Governance graphic

Creu Lle ar gyfer Newid Ystyrlon

Bydd newidiadau llywodraethu yn ein helpu i weithio’n fwy effeithlon i sicrhau gwelliannau ystyrlon ar draws ein rhanbarth.
 
Bydd y dull newydd yn symleiddio sut rydym yn gwneud penderfyniadau, gan roi mwy o amser i ganolbwyntio ar waith ymarferol.

Ar draws ein rhanbarth, mae cydweithwyr a gwirfoddolwyr (pobl â phrofiad byw a gofalwyr di-dâl) ym maes iechyd a gofal cymdeithasol a’r trydydd sector yn gweithio drwy rhai o’r amodau anoddaf rydym erioed wedi’u gweld. Mae galw yn cynyddu, mae anghenion pobl yn dod yn fwy cymhleth, ac mae pob sefydliad yn wynebu pwysau ariannol.

Fel y rheini ohonom sy’n dechrau’r flwyddyn newydd drwy dacluso a chroesawu egni newydd, mae partneriaid wedi pwysleisio bod angen i ni wneud yr un peth o ran y ffordd rydym yn gweithio – treulio llai o amser yn llunio adroddiadau diangen a chanolbwyntio ein hymdrechion ar yr hyn sy’n wirioneddol bwysig: cyflawni pethau. Gyda hyn mewn cof, cyfarfu Bwrdd Llywio a Chynghori 2 ar 10 Chwefror i drafod ffordd newydd ymlaen ar gyfer Gorllewin Morgannwg…

Beth sy’n newid?

Ar ddiwedd 2025, penderfynodd aelodau’r Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol adolygu trefniadau llywodraethu Gorllewin Morgannwg. Clywodd aelodau’r bwrdd sut bydd y trefniadau llywodraethu newydd yn cynnwys tri Bwrdd Rhaglen o dan y penawdau blaenoriaeth canlynol:

  • Pobl Hŷn
  • Trawsnewid Gwasanaethau Iechyd Meddwl
  • Comisiynu Rhanbarthol (Trawsnewid Gofal Cymhleth).

Dewiswyd y rhain am eu bod yn arwain at lawer o bwysau gan fod angen rhoi sylw brys iddynt ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae’n bwysig nodi y bydd gwaith ym meysydd Anabledd Dysgu, Dementia, Plant a Phobl Ifanc a Niwroamrywiaeth yn parhau, gyda phob un ohonynt yn adrodd i’r Bwrdd Rhaglen fwyaf perthnasol o’r tri. Bydd y Bartneriaeth Gofalwyr hefyd yn parhau ac yn adrodd i’r Bwrdd Arweinyddiaeth.

Mae’r ymagwedd newydd hon mewn ymateb i adborth a oedd yn dangos bod amser gwerthfawr yn cael ei golli ar brydiau o ganlyniad i adrodd yn ddiangen, a bod y galw am gyfarfodydd rheolaidd yn effeithio ar y gallu i gyflawni gwaith ymarferol.

Bydd y trefniadau newydd yn symleiddio sut y gwneir penderfyniadau, yn lleihau adrodd yn rheolaidd (bydd angen i gydweithwyr adrodd pan fydd mater penodol yn codi yn unig) ac yn rhyddhau amser ar gyfer gweithredu ymarferol.

Byddwn yn rhoi’r diweddaraf i chi am sut mae pethau’n mynd wrth i’r trefniadau newydd ddod i rym dros yr ychydig wythnosau nesaf.