Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad

Mae Adroddiadau ar Sefydlogrwydd y Farchnad (ASF) yn offeryn sy’n gallu helpu Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh) wrth iddynt gynllunio a chomisiynu gofal a chefnogaeth o safon ar gyfer eu poblogaethau. Dylai’r adroddiadau hyn helpu BPRh i benderfynu ar siâp cyffredinol a chydbwysedd y farchnad ar gyfer gofal a chefnogaeth o fewn y rhanbarth.

Mae Adran 144B o Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 

yn gofyn i awdurdodau lleol baratoi a chyhoeddi ASF a gwneud darpariaethau ar gyfer rheoliadau gan amlinellu’r ffurf angenrheidiol ar gyfer eu cyflwyno.

Amlinellir y materion hyn yn Trefniadau Partneriaeth (Diwygio) a Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Adroddiadau ar Sefydlogrwydd y Farchnad) (Cymru) 2021.

I baratoi ar gyfer eu ASF, mae angen i awdurdodau lleol ymgynghori â’r bwrdd iechyd lleol. Mae’n rhaid cyflawni’r gwaith o baratoi a chyhoeddi ASF fel rhanbarth.

Gweler y dolenni canlynol i gael rhagor o wybodaeth am y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn ogystal â chael mynediad at ein Cynllun Ardal a’n Hasesiad o Anghenion y Boblogaeth.

Gellir dod o hyd i gopi o Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg drwy glicio yma.