
Aelod o’r Tîm wedi’i enwebu ar gyfer Gwobr
Taith i Fanceinion, enwebiadau ar gyfer gwobrau cenedlaethol a chyfle i ddathlu gwaith anhygoel – darllenwch bopeth am brofiad Gorllewin Morgannwg yng Ngwobrau Trafnidiaeth Gymunedol 2026.
Yn ôl ym mis Mehefin, teithiodd rhai wynebau cyfarwydd i’r Midland Hotel ym Manceinion ar gyfer Gwobrau Trafnidiaeth Gymunedol 2026! Roedd Lynsey Hargreaves o dîm Gorllewin Morgannwg, Sacha Petrie o Awel Aman Tawe, a Roxane Dacey a Christina Christie o Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe (CGGA) yn bresennol yn y digwyddiad ar ôl i bob un ohonynt gyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr. Enwebwyd Awel Aman Tawe/cynllun trafnidiaeth gymunedol Taith a CGG Abertawe ar gyfer y wobr ‘Partneriaeth y Flwyddyn’, ac enwebwyd Awel Aman Tawe ar gyfer y wobr ‘Ymrwymiad i Gynaliadwyedd’. Enwebwyd Lynsey ar gyfer y wobr ‘Cynghreiriad Trafnidiaeth Gymunedol y Flwyddyn’!

Yn y llun o’r chwith: Roxane Dacey (CGGA), Christina Christie (CGGA), Gemma Lelliot (Y Gymdeithas Trafnidiaeth Gymunedol), Sacha Petrie (Awel Aman Tawe), Lynsey Hargreaves (Gorllewin Morgannwg), Emma Bingham (Y Gymdeithas Trafnidiaeth Gymunedol)
Mae gwobrau’r Gymdeithas Trafnidiaeth Gymunedol yn cydnabod ac yn dathlu’r bobl, y sefydliadau a’r partneriaethau sy’n gwneud gwahaniaeth ar draws trafnidiaeth gymunedol, gyda llawer o bobl a sefydliadau’n cael eu cynrychioli ar draws y DU.
Cawsom noson wych yng ngwobrau’r Gymdeithas Trafnidiaeth Gymunedol ym Manceinion. Cefais fy synnu’n fawr i gael fy enwebu ar gyfer gwobr Cynghreiriad y Flwyddyn, am arwain y prosiect Trafnidiaeth Anabledd Dysgu mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Trafnidiaeth Gymunedol.
Roedd yn ysbrydoledig cwrdd â chynifer o weithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr sy’n ymroddedig i drafnidiaeth gymunedol, sy’n gwneud gwaith anhygoel ar draws y sector yn helpu pobl i gadw mewn cysylltiad â’u cymunedau a byw bywydau mwy annibynnol.
– Lynsey Hargreaves, Rheolwr Prosiect
Er nad oedd Lynsey, Sacha, Christine na Roxane yn llwyddiannus yn eu categorïau, roedd cael eu henwebu yn gyflawniad gwych ac yn gydnabyddiaeth o’u gwaith caled a’u hymroddiad.
Llongyfarchiadau i’r holl enwebeion ac enillwyr!