Plant a Phobl Ifanc ag Anghenion Cymhleth

Mae hwn yn faes allweddol o’r Rhaglen Trawsnewid Gofal Cymhleth, i ddysgu mwy am y rhaglen cliciwch yma.

Cefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd drwy gynllunio cydgysylltiedig

Mae’r maes gwaith hwn yn cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth y mae angen ymateb cydlynus arnynt gan bartneriaid iechyd, gofal cymdeithasol, addysg ac eraill. 

Mae’r rhaglen yn gweithio i gryfhau’r broses gwneud penderfyniadau amlasiantaeth fel bod cymorth yn cael ei gynllunio o amgylch y plentyn neu’r person ifanc a’i deulu. Mae hyn yn cynnwys datblygu llwybr rhanbarthol ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth. 

Nod allweddol yw helpu plant a phobl ifanc i gael gafael ar y cymorth cywir ar yr adeg gywir, gydag opsiynau mwy lleol, sy’n canolbwyntio ar blant lle bynnag y bo modd. 

Mae blaenoriaethau presennol yn cynnwys: 

  • Datblygu llwybr amlasiantaeth rhanbarthol ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth ac felly gwella cydgynllunio rhwng iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg. 
  • Gweithio tuag at yr agenda Dileu drwy archwilio opsiynau ar gyfer llety a chymorth yn agosach at adref. 

Rhaglen Trawsnewid Gofal Cymhleth