Cefnogi Pobl i Fyw’n Dda gyda Dementia
Mae Rhaglen Pobl Hŷn Gorllewin Morgannwg wedi ymrwymo i wella bywydau pobl sy’n byw gyda dementia a’r rhai sy’n gofalu amdanynt. Rydym yn gweithio gyda phobl sydd â phrofiad bywyd, gofalwyr di-dâl, gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a sefydliadau cymunedol i gryfhau cefnogaeth ar gyfer dementia ar draws y rhanbarth.

Our aim is to ensure people can access the right help at the right time, remain connected to their communities and live as indepEin nod yw sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at yr help cywir ar yr adeg gywir, aros yn gysylltiedig â’u cymunedau a byw mor annibynnol â phosib am gyhyd â phosib.
Mae’r meysydd gwaith allweddol yn cynnwys:
- Cryfhau llwybrau dementia a mynediad at gymorth.
- Gwella gwasanaethau dementia a chyngor ar ddementia yn y gymuned.
Rydym wedi ymrwymo i weithio ochr yn ochr â phobl â phrofiad bywyd i sicrhau bod gwasanaethau’n dosturiol, yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac wedi’u cynllunio o amgylch yr hyn sy’n bwysicaf i unigolion a’u teuluoedd.
