
Haf Llawn Gweithgareddau yng Ngorllewin Morgannwg!
Mae’r tywydd wedi bod yn boeth iawn yn Ne Cymru ac fe wnaethom fanteisio arno drwy fynychu dau ddigwyddiad gwych yn Nedd Port Talbot ac Abertawe.
Dyma ddiweddariad ar yr hyn rydym wedi bod yn ei wneud…
Yn Hedfan y Faner yn Pride CNPT 🌈
Cawsom ddiwrnod gwych yn Pride Castell-nedd Port Talbot ar 9 Awst, ac roeddem wrth ein boddau i fod yn rhan o ddathliadau mor arbennig! Gwnaeth ein Coeden Lles Gorllewin Morgannwg ymddangos eto, gan annog pobl i feddwl am yr hyn y mae nhw’n gwneud bob dydd i wella eu llesiant meddyliol.

Diolch enfawr i bawb a stopiodd i siarad â ni ac i lenwi deilen! 🍃
Hoffem hefyd ddiolch i’r trefnwyr am eu waith caled ac am ein cynnwys mewn diwrnod mor wych!
City Chill yn Haul yr Haf ☀️
Ar 12 Awst, dychwelwyd i’r Cwtsh Cydweithio ar gyfer Gŵyl Rhynggenhedlaeth Canol Haf Cyngor Abertawe, fel rhan o’u cyfres o ddigwyddiadau ‘City Chill’. Cawsom amser gwych yn ymgysylltu â’r gymuned ac yn rhwydweithio gyda sefydliadau eraill yn yr ardal. Hoffem ddiolch yn arbennig i Sadie’s Butterflies am adael i ni ddefnyddio eu pabell i ddianc rhag y gwres 30 gradd!

Diolch i’n ffrindiau yn Nhîm Partneriaeth ac Ymgysylltu Cyngor Abertawe am ein gwahodd i ddiwrnod mor hwyliog, lle cawsom ein diddanu gan berfformiadau gan gerddorion lleol, dawnswyr a’r Côr Heneiddio’n Dda 🎵
Rydym yn edrych ymlaen at fynychu rhagor o ddigwyddiadau yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe yn yr wythnosau nesaf – gan obeithio am fwy o heulwen a hwyl! 😎