Ydych chi’n ofalwr ifanc di-dâl?

Ydych chi’n berson ifanc sy’n gofalu am aelod o’r teulu, cymydog neu ffrind?

Os ydych yn darparu cefnogaeth emosiynol, gorfforol neu ymarferol, beth bynnag fo’ch oedran a phwy bynnag rydych yn gofalu amdano, gallai hyn olygu eich bod yn ofalwr di-dâl. 

Os ydych yn oedolyn sy’n gofalu sy’n chwilio am gymorth, cliciwch yma.

Allech chi fod yn ofalwr ifanc?

A young carer is someone under 18 who helps look after a family Gofalwr ifanc yw rhywun dan 18 oed sy’n helpu i ofalu am aelod o’r teulu neu ffrind sydd â salwch, anabledd, cyflwr iechyd meddwl, neu broblem camddefnyddio sylweddau. Efallai na fyddwch yn ystyried eich hun yn ofalwr, ond os ydych chi’n gwneud unrhyw un o’r pethau a restrir isod, gallech fod yn ofalwr ifanc.

Dyma rai enghreifftiau o’r hyn y mae gofalwyr ifanc yn ei wneud yn aml:

  • Helpu i wneud tasgau o gwmpas y cartref fel glanhau, coginio, neu siopa.
  • Cynorthwyo gyda gofal personol, fel helpu rhywun i wisgo, ymolchi, neu fynd o gwmpas.
  • Cynnig cefnogaeth emosiynol drwy wrando neu gysuro rhywun pan fydd yn teimlo’n isel.
  • Rheoli meddyginiaethau, apwyntiadau neu arian.
  • Gofalu am frodyr a chwiorydd neu aelodau eraill o’r teulu oherwydd nad yw rhiant neu warcheidwad yn gallu gofalu amdanynt.

Os yw hyn yn swnio fel chi, mae cymorth ar gael i wneud yn siŵr nad ydych yn gwneud hyn ar eich pen eich hun.

Pa gymorth sydd ar gael?

Gall gofalwyr ifanc gael mynediad at ystod o gymorth, gan gynnwys cyfleoedd i gymryd seibiant o’u cyfrifoldebau gofalu drwy deithiau a gweithgareddau, yn ogystal â chefnogaeth benodol ar gyfer eu teuluoedd. Mae fforymau lle gall gofalwyr ifanc gysylltu â chyfoedion, adnoddau digidol i gynyddu ymwybyddiaeth a darparu cymorth a chardiau adnabod ar gyfer gofalwyr ifanc sy’n helpu i nodi a chydnabod eu rôl.

Cymorth yn eich ardal chi

Darperir cymorth i Ofalwyr Ifanc yng Nghastell-nedd Port Talbot gan Wasanaeth Gofalwyr Ifanc Cyngor Castell-nedd Port Talbot, ac mae cymorth yn Abertawe’n cael ei ddarparu gan Wasanaeth Gofalwyr Ifanc YMCA. Cliciwch ar y botymau isod i ddysgu mwy am yr hyn sydd ar gael gan bob sefydliad.

Seibiannau byr

Mae nifer o gyfleoedd ar draws y rhanbarth i chi gael seibiant o’ch rôl ofalu.
Os oes angen cymorth arnoch i wneud cais am un o’r seibiannau byr, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y seibiannau, cysylltwch â’ch Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc lleol.


Sut i wneud cais am gymorth

Mae’r broses atgyfeirio ychydig yn wahanol yn dibynnu ar eich lleoliad.


Cardiau adnabod gofalwyr ifanc

Mae Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe wedi mabwysiadu’r cardiau adnabod cenedlaethol i ofalwyr ifanc.

Mae’r cardiau hyn wedi’u creu gan ofalwyr ifanc, ac maent yn helpu gweithwyr proffesiynol fel meddygon, athrawon a fferyllwyr i nodi a darparu cymorth priodol. Rhoddir cardiau adnabod gofalwyr ifanc wrth i bobl ifanc gofrestru fel gofalwyr. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’ch Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc lleol.

Gallwch ddefnyddio eich cerdyn adnabod yn y sefyllfaoedd canlynol:

Yn yr ysgol:

  • Os ydych yn hwyr i’r ysgol neu ar ei hôl hi gyda’ch gwaith o ganlyniad i’ch rhwymedigaethau gofalu
  • Os oes angen i chi adael y dosbarth am gyfnod
  • Os rydych chi’n ei chael hi’n anodd canolbwyntio yn y dosbarth
  • Er mwyn aildrefnu rhwymedigaethau ysgol fel cyfarfodydd a gorfod aros ar ôl ysgol
  • Er mwyn defnyddio eich ffôn i gysylltu â’r person rydych chi’n gofalu amdano

Yn y feddygfa neu’r fferyllfa

  • I fynd i apwyntiad gyda’r person rydych chi’n gofalu amdano
  • I gasglu meddyginiaeth ar ran y person rydych chi’n gofalu amdano
  • I ofyn cwestiynau ar ran y person rydych chi’n gofalu amdano

Gallwch ddysgu rhagor am y cynllun cerdyn adnabod gofalwyr ifanc cenedlaethol yma.


Gweithgareddau Rhanbarthol

Digwyddiad Dathlu Gofalwyr Ifanc

Ar 29 Hydref 2024, cymerodd 45 o ofalwyr ifanc ran mewn digwyddiad dathlu a ddaeth â gofalwyr ifanc Castell-nedd Port Talbot, gofalwyr ifanc YMCA Abertawe a gofalwyr ifanc cymuned Affricanaidd Abertawe at ei gilydd. Roedd y diwrnod yn llawn gweithgareddau, gan gynnwys dringo waliau, gemau Nerf (yn cynnwys deinosoriaid gwadd arbennig), a chelf a chrefft a oedd yn canolbwyntio ar y thema “pethau sy’n ein gwneud ni’n hapus.” Roedd cyfle i’r cyfranogwyr fod yn greadigol drwy ddylunio cynfasau wedi’u hysbrydoli gan y pwnc hwn.

Yn dilyn y wal ddringo, daeth pawb at ei gilydd i fwynhau cinio bwffe gwych a thrafod sut mae cymunedau, amwynderau lleol, gwasanaethau a rhwydweithiau cymorth yn ddefnyddiol, yn ogystal â sut y gellid eu gwella. Fel arwydd o werthfawrogiad am eu gwaith caled a’u hymroddiad, derbyniodd pob gofalwr ifanc anrheg o ddiolch, gan gynnwys taleb ar gyfer y sinema a bocs o siocledi, gan wneud y diwrnod hyd yn oed yn fwy arbennig.

Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc 2024

Ar 13 Mawrth 2024, cynhaliodd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ddathliad ar gyfer Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc a oedd yn dod â gofalwyr ifanc, sefydliadau partner a chefnogwyr ynghyd i nodi’r achlysur.

Gweithiodd cydweithwyr o YMCA Abertawe a Chyngor Castell-nedd Port Talbot gyda gofalwyr ifanc i rannu eu profiadau, gan gynnwys yr heriau a’r llwyddiannau. Roedd trafodaethau ar y diwrnod yn canolbwyntio ar bynciau allweddol fel cardiau adnabod gofalwyr ifanc, hyrwyddwyr gofalwyr ifanc a chynyddu ymwybyddiaeth ynghylch arferion gorau i gefnogi anghenion gofalwyr ifanc mewn addysg. Mae’r straeon ysbrydoledig a chalonogol a rannwyd gan y gofalwyr ifanc wedi cael effaith barhaol, gan dynnu sylw at eu gwydnwch a’u hymroddiad. Da iawn i bawb a fu’n rhan o’r diwrnod!


Os oes angen cymorth iechyd meddwl arnoch

Gall fod â chyfrifoldebau gofalu fod yn heriol. Mae Tidyminds yn wefan sy’n gallu darparu cyngor a chefnogaeth iechyd meddwl a lles i bobl ifanc.