
Bwrdd Lliwio a Chynghori 2
Cynhaliwyd BLlaCh2 ar 5 Awst 2025. Dyma drosolwg o’r prif bwyntiau trafod a’r diweddariadau ar gynnydd tair o’n rhaglenni gwaith rhanbarthol…
Mae’r rhifyn hwn yn canolbwyntio ar Fwrdd Llywio a Chynghori 2, a gyfarfu ar 5 Awst. Mae’r bwrdd yn canolbwyntio ar waith y Rhaglen Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl a’r Rhaglen Lles ac Anabledd Dysgu.
Mae uchaf bwyntiau’r trafodaethau fel a ganlyn:
Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl
Rhoddodd Dr Zoe Fisher o Brifysgol Abertawe gyflwyniad i ddiweddaru aelodau’r Bwrdd am gynnydd y Strategaeth Lles Emosiynol a Meddyliol. Mae’r strategaeth yn rhoi pwyslais ar ataliaeth, ymyrryd yn gynnar, a chefnogaeth iechyd meddwl hygyrch yn y gymuned ar draws pob oedran.
Mae datblygiadau diweddar, megis Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol newydd Llywodraeth Cymru ac adolygiad annibynnol lleol, wedi llywio’r ymagwedd, gan alw am gydweddu ac integreiddio gwell rhwng rhaglenni.
Nodwyd pedair thema strategol allweddol:
- Comisiynu cydlynol: Mae hyn yn ymwneud â chreu system gydlynol drwy fframwaith comisiynu newydd. Mae’r ffrwd waith hon wedi’i hoedi ar hyn o bryd a bydd yn ailffocysu ymdrechion ar fapio cynigion presennol a gwella mynediad.
- Cryfhau gwasanaethau presennol: Mae’r thema hon yn canolbwyntio ar gryfhau gwasanaethau presennol, gwella mynediad a datblygu llwybrau amlasiantaeth megis ‘Dim Drws Anghywir’ i blant a phobl ifanc. Mae’n cynnwys lansiad y wefan SortedSupported i oedolion a tidyMinds i blant a phobl ifanc.
- Llenwi’r bylchau: Mae’r thema hon yn cynnwys treialu model seicoleg gymunedol i fynd i’r afael ag anghenion nas diwallwyd cyn i argyfwng ddigwydd, gan ganolbwyntio ar y blynyddoedd cynnar a grwpiau dan anfantais.
- Deall angen: Mae hyn yn cynnwys gwella’r ffordd y mae data yn cael ei gasglu a’i ddadansoddi ar lefel ronynnog, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, i dargedu adnoddau ac olrhain tueddiadau dros amser.
Mae’r camau nesaf yn cynnwys ymarfer mapio cydweithredol o wasanaethau rhanbarthol ac aliniad parhaus â strategaethau cenedlaethol.
Lles ac Anabledd Dysgu
Mae Rhaglen Lles ac Anabledd Dysgu Gorllewin Morgannwg yn cyflawni yn erbyn cyfres o flaenoriaethau a amlinellir yn Strategaeth Anabledd Dysgu ranbarthol 2024-2029.
Mae datblygiadau allweddol dros y misoedd diwethaf yn cynnwys:
- Fideo i hyrwyddo’r prosiect ‘Gig Buddies’ (a ariennir gan Gronfa Integreiddio Rhanbarthol Llywodraeth Cymru) a grëwyd gan dîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu’r bartneriaeth. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i wylio’r fideo: https://vimeo.com/1098239671/1f86f1ad4d. Mae ‘Gig Buddies’ yn parhau i recriwtio gwirfoddolwyr a chroesawu ceisiadau – e-bostiwch gigbuddies@ldw.org.uk am fanylion.
- Ymgysylltwyd â darparwyr cludiant ar draws ein rhanbarth i gynyddu ymwybyddiaeth o rwystrau at drafnidiaeth a sicrhau bod lleisiau pobl ag anableddau dysgu’n cael eu clywed (mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Gorllewin Morgannwg – https://www.westglamorgan.org.uk/cy/rhaglenni/rhaglen-lles-ac-anableddau-dysgu/prosiect-trafnidiaeth-anabledd-dysgu/.
- Mae tasglu a arweinir gan berson ag anabledd dysgu yn gweithio i greu Siarter Hawdd ei Deall. Nod y siarter yw gwneud gwybodaeth yn fwy hygyrch a hyrwyddo cynhwysiant, annibyniaeth a dewisiadau gwybodus.
- Mae Rhwydwaith Anabledd Dysgu Rhithwir yn cael ei ddatblygu i sicrhau bod lleisiau’r rheini a chanddynt brofiad bywyd yn cael eu cynnwys wrth weithredu’r strategaeth, gyda gweithgareddau ymgysylltu a chefnogaeth barhaus i aelodau o’r bwrdd sy’n wirfoddolwyr ag anabledd dysgu.
Diolch am ddarllen! Bydd rhagor o ddiweddariadau i ddod ar ôl cyfarfod Bwrdd Llywio a Chynghori 3 ym mis Medi ☺️