Polisi Preifatrwydd

Rydym yn deall bod eich preifatrwydd yn bwysig i chi a’ch bod yn poeni am sut mae eich data personol yn cael ei ddefnyddio a’i rannu ar-lein.

Rydym yn parchu ac yn gwerthfawrogi preifatrwydd pawb sy’n ymweld â’r wefan hon, a byddwn ond yn casglu ac yn defnyddio data personol yn y ffyrdd a ddisgrifir yma, ac mewn modd sy’n gyson â’n rhwymedigaethau a’ch hawliau o dan y gyfraith.

Darllenwch y Polisi Preifatrwydd hwn yn ofalus a gwnewch yn siŵr eich bod yn ei ddeall. Ystyrir eich bod yn derbyn ein Polisi Preifatrwydd wrth i chi ddefnyddio’n gwefan am y tro cyntaf. Os nad ydych yn derbyn ac yn cytuno â’r Polisi Preifatrwydd hwn, rhaid i chi roi’r gorau i ddefnyddio’n gwefan ar unwaith.

1. Diffiniadau a Dehongliadau

Yn y Polisi hwn, bydd gan y termau canlynol yr ystyron canlynol:

“Cyfrif”Bydd angen cyfrif er mwyn cael mynediad at, a / neu ddefnyddio rhai ardaloedd a nodweddion o’n gwefan;
“Cwci”Ffeil testun fach a roddir ar eich cyfrifiadur neu ddyfais gan ein gwefan pan fyddwch yn ymweld â rhannau penodol o’n gwefan a / neu pan fyddwch yn defnyddio rhai o nodweddion ein gwefan. Mae manylion y cwcis a ddefnyddir gan ein gwefan wedi’u nodi yn adran 13 isod;
‘Cyfraith Cwcis’Y rhannau perthnasol o Reoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebiadau Electronig (Cyfarwyddeb CE) 2003;
“data personol”Unrhyw ddata sy’n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o’r data hwnnw. Yn yr achos hwn, mae’n golygu data personol rydych chi’n ei roi i ni drwy ein gwefan. Bydd y diffiniad hwn, lle bo’n berthnasol, yn ymgorffori’r diffiniadau a ddarperir yn Rheoliad yr UE 2016/679 – y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (“GDPR”);
“Ni/Ein”Sef Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg, “cydweithrediad rhanbarthol” y gellir cysylltu â nhw yn Swyddfa Rhaglen Trawsnewid Gorllewin Morgannwg, Llawr 2, Y Ganolfan Ddinesig, Oystermouth Road, Abertawe SA1 3SN;
“Ein gwefan”Sef www.westglamorgan.org.uk a
“Manylion Cyswllt”Mae hyn yn golygu drwy e-bost yn west.glamorgan@abertawe.gov.uk neu yn ein cyfeiriad uchod.

2. Beth mae’r polisi hwn yn ei gynnwys?

Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn berthnasol i’ch defnydd o’n gwefan yn unig. Gall ein gwefan gynnwys dolenni i wefannau eraill. Sylwer nad oes gennym unrhyw reolaeth dros sut mae eich data yn cael ei gasglu, ei storio neu ei ddefnyddio gan wefannau eraill ac rydym yn eich cynghori i wirio polisïau preifatrwydd unrhyw wefannau o’r fath cyn darparu unrhyw ddata iddynt.

3. Eich Hawliau

Fel gwrthrych y data, mae gennych yr hawliau canlynol o dan y GDPR, y mae’r polisi hwn a’n defnydd o ddata personol wedi’u cynllunio i’w cynnal:

  • Yr hawl i gael gwybod am y data personol rydym yn ei gasglu a’n defnydd ohono;
  • Yr hawl i gael mynediad at y data personol sydd gennym amdanoch chi (gweler adran 12);
  • Yr hawl i gywiro unrhyw ddata personol sydd gennym amdanoch os yw’n anghywir neu’n anghyflawn (cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion yn adran 14);
  • Yr hawl i gael eich anghofio – h.y. yr hawl i ofyn i ni ddileu unrhyw ddata personol sydd gennym amdanoch (byddwn yn cadw’ch data personol am gyfnod cyfyngedig yn unig, fel yr eglurir yn adran 6 ond os hoffech i ni ei ddileu yn gynt, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion yn adran 14);
  • Yr hawl i gyfyngu (h.y. atal) ar brosesu eich data personol;
  • Yr hawl i gludadwyedd data (cael copi o’ch data personol i’w ailddefnyddio gyda gwasanaeth neu sefydliad arall);
  • Yr hawl i wrthwynebu ein defnydd o’ch data personol at ddibenion penodol; a
  • Hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau awtomataidd a phroffilio.

Os oes gennych unrhyw achos i gwyno am ein defnydd o’ch data personol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion a ddarperir yn adran 14 a byddwn yn gwneud ein gorau i ddatrys y broblem i chi. Os na allwn helpu, mae gennych hefyd yr hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio’r DU, Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, cysylltwch â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth neu eich Swyddfa Cyngor ar Bopeth leol.

4. Pa ddata rydyn ni’n ei gasglu?

4. Pa ddata rydyn ni’n ei gasglu?

  • Yn dibynnu ar eich defnydd o’n gwefan, efallai y byddwn yn casglu rhywfaint neu’r cyfan o’r data personol ac amhersonol canlynol (gweler adran 13 ar ein defnydd o gwcis a thechnolegau tebyg):
  • enw;
  • dyddiad geni;
  • rhyw;
  • enw busnes/cwmni;
  • teitl swydd;
  • proffesiwn;
  • manylion cyswllt megis cyfeiriad e-bost a rhifau ffôn;
  • gwybodaeth ddemograffig megis côd post, dewisiadau a diddordebau;
  • cyfeiriad IP;
  • math o borwr gwe a fersiwn;
  • system weithredu;
  • rhestr o URLau gan ddechrau gyda’r wefan gyfeirio, eich gweithgarwch ar ein gwefan, a’r wefan rydych chi’n ymweld â hi nesaf.

5. Sut rydym yn defnyddio’ch data?

Mae’r holl ddata personol yn cael ei brosesu a’i storio’n ddiogel am gyfnod nad yw’n hwy nag sy’n angenrheidiol yng ngoleuni’r rheswm/rhesymau y cafodd ei gasglu yn y lle cyntaf. Byddwn yn cydymffurfio â’n rhwymedigaethau ac yn diogelu eich hawliau o dan y GDPR bob amser. Am ragor o wybodaeth am ddiogelwch gweler adran 7 isod.

Bydd sail gyfreithlon i’n defnydd o’ch data personol bob amser, naill ai oherwydd ei fod yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni contract gyda chi, oherwydd eich bod wedi cydsynio i’n defnydd o’ch data personol (e.e. drwy danysgrifio i e-byst), neu oherwydd ei fod er ein budd cyfreithlon. Yn benodol, gallwn ddefnyddio’ch data at y dibenion canlynol:

  • Darparu a rheoli eich mynediad at ein gwefan;
  • Personoli a theilwra eich profiad ar ein gwefan;
  • Personoli a theilwra ein cynhyrchion / gwasanaethau i chi;
  • Ymateb i e-byst oddi wrthych;
  • Anfon e-byst rydych wedi dewis eu derbyn atoch (gallwch ddatdanysgrifio neu optio allan ar unrhyw adeg drwy glicio ar y ddolen yn ein negeseuon e-byst);
  • Ymchwil i’r farchnad;
  • Dadansoddi’ch defnydd o’n gwefan a chasglu adborth fel y gallwn wella’n gwefan a’ch profiad defnyddiwr yn barhaus.

Gyda’ch caniatâd a/neu lle caniateir hynny gan y gyfraith, efallai y byddwn hefyd yn defnyddio’ch data at ddibenion marchnata a all gynnwys cysylltu â chi drwy e-bost/ dros y ffôn / drwy neges destun/ drwy’r post gyda gwybodaeth, newyddion a chynigion ar ein cynnyrch/gwasanaethau. Fodd bynnag, ni fyddwn yn anfon unrhyw farchnata neu sbam heb wahoddiad atoch a byddwn yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau ein bod yn amddiffyn eich hawliau’n llawn ac yn cydymffurfio â’n rhwymedigaethau o dan GDPR a Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebiadau Electronig (Cyfarwyddeb y CE) 2003.

Gall trydydd partïon (megis Google, YouTube, Facebook) y mae eu cynnwys yn ymddangos ar ein gwefan ddefnyddio cwcis trydydd parti, fel y nodir isod yn adran 13. Cyfeiriwch at adran 13 i gael rhagor o wybodaeth am reoli cwcis. Sylwch nad ydym yn rheoli gweithgareddau trydydd partïon o’r fath, na’r data y maent yn ei gasglu a’i ddefnyddio ac fe’ch cynghorir i wirio polisïau preifatrwydd unrhyw drydydd partïon o’r fath.

Mae gennych yr hawl i dynnu eich caniatâd i ni ddefnyddio eich data personol yn ôl ar unrhyw adeg, a gofyn i ni ei ddileu.

Nid ydym yn cadw eich data personol am fwy o amser nag sy’n angenrheidiol yng ngoleuni’r rheswm/rhesymau y cafodd ei gasglu yn y lle cyntaf.

6. Sut a ble rydym yn cadw eich data?

Byddwn ond yn cadw’ch data personol cyhyd ag y mae arnom ei angen er mwyn i ni ei ddefnyddio fel a ddisgrifir uchod yn adran 6, a/neu gyhyd â bod gennym eich caniatâd i’w gadw.

Gellir storio rhywfaint neu’r cyfan o’ch data y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (“yr AEE”) (Mae’r AEE yn cynnwys holl aelod-wladwriaethau’r UE, ynghyd â Norwy, Gwlad yr Iâ, a Liechtenstein). Bernir eich bod yn derbyn ac yn cytuno i hyn drwy ddefnyddio’n gwefan a chyflwyno gwybodaeth i ni. Os byddwn yn storio data y tu allan i’r AEE, byddwn yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod eich data yn cael ei drin mor ddiogel ag y byddai yn y DU ac o dan GDPR drwy wirio bod cyflenwyr yn cydymffurfio â’r Darian Preifatrwydd a/neu ISO27001.

Mae diogelwch data yn bwysig iawn i ni, ac i amddiffyn eich data rydym wedi cymryd mesurau addas i ddiogelu data a gesglir drwy ein gwefan drwy wirio bod cyflenwyr yn cydymffurfio â’r Darian Preifatrwydd a / neu ISO27001 a thrwy ddefnyddio cysylltiadau Haenen Socedi Diogel.

7. Ydyn ni’n rhannu’ch data?

Yn amodol ar Adran 8.2, ni fyddwn yn rhannu unrhyw ran o’ch data ag unrhyw drydydd partïon at unrhyw ddibenion.

Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd yn ofynnol yn gyfreithiol i ni rannu data penodol a gedwir gennym, a all gynnwys eich data personol, er enghraifft os ydym yn ymwneud ag achosion cyfreithiol, yn cydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol, gorchymyn llys, neu awdurdod llywodraethol.

Efallai y byddwn yn creu contract gyda thrydydd partïon o bryd i’w gilydd i gyflenwi cynhyrchion a gwasanaethau i chi ar ein rhan. Gall y rhain gynnwys prosesu taliadau, dosbarthu nwyddau, cyfleusterau peiriannau chwilio, hysbysebu a marchnata. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen mynediad at rywfaint o’ch data neu’r cyfan ohono ar y trydydd partïon. Pan fydd angen unrhyw ran o’ch data at y diben hwnnw, byddwn yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau y bydd eich data’n cael ei drin yn ddiogel, ac yn unol â’ch hawliau, ein rhwymedigaethau, a rhwymedigaethau’r trydydd parti o dan y gyfraith.

Efallai y byddwn yn llunio ystadegau am y defnydd o’n gwefan gan gynnwys data ar draffig, patrymau defnydd, nifer y defnyddwyr, gwerthiannau, a gwybodaeth arall. Bydd yr holl ddata o’r fath yn ddienw ac ni fydd yn cynnwys unrhyw ddata personol, nac unrhyw ddata dienw y gellir ei gyfuno â data arall a’i ddefnyddio i’ch adnabod. Efallai y byddwn o bryd i’w gilydd yn rhannu data o’r fath gyda thrydydd partïon fel darpar fuddsoddwyr, cysylltiedigion, partneriaid a hysbysebwyr. Bydd data yn cael ei rannu a’i ddefnyddio o fewn ffiniau’r gyfraith yn unig.

Efallai y byddwn o bryd i’w gilydd yn defnyddio proseswyr data trydydd parti sydd wedi’u lleoli y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (“yr AEE”) (Mae’r AEE yn cynnwys holl aelod-wladwriaethau’r UE, ynghyd â Norwy, Gwlad yr Iâ, a Liechtenstein). Pan fyddwn yn trosglwyddo unrhyw ddata personol y tu allan i’r AEE, byddwn yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod eich data yn cael ei drin mor ddiogel ag y byddai yn y DU ac o dan y GDPR drwy wirio bod cyflenwyr yn cydymffurfio â’r Darian Preifatrwydd a / neu ISO27001.

Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd yn ofynnol yn gyfreithiol i ni rannu data penodol a gedwir gennym, a all gynnwys eich data personol, er enghraifft pan rydym yn ymwneud ag achosion cyfreithiol, yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, gorchymyn llys, neu awdurdod llywodraethol.

8. Beth sy’n digwydd os yw ein busnes yn newid dwylo?

Efallai y byddwn, o bryd i’w gilydd, yn ehangu neu’n lleihau ein busnes a gall hyn gynnwys gwerthu a / neu drosglwyddo rheolaeth o’n busnes cyfan neu ran ohono. Bydd unrhyw ddata personol rydych wedi’i ddarparu, os yw’n berthnasol i unrhyw ran o’n busnes sy’n cael ei drosglwyddo, yn cael ei drosglwyddo ynghyd â’r rhan honno, a chaniateir i’r perchennog newydd neu’r parti sy’n rheoli o’r newydd ddefnyddio’r data hwnnw dan delerau’r Polisi Preifatrwydd hwn, at yr un dibenion y cafodd ei gasglu gennym yn wreiddiol yn unig.

Os bydd unrhyw ran o’ch data yn cael ei drosglwyddo yn y fath fodd, ni chysylltir â chi ymlaen llaw i’ch hysbysu o’r newidiadau.

9. Sut gallwch chi reoli eich data?

Yn ogystal â’ch hawliau o dan y GDPR, a nodir yn adran 4, rydych yn cyflwyno data personol drwy ein gwefan, ac efallai y rhoddir opsiynau i chi gyfyngu ar ein defnydd o’ch data.  Yn benodol, ein nod yw rhoi rheolaethau cryf i chi mewn perthynas â’n defnydd o’ch data at ddibenion marchnata uniongyrchol (gan gynnwys y gallu i optio allan o dderbyn negeseuon e-bost gennym, y gallwch wneud hynny drwy ddatdanysgrifio gan ddefnyddio’r dolenni a ddarperir yn ein negeseuon e-byst ac ar adeg darparu’ch manylion a thrwy reoli eich cyfrif).

Efallai y byddwch hefyd am gofrestru i un neu fwy o’r gwasanaethau dewis sy’n gweithredu yn y DU: Y Gwasanaeth Dewis Galwadau Ffôn (“y TPS”), y Gwasanaeth Dewis Galwadau Ffôn Corfforaethol (“y CTPS”), a’r Gwasanaeth Dewis Post (“yr MPS”). Gall y rhain helpu i’ch atal rhag derbyn marchnata heb wahoddiad. Sylwer, fodd bynnag, na fydd y gwasanaethau hyn yn eich atal rhag derbyn cyfathrebiadau marchnata yr ydych wedi cydsynio i’w derbyn.

10. Eich hawl i gadw gwybodaeth yn ôl

Gallwch gyrchu rhai rhannau o’n gwefan heb ddarparu unrhyw ddata o gwbl. Fodd bynnag, er mwyn defnyddio’r holl nodweddion a swyddogaethau sydd ar gael ar ein gwefan efallai y bydd gofyn i chi gyflwyno data penodol neu ganiatáu i ni ei gasglu.

Gallwch gyfyngu ar ein defnydd o gwcis. Am ragor o wybodaeth, gweler adran 12.

11. Sut gallwch chi gael mynediad at eich data?

Mae gennych hawl i ofyn am gopi o unrhyw ran o’ch data personol a gedwir gennym ni (lle cedwir data o’r fath). O dan y GDPR, nid oes unrhyw ffi yn daladwy a byddwn yn darparu’r holl wybodaeth mewn ymateb i’ch cais yn rhad ac am ddim. Cysylltwch â ni am ragor o fanylion gan ddefnyddio’r manylion cyswllt uchod.

12. Sut rydym yn defnyddio cwcis

Gall ein gwefan osod a chyrchu cwcis parti cyntaf penodol ar eich cyfrifiadur neu ddyfais. Cwcis parti cyntaf yw’r rhai a osodir gennym ni yn uniongyrchol ac fe’u defnyddir gennym ni yn unig. Rydym yn defnyddio cwcis i hwyluso a gwella’ch profiad o’n gwefan ac i ddarparu a gwella’n cynnyrch/gwasanaethau. Rydym wedi dewis y cwcis hyn yn ofalus ac wedi cymryd camau i sicrhau bod eich preifatrwydd a’ch data personol yn cael eu diogelu a’u parchu bob amser.

Drwy ddefnyddio’n gwefan, efallai y byddwch hefyd yn derbyn cwcis trydydd parti penodol ar eich cyfrifiadur neu ddyfais. Cwcis trydydd parti yw’r rhai a osodir gan wefannau, gwasanaethau a / neu bartïon heblaw am y ni. Defnyddir cwcis trydydd parti ar ein gwefan at ddibenion hysbysebu a darparu gwybodaeth dadansoddol marchnata. Am ragor o fanylion, cyfeiriwch at adran 6 uchod, ac adran 13.6 isod. Nid yw’r cwcis hyn yn rhan annatod o weithrediad ein gwefan ac ni fydd unrhyw amharu ar eich defnydd a’ch profiad o’n gwefan drwy wrthod cydsynio iddynt.

Mae’r holl gwcis a ddefnyddir gan ac ar ein gwefan yn cael eu defnyddio yn unol â chyfraith cwcis gyfredol.

Cyn i gwcis trydydd parti sy’n defnyddio’ch data personol gael eu gosod ar eich cyfrifiadur neu ddyfais, bydd ffenestr naid yn gofyn am eich caniatâd i osod y cwcis hynny. Drwy roi eich caniatâd i osod cwcis rydych yn ein galluogi i ddarparu’r profiad a’r gwasanaeth gorau posib i chi. Os dymunwch, gallwch wrthod rhoi caniatâd i osod cwcis; fodd bynnag, efallai na fydd rhai o nodweddion ein gwefan yn gweithio’n llawn neu fel y bwriadwyd. Rhoddir cyfle i chi dderbyn y defnydd o gwcis parti cyntaf yn unig a rhwystro cwcis trydydd parti sy’n defnyddio’ch data personol.

Mae rhai o nodweddion ein gwefan yn dibynnu ar gwcis i weithredu. Mae Cyfraith Cwcis yn datgan bod y cwcis hyn yn “gwbl angenrheidiol”. Mae’r cwcis hyn i’w gweld isod yn adran 13.6. Ni fydd eich caniatâd yn cael ei geisio i osod y cwcis hyn, ond mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol ohonynt o hyd. Gallwch rwystro’r cwcis hyn o hyd drwy newid gosodiadau eich porwr rhyngrwyd fel y manylir isod yn adran 13.10, ond dylech wybod efallai na fydd ein gwefan yn gweithio’n iawn os ydych yn gwneud hynny. Rydym wedi cymryd gofal mawr i sicrhau nad yw eich preifatrwydd mewn perygl drwy gydsynio i’r defnydd o gwcis.

Gellir gosod y cwcis parti cyntaf canlynol ar eich cyfrifiadur neu ddyfais:

  • Cwci rheoli i’n galluogi i rwystro cwcis dewisol eraill
  • Cwcis i gynorthwyo gyda gweithrediad y wefan
  • Gellir gosod y cwcis trydydd parti canlynol ar eich cyfrifiadur neu ddyfais:
  • Google Analytics – Casglu Data Dienw
  • Facebook Pixel
  • Google Conversion/Remarketing

Mae ein gwefan yn defnyddio gwasanaethau dadansoddeg a ddarperir gan Google Analytics. Mae dadansoddeg gwefannau yn cyfeirio at set o offer a ddefnyddir i gasglu a dadansoddi gwybodaeth anhysbys am ddefnydd, gan ein galluogi i ddeall yn well sut mae ein gwefan yn cael ei defnyddio. Mae hyn, yn ei dro, yn ein galluogi i wella’n gwefan a’r cynhyrchion / gwasanaethau a gynigir drwyddi. Nid oes rhaid i chi ganiatáu i ni ddefnyddio’r cwcis hyn, fodd bynnag, er nad yw ein defnydd ohonynt yn peri unrhyw risg i’ch preifatrwydd na’ch defnydd diogel o’n gwefan, mae’n ein galluogi i wella ein gwefan yn barhaus, gan ei gwneud yn brofiad gwell a mwy defnyddiol i chi.

Yn ogystal â’r rheolaethau a ddarparwn, gallwch ddewis galluogi neu analluogi cwcis yn eich porwr rhyngrwyd. Mae’r rhan fwyaf o borwyr rhyngrwyd hefyd yn eich galluogi i ddewis a ydych am analluogi pob cwci neu gwcis trydydd parti yn unig. Yn ddiofyn, mae’r rhan fwyaf o borwyr rhyngrwyd yn derbyn cwcis ond gellir newid hyn. Am fanylion pellach, edrychwch ar y ddewislen help yn eich porwr rhyngrwyd neu’r ddogfennaeth a ddaeth gyda’ch dyfais.

Gallwch ddewis dileu cwcis ar eich cyfrifiadur neu ddyfais ar unrhyw adeg, fodd bynnag, efallai y byddwch yn colli unrhyw wybodaeth sy’n eich galluogi i gael mynediad at ein gwefan yn gyflymach ac yn fwy effeithlon gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, osodiadau mewngofnodi a phersonoli.

Argymhellir eich bod yn diweddaru’ch porwr rhyngrwyd a’ch system weithredu a’ch bod yn edrych ar yr help a’r arweiniad a ddarperir gan ddatblygwr eich porwr rhyngrwyd a gwneuthurwr eich cyfrifiadur neu ddyfais os ydych yn ansicr ynghylch addasu’ch gosodiadau preifatrwydd.

13. Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein gwefan neu’r Polisi Preifatrwydd hwn, cysylltwch â ni am ragor o fanylion gan ddefnyddio’r manylion cyswllt uchod. Sicrhewch fod eich ymholiad yn glir, yn enwedig os yw’n gais am wybodaeth am y data sydd gennym amdanoch (fel o dan adran 11, uchod).

14. Newidiadau i’n Polisi Preifatrwydd

Efallai y byddwn yn newid y Polisi Preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd (er enghraifft, os bydd y gyfraith yn newid). Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu postio ar unwaith ar ein gwefan a bernir eich bod wedi derbyn telerau’r Polisi Preifatrwydd ar eich defnydd cyntaf o’n gwefan yn dilyn y newidiadau. Rydym yn argymell eich bod yn gwirio’r dudalen hon yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.