Adnoddau ar gyfer Sefydliadau

Ydych chi’n sefydliad y mae ganddo ddiddordeb mewn cynnwys gwirfoddolwyr? Mae gennym amrywiaeth o adnoddau, gan gynnwys datblygu cyfleoedd, treuliau, y Gymraeg a llawer mwy!

Gwirfoddoli mewn Cartrefi Gofal – Canllaw arfer dda

Archwiliwch arweiniad cynhwysfawr sy’n amlinellu’r ffyrdd y gall gwirfoddolwyr a’r trydydd sector gyfrannu’n ystyrlon tuag at gartref gofal. Gallwch ddeall ffactorau allweddol y mae angen eu hystyried wrth ystyried cynnwys gwirfoddolwyr, yn ogystal ag opsiynau amrywiol i lywio’ch camau gweithredu nesaf.

Older man being offered a hot drink

Fideo Astudiaeth Achos

Os hoffech weld rhagor o fideos, gweler y rhestr chwarae lawn yma.

Taflenni gwybodaeth

Toolkits

Adnoddau Hyfforddiant

Fel rhan o Brosiect Cymorth Gwirfoddoli Gorllewin Morgannwg (CGGM), datblygwyd cyfres o ddeunyddiau hyfforddi i’w defnyddio gan sefydliadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr fel rhan o’u proses sefydlu gwirfoddolwyr. Mae’r modiwlau wedi’u cynllunio i fod yn hyblyg, fel y gall sefydliadau addasu a chyfeirio at eu polisïau a’u gweithdrefnau eu hunain. Bwriedir i’r modiwlau fod yn rhyngweithiol, gan alluogi i’r rheini sy’n mynychu gymryd rhan, ac i’r hwylusydd wirio dealltwriaeth a dysgu drwy amrywiaeth o ddulliau.

Gellir defnyddio pob modiwl fel modiwl annibynnol neu ochr yn ochr â’r modiwlau eraill yn y pecyn.

Ar gyfer pwy y mae’r pecynnau hyfforddi? Fe’u datblygwyd i helpu sefydliadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr gyda’u prosesau sefydlu gwirfoddolwyr.

Beth sydd yn y pecyn hyfforddi? Mae’r pecyn yn cynnwys 5 modiwl. Mae pob modiwl yn cynnwys cyflwyniad PowerPoint, cynllun sesiwn, nodiadau manwl i’r hyfforddwr a phecyn gweithgareddau.

Mae’r modiwlau sydd ar gael hyd yn hyn yn cynnwys:

Sut i gael mynediad at y pecynnau hyfforddi:

I ofyn am gopi am ddim o’r pecyn neu’r pecynnau, cysylltwch â*:

  • CGGA os ydych yn Abertawe drwy e-bostio scvs@scvs.org.uk
  • CGGCNPT os ydych yng Nghastell-nedd Port Talbot drwy e-bostio info@nptcvs.org.uk

*Nodwch ‘Pecynnau Hyfforddi Prosiect CGGM’ yn llinell destun yr e-bost.