgu mwy am yr hyn a wnaethom ar y diwrnod – www.westglamorgan.org.uk/cy/2025/05/29/yn-hyrwyddo-balchder-yn-pride-abertawe/

Diolch am ddarllen – byddwn yn ôl gyda diweddariad arall ar ôl SAB nesaf ☺️