
Bwrdd Lliwio a Chynghori 2
Cynhaliwyd BLlaCh 2 ar 18 Tachwedd 2025.
Dyma drosolwg o’r prif bwyntiau trafod o’r Rhaglen Llesiant ac Anabledd Dysgu a’r Rhaglen Llesiant Emosiynol ac Iechyd Meddwl.
Mae’r cofnod hwn o’r Dyddiadur Gweithio ar y Cyd yn canolbwyntio ar Fwrdd Llywio a Chynghori 2 a gyfarfu ar 18 o Dachwedd ac yn ymdrin â gwaith y Rhaglen Llesiant ac Anabledd Dysgu a’r Rhaglen Llesiant Emosiynol ac Iechyd Meddwl.
Dyma rai o brif bwyntiau’r drafodaeth:
Rhaglen Llesiant ac Anabledd Dysgu
Mae’r Rhaglen yn parhau i wneud cynnydd mawr ar draws blaenoriaethau Stratagaethol canlynol:
- ‘Cael y Gofal a’r Cymorth Cywir’
- ‘Fy Nghymuned’
- ‘Gwneud fy Newisiadau a Chodi fy Llais’.
O dan y flaenoriaeth ‘Cael y Gofal a’r Cymorth Cywir’, greuwyd grŵp tasg penodol dan gadeiryddiaeth Neil Williams, unigolyn â phrofiad byw. Prif nod y grŵp yw dod o hyd i ffyrdd o hyrwyddo defnydd o fersiynau ‘hawdd ei ddarllen’ o ddeunyddiau a gynhyrchir gan sefydliadau ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae’r grŵp hwn eisoes wedi adolygu’r rhwystrau i hawdd ei ddarllen’ ac wedi cytuno ar y prif flaenoriaethau y byddant yn canolbwyntio arnynt. Bydd y rhain yn cynnwys cysylltu adnoddau ‘hawdd ei ddarllen’ â gwefan Sorted Supported, creu straeon digidol i amlygu heriau bywyd go iawn gyda gwybodaeth hygyrch, a datblygu holiadur i sefydliadau er mwyn asesu defnydd a rhwystrau ‘hawdd ei ddarllen’.
O ran ‘Fy Nghymuned’, mae tri phrosiect newydd wedi’u hariannu drwy Gronfa Integreiddio Ranbarthol (RIF) Llywodraeth Cymru bellach ar waith. Y rhain yw:
- Cefnogi Cyflawni Canlyniadau Llesiant drwy Opsiynau Cymunedol (Abertawe),
- Llwybrau Cymunedol i Annibyniaeth: Gwella Gwasanaethau Dydd drwy Gymorth Cynnar ac Ymgysylltu (Castell-nedd Port Talbot), a
- Camau Nesaf – O Wasanaethau Dydd i Gymorth Cynnar, Atal ac Ymgysylltu Cymunedol (Abertawe).
Bydd y prosiectau hyn yn gweithio mewn cydweithrediad â mentrau eraill a ariennir gan RIF o fewn blaenoriaeth ‘Fy Nghymuned’ i rannu dysgu a gwneud y mwyaf o gyfleoedd i gydweithio a gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.
Mae blaenoriaeth ‘Gwneud fy Newisiadau a Chodi fy Llais’ yn darparu goruchwyliaeth o weithgareddau cydgynhyrchu ar draws holl brosiectau’r rhaglen, gan sicrhau bod pobl ag anabledd dysgu yn cael cefnogaeth i rannu eu lleisiau a’u profiadau i gyfrannu at lunio gwasanaethau. Byddwn yn rhanni mwy am gynnydd y flaenoriaeth hon mewn cofnodion dyddiadur yn y dyfodol.
Rhaglen Llesiant Emosiynol ac Iechyd Meddwl
Mae gwaith yn symud yn ei flaen fel y bwriadwyd o ran mapio ac integreiddio therapïau seicolegol ar draws sectorau. Bydd allbwn y gwaith hwn yn canolbwyntio ar leihau rhestrau aros ar gyfer gwasanaethau therapiwtig a gwella gwasanaethau trawma. Bydd hyn yn golygu y bydd pobl sydd angen gwasanaethau therapiwtig ar bob lefel o angen yn cael mynediad cyflymach at y gwasanaethau mwyaf priodol, cyhyd ag y bydd eu hangen, ac y cânt eu ‘cysylltu’n briodol â gwasanaethau cymorth eraill fel sy’n ofynnol.
Trafododd aelodau’r Bwrdd hefyd y dull ‘Dim Drws Anghywir’, a chawsant wybodaeth am gynlluniau i ddefnyddio’r model i wella mynediad at wasanaethau drwy baneli aml-asiantaeth a phwyntiau mynediad sengl. Mae gwaith ar ddatblygu’r rhain yn parhau, gyda’r cam cyntaf yn canolbwyntio ar ‘Dim Drws Anghywir’ yng nghyd-destun y Rhaglen Plant a Phobl Ifanc.
Mae’r prosiect Seicoleg Gymunedol wedi bod ar waith ers tro, gan ganolbwyntio ar ymyrryd yn gynnar yn y gymuned drwy ddefnyddio gwybodaeth fanwl o heriau a materion lleol, a thrwy ymgorffori seicolegwyr mewn clwstwr sy’n cydgynhyrchu ymyriadau gyda chymunedau.
Ystyriodd aelodau BLlaCh2 hefyd gais newydd Seicoleg Gymunedol ar gyfer cyfle cyllido tymor penodol ar gyfer Seicolegydd/Ymarferydd yng Nghlwstwr y Ddinas yn Abertawe i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau a chefnogi ymyrryd cynnar. Mae’r swydd hon ei hangen oherwydd y pwysau cymdeithasol-economaidd yn yr ardal a’r amseroedd aros hir ar gyfer therapïau seicolegol. Yn seiliedig ar adroddiadau sy’n manylu ar ganlyniadau cadarnhaol o swyddi tebyg mewn ardaloedd eraill, cymeradwyodd aelodau’r Bwrdd y cais.
Bydd y swydd yn cael ei phrosesu a’i hysbysebu yn gynnar yn 2026, gyda’r gobaith y byddwn yn gallu croesawu’r person newydd tua mis Ebrill.
Dyma’r ddiweddariad olaf ar gyfer eleni, ond cadwch eich llygaid ar agor am ein Cylchlythyr Nadoligaidd – y 10fed rhifyn ers inni ei adfywio yn dilyn y pandemig! Mae amser gwir yn hedfan!
Diolch yn fawr am ddarllen, a byddwn yn ôl gyda mwy o wybodaeth gan y Byrddau yn 2026!