Anabledd Dysgu

Mae hwn yn faes allweddol o’r Rhaglen Trawsnewid Gofal Cymhleth, i ddysgu mwy am y rhaglen cliciwch yma.

Cefnogi annibyniaeth, cynhwysiant a’r gofal a’r cymorth cywir

Mae’r rhaglen yn cefnogi gwaith i wella mynediad, cynhwysiant a lles i bobl ag anableddau dysgu. Mae hyn yn cynnwys cryfhau gweithio amlddisgyblaethol rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, gwella mynediad at wybodaeth, a chynyddu nifer y bobl sy’n cael archwiliad iechyd blynyddol.

Mae’r gwaith hwn yn cysylltu’n agos â’r gwaith llety a chomisiynu rhanbarthol, oherwydd mae angen mynediad at opsiynau llety addas, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar bobl ag anableddau dysgu, sy’n eu helpu i fyw’n agosach at gartref a pharhau i fod mewn cysylltiad â’u cymunedau. 

Mae hefyd yn croesgyfeirio’r trefniadau cydweithio ac ariannu ar y cyd rhanbarthol, gan gynnwys cyllidebau cyfunol a phrosesau cliriach ar gyfer cytuno ar gyfrifoldebau cyllido, fel bod penderfyniadau’n fwy cyson a bod pobl yn profi llai o oedi wrth gael y gofal a’r cymorth cywir. 

Mae blaenoriaethau presennol yn cynnwys: 

  • Cryfhau gweithio amlddisgyblaethol rhwng iechyd a gofal cymdeithasol i bobl ag anableddau dysgu. 
  • Gwella mynediad at wybodaeth hawdd ei deall am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. 
  • Cynyddu nifer y bobl ag anableddau dysgu sy’n cael archwiliadau iechyd blynyddol. 
  • Cysylltu â’r gwaith llety a chomisiynu i gefnogi opsiynau llety lleol addas. 
  • Cysylltu â threfniadau ariannu ar y cyd a chyllidebau cyfunol i gefnogi penderfyniadau cliriach a mwy amserol.

Mae Bwrdd y Rhaglen Anabledd Dysgu yn ceisio adeiladu ar lwyddiannau blaenorol a gwneud newidiadau lle bo angen i drawsnewid gwasanaethau, gan alluogi pobl ag anableddau dysgu i gael bywydau boddhaus sy’n seiliedig ar yr hyn sy’n bwysig iddynt. Y bwriad yw sicrhau bod pobl ag anabledd dysgu’n cael mynediad at gymorth ychwanegol er mwyn cyrraedd eu potensial llawn, ac i ddileu rhwystrau ac anghydraddoldebau.

Strategaeth Anabledd Dysgu 2024-2029

Animeiddiad sy’n Esbonio’r Strategaeth

Yn ddiweddar, mae Bwrdd y Rhaglen Anabledd Dysgu wedi cyd-gynhyrchu Strategaeth Anabledd Dysgu ranbarthol bum mlynedd newydd (ar gyfer oedolion), ynghyd â chynllun gweithredu ategol.

Mae copïau o’r fersiwn lawn a’r ddogfen hawdd ei deall ar gael i’w lawrlwythoisod.
Bydd y cynllun gweithredu’n darparu blaenoriaethau a phrosiectau’r dyfodol i Fwrdd y Rhaglen Anabledd Dysgu, sydd i’w datblygu dros oes y strategaeth.

Dogfennau’r Strategaeth

Canlyniadau’r Strategaeth

Blaenoriaeth 1 – Trafnidiaeth

Wrth ddatblygu ein Strategaeth Anabledd Dysgu, dywedodd pobl wrthym fod Trafnidiaeth yn flaenoriaeth allweddol, dylai mynd o le i le fod yn fwy diogel, a dylai trafnidiaeth redeg yn amlach a bod yn haws ei defnyddio. Trefnom weithdy a ddaeth â phobl ag anableddau dysgu a gweithwyr proffesiynol yn y sector trafnidiaeth ynghyd fel y gallwn gyflawni’r nod hwn.

Astudiaethau Achos

Sut Rydyn Ni’n Gwneud Cyfarfodydd yn Hygyrch

Mae ein Bwrdd Lles ac Anabledd Dysgu wedi ymrwymo i sicrhau bod pob aelod, gan gynnwys y rhai ag Anableddau Dysgu, yn gallu cymryd rhan lawn yn ei waith. Gyda chyfarfodydd wyneb yn wyneb ac o bell yn digwydd bob yn ail â’i gilydd, mae’r bwrdd wedi rhoi sawl ateb arloesol ar waith i sicrhau hygyrchedd i bawb.

Rhaglen Trawsnewid Gofal Cymhleth