Amdanom Ni

Sefydlwyd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg fel rhan o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am gefndir a chyd-destun creu’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol.

Sefydlwyd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, a elwid gynt yn ‘Bae’r Gorllewin’, yn 2012 gyda’r diben o integreiddio gwasanaethau’n fwy effeithiol.

Ein nod yw archwilio ffyrdd newydd ac arloesol o weithio i sicrhau bod gwasanaethau’n gynaliadwy yn wyneb galw cynyddol a hinsawdd ariannol heriol.

Mae Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg yn un o saith yng Nghymru, sydd yn cael eu darparu yng nghyd-destun Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.