Cynllun Ardal

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol i lunio cynllun ardal. 

Mae’r Cynllun Ardal yn ystyried anghenion gofal a chefnogaeth pobl, yn unol â chanlyniadau Asesiad Poblogaeth, ac yn amlinellu’r camau sy’n angenrheidiol i ddiwallu’r anghenion hyn.

Mae’r Cynllun Ardal yn cynnwys pum blaenoriaeth ranbarthol lefel uchel i fynd i’r afael ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol.