Journal header Welsh

Dyddiadur Gweithio ar y Cyd #2

Croeso i ‘Dyddiadur Gweithio ar y Cyd’ Gorllewin Morgannwg!

Mae hon yn fenter newydd i ni ar gyfer 2024, lle byddwn yn trafod ein rhaglenni gwaith rhanbarthol.

Croeso i ail gofnod ein ‘Dyddiadur Gweithio ar y Cyd’. Rydym yn falch i gael rhannu datblygiadau cyffrous, gan gynnwys crynodeb o’r hyn a ddigwyddodd yn y Bwrdd Llywio a Chynghori diweddaraf, stori ddigidol newydd sbon, a ddathliad penblwydd!

Bwrdd Llywio a Chynghori 1 (BLlCh1)

Y rhaglen newydd sbon, sef ‘Cymunedau a Phobl Hŷn’ newydd rhaglen prif ffocws BLlCh1 ar 30 Ionawr. Pwrpas y rhaglen newydd yw i greu cysylltiadau gyda sefydliadau, y trydydd sector a phoblogaeth hŷn ein rhanbarth er mwyn cydgynhyrchu gofal o’r safon orau bosibl.

Derbyniodd aelodau’r Bwrdd drosolwg o’r cyfarfod cyntaf y Bwrdd Cymunedau a Phobl Hŷn, a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2023. Y prif gamau gweithredu ar gyfer y Bwrdd fydd cydweithio i ddatblygu Strategaeth Cymunedau a Phobl Hŷn. Y cynllun yw i gysylltu â sefydliadau a thimau ‘Heneiddio’n Dda’ ar draws ein rhanbarth i gasglu syniadau a phrofiadau a fydd yn llywio’r Strategaeth newydd.

Roedd y Strategaeth Gwirfoddoli ranbarthol newydd sbon hefyd yn ymddangos ar agenda y Bwrdd. Lansiwyd y Strategaeth ar Ddiwrnod Rhyngwladol Gwirfoddolwyr (5 Rhagfyr) a gellir dod o hyd iddo trwy glicio yma. Mae’r darn hwn o waith yn carreg filltir i’n rhanbarth ac mae’n rhan o brosiect ehangach, sef ‘Cymorth Gwirfoddoli Gorllewin Morgannwg’ (CGGM) – www.westglamorgan.org.uk/cy/cggm

Llwyddiant Tŷ Westfield

Mae ein tîm cyfathrebu ac ymgysylltu wrth eu boddau yn mynd allan a threulio amser gyda phrosiectau a gwasanaethau a ariennir yn rhanbarthol, ac nid oedd yr ymweliad diweddar â Thŷ Westfield yn eithriad.

Mae Tŷ Westfield yn cynnig gwasanaeth cam-i-lawr i bobl sydd newydd gael eu rhyddhau o’r ysbyty ond sydd angen rhywfaint o gymorth ychwanegol/asesiad i benderfynu sut olwg fydd ar eu gofal yn y dyfodol.

Mae’r stori isod yn rhoi drosolwg gwych o’r gwasanaeth. Roedd y fideo yn llwyddiant mawr gydag aelodau y Bwrdd pan gafodd ei chwarae yng nghyfarfod mis Ionawr:

Pen-blwydd y Hwb Dementia

Dementia Hwb sign - 2 today!

Roedd yn anrhydedd i aelodau tîm Gorllewin Morgannwg fynychu dathliad pen-blwydd y Hwb Dementia Abertawe yn 2 oed ar 29 Ionawr.

Yn dilyn cyfnod peilot llwyddiannus yn 2022, dyfarnwyd cyllid grant i’r prosiect drwy’r Gronfa Integreiddio Ranbarthol, a weinyddwyd drwy Bartneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg.

Roedd yn wych clywed am y gwaith hanfodol mae Hwb Dementia yn ei wneud i ddarparu cefnogaeth, rhannu gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth o ddementia. Roedd Arglwydd Faer Abertawe ac Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg ymhlith y gwesteion ar y diwrnod, a mwynhaodd pawb bwffe a chacen pen-blwydd i nodi’r achlysur.

Mae’r Hwb Dementia bellach yn ymestyn ei wasanaeth ar draws y rhanbarth! Mae ‘Hwbs’ symudol yn gweithredu mewn lleoliadau amrywiol, a lansiwyd ‘Hwb Dementia’ Castell-nedd Port Talbot yng Nghanolfan Siopa Aberafan ar 30 Ionawr.

Ewch i www.dementiafriendlyswansea.org am fwy o wybodaeth.