
Astudiaeth Achos: Sut Rydym yn Gwneud Cyfarfodydd yn Hygyrch
Mae ein Bwrdd Llesiant ac Anabledd Dysgu wedi ymrwymo i sicrhau bod pob aelod, gan gynnwys pobl ag Anableddau Dysgu, yn gallu cymryd rhan lawn yn ei waith. Gyda chyfarfodydd yn amrywio rhwng fformat wyneb yn wyneb ac o bell, mae’r bwrdd wedi gweithredu sawl ateb arloesol i sicrhau hygyrchedd i bawb.
Astudiaeth Achos Fideo
Trafod Rhwystrau i Gymryd Rhan
Mae cynrychiolwyr gwirfoddol ag Anableddau Dysgu yn wynebu heriau wrth ymuno â chyfarfodydd ar-lein, gan gynnwys diffyg mynediad at offer neu’r rhyngrwyd, a dymuniad i drafod pynciau wyneb yn wyneb ag eraill am eglurder a chefnogaeth. I fynd i’r afael â’r rhwystrau hyn:
• Dogfennau Darllen Hawdd: Mae pob dogfen sy’n ymwneud â’r cyfarfodydd ar gael mewn fformat Darllen Hawdd i sicrhau eglurder a dealltwriaeth i bob aelod.
• Lleoliad Canolog ar gyfer Cyfarfodydd: Ar gyfer cyfarfodydd hybrid, gall aelodau ymgynnull mewn lleoliad canolog sydd â’r offer angenrheidiol i hwyluso eu cyfranogiad.
Defnyddio Technoleg: “Yr Owl”
Mae defnyddio’r Owl yn rhan hanfodol o alluogi cyfarfodydd hybrid – dyfais gynadledda glyfar gyda chamera 360°, matrics meicroffon, a siaradwr wedi’i gynnwys. Mae’r dechnoleg hon yn galluogi aelodau i ymuno’n ddi-dor â chyfarfodydd Microsoft Teams, gan sicrhau eu bod yn gallu rhyngweithio ag aelodau pell fel pe baent yn yr un ystafell.
“Mae e’n eithaf diddorol achos mae e’n newydd i fi! Dwi erioed wedi gweld Yr Owl o’r blaen felly roedd e’n newydd, ac yn ddiddorol dysgu pethau newydd hefyd!”
– Rob
Mae’r Meeting Owl 3 wedi’i gynhyrchu gan Owl Labs – gallwch ddarllen mwy amdano ar eu gwefan yma.
Cefnogi Anghenion Teithio
Gan gydnabod pwysigrwydd trafnidiaeth hygyrch, mae’r bwrdd yn gweithio mewn partneriaeth ag Awel Aman Tawe/Taith Co-op, cwmni Trafnidiaeth Gymunedol. Mae’r cydweithio hwn yn sicrhau bod aelodau’n gallu teithio’n ddiogel ac yn gyfforddus i’r lleoliad canolog.
“Des i yma achos wnaeth Sacha [o Awel Aman Tawe] roi lifft i fi, ac mae’n helpu fi achos dwi’n gallu cyrraedd yma. Heb Sacha’n rhoi lifft, fyswn i ddim wedi gallu dod yma a chyfrannu.”
– Georgia
Grymuso Cyfranogiad
Drwy gyfuno technoleg, dogfennau hygyrch a chefnogaeth trafnidiaeth, mae’r bwrdd yn creu amgylchedd cynhwysol lle gall pob aelod gyfrannu’n ystyrlon, waeth beth fo fformat y cyfarfod.
“Rili hawdd i fi, mae’n hawdd i ddeall achos mae’r papurau gyda fi mewn darllen hawdd, felly mae’n ei wneud yn gant y cant yn haws heb yr holl jargon [a] byrfoddau.”
– Neil
Mae’r astudiaeth achos hon yn amlygu ymagwedd ragweithiol y bwrdd at ddileu rhwystrau ac annog cynhwysiant, gan sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed a’i werthfawrogi. Gallwch ddarganfod mwy am sut rydym yn cydweithio ledled y rhanbarth yn ein Cyfnodolyn Cydweithio yma, a darllen rhagor am ein byrddau yma.