
Llety a Chomisiynu
Mae hwn yn faes allweddol o’r Rhaglen Trawsnewid Gofal Cymhleth, i ddysgu mwy am y rhaglen cliciwch yma.
Helpu pobl i gael mynediad at y cymorth cywir yn y lle cywir
Mae Ffrwd Waith y Strategaeth Comisiynu Llety yn dod â phartneriaid iechyd ac awdurdodau lleol at ei gilydd i gryfhau comisiynu rhanbarthol, cynllunio llety a chynaliadwyedd y farchnad ar draws Gorllewin Morgannwg. Mae’r ffrwd waith yn ceisio sicrhau bod pobl ag anghenion cymhleth yn gallu cael mynediad at lety a chymorth priodol, cynaliadwy, o ansawdd uchel, wrth wella cysondeb, tryloywder a chydweithio ar draws sefydliadau partner.

Mae’r ffrwd waith yn canolbwyntio ar hyn o bryd ar gryfhau sylfeini comisiynu rhanbarthol drwy ddatblygu dulliau mwy cyson o osod ffioedd, ymgysylltu â darparwyr, rheoli contractau a gwybodaeth am y farchnad. Drwy adeiladu sylfaen dystiolaeth a rennir a gwella prosesau comisiynu, gall partneriaid wneud penderfyniadau mwy gwybodus, cefnogi marchnad ofal gynaliadwy a chynllunio’n fwy effeithiol ar gyfer anghenion llety yn y dyfodol.
Bydd proses comisiynu a chynllunio llety gryfach yn ein helpu i wneud penderfyniadau gwell, gwella ansawdd a lleihau dibyniaeth ar leoliadau cost uchel neu y tu allan i’r ardal.
Mae blaenoriaethau presennol yn cynnwys:
- Gwneud penderfyniadau comisiynu’n fwy cyson a thryloyw.
- Gwella dealltwriaeth o anghenion llety presennol ac yn y dyfodol.
- Gweithio gyda darparwyr i gryfhau cynaliadwyedd a sefydlogrwydd y farchnad.
- Datblygu data a thystiolaeth well i gefnogi cynllunio a buddsoddi.
- Gwella cydweithio rhanbarthol ar draws partneriaid iechyd a gofal cymdeithasol.
Bwriedir i’r holl flaenoriaethau presennol osod y sylfeini ar gyfer strategaeth llety ranbarthol ar gyfer y dyfodol i ddatblygu opsiynau llety cynaliadwy, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn sy’n cefnogi pobl i fyw’n agosach at eu cartref a chadw mewn cysylltiad â’u teuluoedd a’u cymunedau.