Dyddiadur

Dyddiadur Gweithio ar y Cyd #4

Croeso i ‘Dyddiadur Gweithio ar y Cyd’ Gorllewin Morgannwg!

Mae hon yn fenter newydd i ni ar gyfer 2024, lle byddwn yn trafod ein rhaglenni gwaith rhanbarthol.

Croeso i gofnod diweddaraf ein Dyddiadur Gweithio ar y Cyd! Mae mis Mawrth wedi bod yn fis llawn digwyddiadau hyd yn hyn wrth i aelodau o’n tîm fynd hwnt ac yma yn y gymuned yn cynnal ac yn mynychu digwyddiadau amrywiol. Un ffocws allweddol oedd rhoi ein Strategaeth Lles Emosiynol a Meddyliol ar waith, ac roedd y sesiwn ‘Rhoi Gweledigaeth ar Waith’ ar 8 Mawrth wedi helpu i lywio’r camau nesaf ar gyfer ei chyflawni.

Hefyd, wyddech chi fod Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc ar 13 Mawrth? Roeddem yn falch o ymuno â chydweithwyr ym maes Addysg a’r Gwasanaethau Cymdeithasol o bob rhan o’r rhanbarth i nodi’r achlysur a darparu llwyfan i Ofalwyr Ifanc amlygu’r heriau maent yn eu hwynebu a sut gall gwasanaethau gynnig cefnogaeth.

Darllenwch ymlaen i ddysgu mwy am y digwyddiadau hynod bwysig hyn, yn ogystal â chael y diweddaraf am yr hyn a ddigwyddodd yng nghyfarfod diweddaraf y Bwrdd Llywio a Chynghori ar 12 Mawrth.

  • ‘Rhoi Gweledigaeth ar Waith’ – Cyflawni’n Strategaeth

Roedd pawb yn awyddus i drafod y pwnc Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl ddydd Gwener 8 Mawrth pan gynhaliom ein bore galw heibio ‘Rhoi Gweledigaeth ar Waith’ yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Nod y sesiwn oedd dod â sefydliadau a’r cyhoedd ynghyd i ystyried y gwaith ymarferol o roi’r Strategaeth Lles Emosiynol a Meddyliol ar waith. Cawsom amser prysur iawn a gwnaethom ganolbwyntio ar y gweithgareddau rhyngweithiol, gan gynnwys arddangosiadau realiti rhithwir, T’ai Chi a phaffio!

Boxing

Roedd llawer o gyffro drwy gydol y sesiwn, a ddilynwyd gan weithdy dynodedig a oedd yn cynnwys sefydliadau partner a gwirfoddolwyr. Diolch yn fawr i bawb a oedd wedi cyfrannu!

  • Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc
Young Carers delivering a presentation

Roedden ni nôl yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar 13 Mawrth i ddathlu Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc gyda sefydliadau partner a gofalwyr ifanc eu hunain.

Cefnogwyd Gofalwyr Ifanc gan gydweithwyr o YMCA Abertawe a Chyngor Castell-nedd Port Talbot i rannu eu profiadau (da a gwael) ar y diwrnod. Roedd pynciau’n cynnwys Cardiau Adnabod Gofalwyr Ifanc, Hyrwyddwyr Gofalwyr Ifanc ac ymwybyddiaeth ac arfer da cyffredinol o ran Gofalwyr Ifanc a’u hanghenion mewn addysg.

Roedd straeon pwerus ac emosiynol y Gofalwyr Ifanc wedi golygu bod yn diwrnod yn un llawn ysbrydoliaeth – da iawn i bawb a fu’n rhan ohono!

  • Bwrdd Llywio a Chynghori 3 (BLlaCH3)

Mae BLlaCh3 yn cwmpasu dwy raglen waith ranbarthol – ‘Plant a Phobl Ifanc’ a ‘Niwroamrywiol’. Mae’r ddwy raglen ar gamau cynnar datblygu strategaethau rhanbarthol gyda chefnogaeth gan Lab Cydgynhyrchu Cymru i helpu i gynllunio’r ymagwedd at ymgysylltu.

Cyfarfu BLlaCh3 ar 12 Mawrth i drafod y broses datblygu strategaeth a chawsant weld stori ddigidol newydd yn amlinellu gwaith prosiect ‘Brighter Futures’ yr elusen Faith in Families. Ariennir y prosiect drwy Gronfa Integreiddio Rhanbarthol (CIRh) Llywodraeth Cymru ac mae’n cynnig cefnogaeth i bobl ifanc sy’n cael anhawster gyda’u lles emosiynol a meddyliol.

Cymerwch gip! 👇

Diolch am ddarllen – byddwn nôl gyda diweddariad arall ar ôl BLlaCh y nesaf!