Amodau a Thelerau

Trwydded i ddefnyddio’r wefan

Ni allwch, heb ganiatâd ymlaen llaw:

  • ailgyhoeddi deunydd o’r wefan hon (gan gynnwys ailgyhoeddi ar wefan arall); gwerthu, rhentu neu is-drwyddedu deunydd o’r wefan;
  • dangos unrhyw ddeunydd o’r wefan yn gyhoeddus;
  • atgynhyrchu, dyblygu, copïo neu gamddefnyddio deunydd ar ein gwefan at ddiben masnachol;
  • golygu neu fel arall addasu unrhyw ddeunydd ar y wefan; neu ailddosbarthu deunydd o’r wefan hon [ac eithrio cynnwys sydd wedi’i ddarparu’n benodol i’w ailddosbarthu (fel ein cylchlythyr)].

Oni nodir yn wahanol, rydym ni neu ein trwyddedwyr yn berchen ar yr hawliau eiddo deallusol ar y wefan a’r deunydd ar y wefan. Yn amodol ar y drwydded isod, cedwir yr holl hawliau eiddo deallusol hyn. Gallwch weld, lawrlwytho at ddibenion storio yn unig, ac argraffu tudalennau o’r wefan at eich defnydd personol eich hun, yn amodol ar y cyfyngiadau a nodir isod ac mewn mannau eraill yn y telerau defnyddio hyn. Ni ddylech: Pan fydd cynnwys ar gael yn benodol i’w ailddosbarthu, dim ond o fewn eich sefydliad y gellir ei ailddosbarthu.

Defnydd Derbyniol

Ni ddylech ddefnyddio ein gwefan mewn unrhyw ffordd sy’n achosi, neu a all achosi, niwed i’r wefan neu amharu ar argaeledd neu hygyrchedd y wefan; nac mewn unrhyw ffordd sy’n anghyfreithlon, yn anghyfreithiol, yn dwyllodrus neu’n niweidiol, neu mewn cysylltiad ag unrhyw bwrpas neu weithgarwch anghyfreithlon, anghyfreithiol, twyllodrus neu niweidiol. Rhaid i chi beidio â defnyddio ein gwefan i gopïo, storio, cynnal, trosglwyddo, anfon, defnyddio, cyhoeddi neu ddosbarthu unrhyw ddeunydd sy’n cynnwys (neu sy’n gysylltiedig â) unrhyw ysbïwedd, firws cyfrifiadurol, ceffyl pren Troea, mwydyn, cofnodwr trawiadau bysellau, gwreiddwedd neu feddalwedd gyfrifiadurol faleisus arall. Rhaid i chi beidio â chynnal unrhyw weithgareddau casglu data systematig neu awtomataidd (gan gynnwys, heb gyfyngiad, crafu data, cloddio data, echdynnu data a chynaeafu data) ar neu mewn perthynas â’n gwefan heb ein caniatâd ysgrifenedig penodol. Rhaid i chi beidio â defnyddio ein gwefan i drosglwyddo neu anfon cyfathrebiadau masnach nas gofynnwyd amdanynt. Ni ddylech ddefnyddio ein gwefan at unrhyw ddibenion sy’n ymwneud â marchnata heb ein caniatâd ysgrifenedig penodol.

Cynnwys a Gynhyrchir gan Ddefnyddwyr

Yn y telerau defnyddio hyn, ystyr “eich cynnwys defnyddiwr” yw deunydd (gan gynnwys, heb gyfyngiad, destun, delweddau, deunydd sain, deunydd fideo a deunydd clyweled) rydych chi’n ei gyflwyno i’n gwefan, at ba ddiben bynnag. Rydych yn rhoi caniatâd byd-eang, di-alw’n-ôl, nad yw’n gyfyngol, heb freindal i ni i ddefnyddio, atgynhyrchu, addasu, cyhoeddi, cyfieithu a dosbarthu eich cynnwys defnyddiwr mewn unrhyw gyfryngau sydd mewn bod neu yn y dyfodol. Rydych hefyd yn rhoi’r hawl i ni is-drwyddedu’r hawliau hyn, a’r hawl i ddwyn achos am dorri’r hawliau hyn. Ni ddylai eich cynnwys defnyddiwr fod yn anghyfreithlon neu’n anghyfreithiol, rhaid iddo beidio â thorri hawliau cyfreithiol unrhyw drydydd parti, ac ni ddylai fod yn gallu arwain at gamau cyfreithiol boed hynny yn eich erbyn chi neu ni neu drydydd parti (ym mhob achos o dan unrhyw gyfraith berthnasol). Rhaid i chi beidio â chyflwyno unrhyw gynnwys defnyddiwr i’r wefan sydd, neu a fu, neu a fu erioed, yn destun unrhyw achos cyfreithiol a fygythir neu wirioneddol neu gŵyn debyg arall. Rydym yn cadw’r hawl i olygu neu ddileu unrhyw ddeunydd a gyflwynir i’n gwefan, neu sydd wedi’i storio ar ein gweinyddion, neu a gynhelir neu a gyhoeddir ar ein gwefan. Er ein hawliau o dan y telerau defnyddio hyn mewn perthynas â chynnwys y defnyddiwr, nid ydym yn ymrwymo i fonitro cyflwyno cynnwys o’r fath, neu gyhoeddi cynnwys o’r fath ar ein gwefan.

Gwarantau Cyfyngedig

Er ein bod yn ymdrechu i sicrhau bod y wybodaeth ar y wefan hon yn gywir, nid ydym yn gwarantu ei chyflawnrwydd na’i chywirdeb; nid ydym ychwaith yn ymrwymo i sicrhau bod y wefan yn parhau i fod ar gael neu fod y deunydd ar y wefan yn cael ei ddiweddaru. I’r graddau mwyaf a ganiateir gan y gyfraith berthnasol, rydym yn eithrio pob cynrychiolaeth, gwarant ac amod sy’n ymwneud â’r wefan hon a defnyddio’r wefan hon (gan gynnwys, heb gyfyngiad, unrhyw warantau a awgrymir gan y gyfraith o ansawdd boddhaol, addasrwydd at y diben a/neu ddefnyddio gofal a sgil rhesymol).

Cyfyngiadau Atebolrwydd

  • I’r graddau bod y wefan a’r wybodaeth a’r gwasanaethau ar y wefan yn cael eu darparu’n rhad ac am ddim, ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod o unrhyw fath;
  • Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod canlyniadol, anuniongyrchol neu arbennig;
  • Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled o ran elw, incwm, refeniw, arbedion disgwyliedig, contractau, busnes, ewyllys da, enw da, data, neu wybodaeth;
  • Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod sy’n deillio o unrhyw ddigwyddiad neu ddigwyddiadau y tu hwnt i’n rheolaeth resymol;
  • Bydd ein hatebolrwydd mwyaf mewn perthynas ag unrhyw ddigwyddiad neu gyfres o ddigwyddiadau cysylltiedig yn gyfyngedig i swm rhesymol.

Ni fydd unrhyw beth yn y Telerau Defnyddio hyn (neu mewn mannau eraill ar ein gwefan) yn eithrio nac yn cyfyngu ar ein hatebolrwydd am dwyll, am farwolaeth neu anaf personol a achosir gan ein hesgeulustod, neu am unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei eithrio na’i gyfyngu o dan gyfraith berthnasol. Yn ddarostyngedig i hyn, bydd ein hatebolrwydd i chi mewn perthynas â defnyddio ein gwefan neu o dan neu mewn cysylltiad â’r telerau defnyddio hyn, boed mewn contract, camwedd (gan gynnwys esgeulustod) neu fel arall, yn gyfyngedig, fel a ganlyn:

Indemniad

Rydych drwy hyn yn ein hindemnio, ac yn ymrwymo i’n cadw wedi ein hindemnio rhag unrhyw golledion, iawndal, costau, atebolrwydd a threuliau  (gan gynnwys, yn ddigyfyngiad, gostau cyfreithiol ac unrhyw symiau a dalwyd gennym ni i drydydd parti i setlo hawliad neu ddod ag anghydfod i ben ar gyngor ein cynghorwyr cyfreithiol) a gafwyd neu a ddioddefwyd gennym yn sgîl unrhyw doriad gennych chi o unrhyw ddarpariaeth yn y telerau defnyddio hyn, neu yn sgîl unrhyw honiad eich bod wedi torri unrhyw ddarpariaeth yn y telerau defnyddio hyn.

Torri’r telerau defnyddio hyn. Heb wneud drwg i’n hawliau eraill o dan y telerau defnyddio hyn, os byddwch yn torri’r telerau defnyddio hyn mewn unrhyw ffordd, gallem weithredu mewn modd sy’n briodol yn ein barn ni i ddelio â’r toriad, gan gynnwys atal eich mynediad at y wefan, eich gwahardd rhag cael mynediad at y wefan, atal cyfrifiaduron sy’n defnyddio’ch cyfeiriad IP rhag cyrchu’r wefan, cysylltu â’ch darparwr gwasanaeth rhyngrwyd i ofyn iddo atal eich mynediad at y wefan a/neu ddwyn achos llys yn eich erbyn.

Amrywio

Gallwn adolygu’r telerau defnyddio hyn o bryd i’w gilydd. Bydd telerau defnyddio diwygiedig yn berthnasol i’r defnydd o’n gwefan o ddyddiad cyhoeddi’r telerau defnyddio diwygiedig ar ein gwefan. Gwiriwch y dudalen hon yn rheolaidd i sicrhau eich bod yn gyfarwydd â’r fersiwn gyfredol.

Aseiniad

Gallwn drosglwyddo, is-gontractio neu ddelio fel arall â’n hawliau a/neu ein rhwymedigaethau o dan y telerau defnyddio hyn heb eich hysbysu chi neu gael eich caniatâd. Ni chewch drosglwyddo, is-gontractio na delio fel arall â’ch hawliau a/neu eich rhwymedigaethau o dan y telerau defnyddio hyn.

Toradwyedd

Os bydd unrhyw lys neu awdurdod cymwys arall yn penderfynu bod darpariaeth yn y telerau defnyddio hyn  yn anghyfreithlon neu’n anorfodadwy, bydd y darpariaethau eraill yn dal i fod ar waith. Pe tasai darpariaeth anghyfreithlon a/neu anorfodadwy yn gyfreithlon neu’n orfodadwy ar ôl dileu rhan ohoni,  ystyrir bod y rhan honno wedi’i dileu, a bydd gweddill y ddarpariaeth yn dal i fod ar waith.

Gwahardd hawliau trydydd parti

Mae’r telerau defnyddio hyn er eich budd chi a’n budd ni, ac ni fwriedir iddynt fod o fudd i unrhyw drydydd parti na’n orfodadwy gan unrhyw drydydd parti. Nid yw arfer ein hawliau ni a’ch hawliau chi mewn perthynas â’r telerau defnyddio hyn yn amodol ar gydsyniad unrhyw drydydd parti.

Cytundeb Cyfan

Mae’r telerau defnyddio hyn, ynghyd â’n polisi preifatrwydd, yn ffurfio’r cytundeb cyfan rhyngoch chi a ni mewn perthynas â’ch defnydd o’n gwefan, ac yn disodli’r holl gytundebau blaenorol mewn perthynas â’ch defnydd o’r wefan hon. 

Cyfraith ac Awdurdodaeth

Rheolir y telerau defnyddio hyn gan gyfraith Lloegr ac fe’u dadansoddir yn unol â honno, a bydd unrhyw anghydfodau sy’n ymwneud â’r telerau defnyddio hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth anghyfyngedig llysoedd Cymru a Lloegr.

Ein manylion

Gellir dod o hyd i’n gwybodaeth gyswllt lawn ar ein tudalen Cysylltwch â ni.