
Arloesedd
Mae Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg yn ymrwymedig i arloesedd parhaus yn y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Ar y dudalen hon, gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae ein timau digidol a chyfathrebu yn ei wneud i gefnogi’r nod o ”feddwl yn wahanol’.
Sut rydym yn arloesi…
…yn ein rhaglenni
Mae pobl wrth wraidd ein gwaith ac rydym yn gweithio’n galed i gyflawni’r hyn sy’n bwysig ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae ein rhaglenni yn feysydd sydd wedi’u nodi fel blaenoriaeth gan ein poblogaeth ac rydym bob amser yn ymdrechu i arloesi yn ein nod o ysgogi newid.

…yn ddigidol
Mae arloesedd wrth wraidd gweithio mewn partneriaeth wrth i ni ymdrechu i wella bywydau a lles ein preswylwyr. Sefydlwyd yr hybiau Cydlynu Arloesedd Rhanbarthol mewn partneriaethau rhanbarthol ar draws y genedl gyda’r nod o gryfhau aliniad a chydlynu arloesedd sy’n digwydd o fewn y system iechyd a gofal cymdeithasol, gan ganolbwyntio ar ymchwil a datblygu polisïau a strategaethau trawsnewid ar draws y system gyfan.

…wrth gyfleu’r neges
Gan fod trawsnewid y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol wrth wraidd nodau’r partneriaethau, mae ymgysylltu â’r rhai sydd â phrofiadau bywyd yn hanfodol. Mae ein tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu yn gweithio’n galed i gyfleu’r lleisiau hynny, yn ogystal ag ymdrechu i rannu’r neges o weithio mewn partneriaeth i bobl ledled y rhanbarth. Mae Gorllewin Morgannwg yn cyhoeddi cylchlythyrau a dyddiaduron rheolaidd, yn ogystal â chynnal cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ar lwyfannau fel Twitter/X a Facebook. Mae ein tîm cyfathrebu hefyd wedi bod yn gweithio ar gyfres o straeon digidol, gan gofnodi gwaith ein rhaglenni a’r sefydliadau trydydd sector rydym yn gweithio gyda nhw, ac mae’r rhain yn cael eu rhannu ar y dyddiadur gweithio ar y cyd yn ogystal ag ar ein tudalen Vimeo.

…wrth gael pobl i gymryd rhan
Mae cyd-gynhyrchu yn hanfodol i’r bartneriaeth felly mae lleisiau ein preswylwyr â phrofiad bywyd yn amhrisiadwy. Mae Gorllewin Morgannwg yn cynnwys cynrychiolwyr gwirfoddol a di-dâl ar bob lefel o’r bartneriaeth, o’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yr holl ffordd i lawr i ffrydiau gwaith unigol. Mae gennym ystod o adnoddau sydd o gymorth i gynrychiolwyr ein bwrdd, fel ein Strategaeth Gwirfoddoli, siarter cydgynhyrchu a llawlyfr gwirfoddolwyr.

Gwaith Cydlynu Arloesedd Rhanbarthol
Asesiad o Anghenion y Boblogaeth
Mae’r Asesiad o Anghenion y Boblogaeth (AAB) yn ymarfer ar y cyd sy’n cael ei gynnal gan bartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol i gasglu gwybodaeth am les pobl a’r rhwystrau sy’n eu hatal rhag cyflawni ymdeimlad o les. Mae hefyd yn ceisio penderfynu ar anghenion gofal a chefnogaeth pobl (gan gynnwys bylchau yn y fath ddarpariaeth) fel y gellir datblygu a thargedu gwasanaethau’n unol â hyn.
