
Dyddiadur Gweithio ar y Cyd #22
Croeso i ‘Dyddiadur Gweithio ar y Cyd’ Gorllewin Morgannwg!
Daliwch ati i ddarllen am ddiweddariadau ar ein rhaglenni gwaith rhanbarthol a straeon eraill yn ymwneud â gofod y bartneriaeth.
Croeso i’r rhifyn diweddaraf hwn o’n Cylchgrawn Gweithio ar y Cyd. Mae’r rhandaliad hwn yn canolbwyntio ar gyfarfod y Bwrdd Llywio a Chynghori 3 (BLlaCh3) a gynhaliwyd ar 3ydd Mehefin. Mae BLlaCh3 yn ymdrin â’r Rhaglenni Niwroamrywiol a Phlant a Phobl Ifanc.
Dyma rai o’r uchafbwyntiau:
Rhaglen Niwroamrywiol
Mae Grŵp Cydgynhyrchu Strategaeth Niwroamrywiol Gorllewin Morgannwg yn parhau i wneud cynnydd da wrth lunio strategaeth ranbarthol a gynhyrchir ar y cyd sy’n hyrwyddo dull a arweinir gan anghenion ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i gefnogi unigolion niwroamrywiol ar draws Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe. Mae Gweithgor Cydgynhyrchu’r Strategaeth, sy’n cynnwys partneriaid o Gyngor Abertawe, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, sefydliadau amrywiol y trydydd sector, gofalwyr sy’n rhieni ac unigolion â phrofiad byw, yn llywio cyfeiriad ymgysylltu’r strategaeth. Mae wedi cyrraedd y camau cynllunio bellach, ac mae’n canolbwyntio ar ddefnyddio lleisiau’r rheini sydd â phrofiad byw i nodi newidiadau angenrheidiol ar gyfer pobl niwroamrywiol.
Y Rhaglen Plant a Phobl Ifanc
Cymeradwyodd aelodau BLlaCh3 gais gan Gyngor Abertawe i gaffael eiddo i’w brynu a’i ailfodelu i greu eiddo preswyl a fyddai’n darparu gofal preswyl wedi’i deilwra i bobl ifanc ag anghenion cymhleth yn Abertawe. Mae’r caffaeliad hwn yn hanfodol i sicrhau bod tai addas i blant ag anghenion cymhleth ac mae’n mynd i’r afael yn benodol â’r bwlch allweddol mewn darpariaethau llety a gofal i unigolion y mae angen lefel uchel o gymorth arnynt o ganlyniad i anableddau dysgu, cyflyrau’r sbectrwm awtistig a/neu heriau ymddygiadol.
Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynnydd y fenter hanfodol hon mewn rhifyn arall o’n Dyddiadur.
Rhwydweithiau Ymgysylltu
Rhoddodd Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Gorllewin Morganwg y wybodaeth ddiweddaraf i aelodau BLlaCh3 gyda chynllun arfaethedig i sefydlu cyfres o ‘rwydweithiau rhithwir’ ar gyfer pob un o’r rhaglenni gwaith rhanbarthol. Mae hyn yn cynrychioli dull mwy hyblyg lle gall sefydliadau ymuno â’r rhwydwaith a lledaenu gwybodaeth am weithgareddau ymgysylltu wedi’u targedu wrth iddynt ddigwydd. Bydd y rhwydweithiau hyn yn cynnwys ‘Rhwydwaith o Leisiau’ ehangach, a fydd yn cynnwys pawb ac yn caniatáu i aelodau gymryd rhan cyn lleied neu gymaint ag sy’n addas iddynt.
Cafodd y dull hwn ei dreialu yn gynharach eleni gyda’r Rhaglen Llesiant Emosiynol ac Iechyd Meddwl ac roeddem yn falch iawn o’r ymateb, felly mae hynny’n darparu sylfaen dda i ni adeiladu arni.
Rydym yn dal i ddod o hyd i’n traed gyda’r ffordd newydd hon o gynnwys pobl a sefydliadau yn ein gwaith, ond roedd yr adborth yn gadarnhaol a byddwn yn llunio ein hymdrechion wrth i’n rhwydweithiau barhau i dyfu.
Rhaglen Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru
Rhoddwyd cyflwyniad byr i’r aelodau ynghylch Rhaglen Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru, gan amlygu sut mae’r rhaglen yn sail i flaenoriaethau cynllunio gweithlu’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd ag asesiad anghenion poblogaeth y rhanbarth a’r cynlluniau strategol sy’n dilyn. Trwy gysylltu datblygu’r gweithlu’n uniongyrchol ag anghenion cymunedol a nodwyd, mae Rhaglen Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru’n chwarae rhan allweddol wrth lywio sector gofal ymatebol a chynaliadwy ar draws Gorllewin Morgannwg. Gallwch weld eu cylchlythyr diweddaraf yma: https://sway.cloud.microsoft/6OvlAWHye28ouwMv?ref=Link
Cymeradwyo Adroddiadau Diwedd Blwyddyn
Bob blwyddyn, mae rhanbarthau’n cyflwyno adroddiadau cyllid a pherfformiad i Lywodraeth Cymru i ddangos y cynnydd a wneir ar draws yr holl raglenni. Gelwir yr adroddiadau hyn yn ‘hanesion o newid’ ac fe’u cymeradwyir trwy lywodraethu’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Gallwch weld y fersiynau ar gyfer 2024-25 ar ein gwefan, ynghyd â lluniau a gwybodaeth liwgar a dogfennau sy’n amlinellu’r wybodaeth am ariannu ar gyfer pob rhaglen: www.westglamorgan.org.uk/regional-funding/financial-reports/end-of-year-reports-2024-25/
Cymeradwywyd yr adroddiadau yng nghyfarfodydd y Bwrdd Llywio a Chynghori a’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, a chanmolwyd swyddogion yn y Tîm Rhanbarthol am y gwaith a wnaed ganddynt i lunio trosolygon manwl a chynhwysfawr o’r gwaith gwych a wneir.
Dyna’r cyfan am y tro – byddwn yn dychwelyd ar ôl y cyfarfod nesaf 😊