Rhaglen Pobl Hŷn

Mae Pobl Hŷn yn un o flaenoriaethau’r bartneriaeth, ar y dudalen hon gallwch ddysgu mwy am yr hyn y mae’r rhaglen yn anelu at ei gyflawni yn ogystal â’i ffrydiau gwaith.

I weld ein blaenoriaethau cliciwch yma

Meysydd Allweddol y Rhaglen

Mae Rhaglen Pobl Hŷn Gorllewin Morgannwg yn gweithio i drawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol i bobl hŷn ar draws y rhanbarth, gan gynnwys pobl sy’n byw gyda dementia ac eiddilwch.

Ein nod yw helpu pobl i fyw bywydau iach, annibynnol a boddhaol am gyhyd â phosib, yn y lle y maen nhw’n ei alw’n gartref ac o fewn y cymunedau y maen nhw’n eu hadnabod a’u gwerthfawrogi.

Drwy wrando ar brofiad bywyd pobl a gweithio mewn partneriaeth, rydym yn creu gwasanaethau sy’n ataliol, yn gydlynus ac yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu dulliau arloesol sy’n canolbwyntio ar atal, lles a hunan-ofal, gan helpu pobl i gadw’n iach a chynnal eu hannibyniaeth heb fod angen rhagor o gymorth dwys. Mae hyn yn cynnwys cryfhau gwasanaethau cymunedol a sicrhau bod pobl yn cael mynediad at yr help cywir ar yr adeg gywir.

Pan fydd angen gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol statudol ar bobl, rydym yn gweithio i sicrhau eu bod yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt ac yn gallu dychwelyd adref yn ddiogel ac yn gyflym, gyda’r gefnogaeth gywir ar waith i barhau â’u hadferiad a’u lles yn eu cymuned.

Gyda’n gilydd, rydym yn adeiladu dyfodol lle gall pobl hŷn ffynnu, parhau i fod mewn cysylltiad â’u cymunedau, a byw gydag urddas, dewis ac annibyniaeth yn hwyrach mewn bywyd.

Gan weithio ar draws Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, rydym yn dod ag awdurdodau lleol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, sefydliadau’r trydydd sector, darparwyr annibynnol, pobl hŷn, pobl sy’n byw gyda dementia a gofalwyr di-dâl ynghyd i wella iechyd, lles ac ansawdd bywyd.

Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar chwe maes allweddol:

Mae gweithio mewn partneriaeth, cyd-gynhyrchu a phrofiad bywyd yn sail i bopeth a wnawn, gan sicrhau bod gwasanaethau wedi’u cynllunio o amgylch yr hyn sy’n bwysicaf i bobl hŷn a’u teuluoedd.

Dysgwch Mwy